A Oedd Yr Arlywydd Truman Yn Iawn I Fomio Hiroshima ?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A Oedd Yr Arlywydd Truman Yn Iawn I Fomio Hiroshima ?

Postiogan Blewyn » Llun 31 Hyd 2005 10:54 am

<Wedi darllen yr edefyn am drais>

Oedd o ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan bartiddu » Llun 31 Hyd 2005 11:27 am

Pe tawn i wedi bod yn garcharor rhyfel a oedd wedi gael ei gamdryn ac arteithio
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Blewyn » Maw 01 Tach 2005 8:44 am

bartiddu a ddywedodd:Wedi gweld sawl rhaglen ddogfen, ac un yn ddiweddar yn arbennig a wnaeth ail greu
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: A Oedd Yr Arlywydd Truman Yn Iawn I Fomio Hiroshima ?

Postiogan Ahm » Iau 03 Tach 2005 10:00 pm

Blewyn a ddywedodd:<Wedi darllen yr edefyn am drais>

Oedd o ?


Nagoedd. Yn bendant nagoedd
Rhithffurf defnyddiwr
Ahm
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Iau 07 Gor 2005 9:48 pm

Postiogan Cath Ddu » Iau 03 Tach 2005 10:34 pm

Oedd yn anffodus.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cymro13 » Gwe 04 Tach 2005 12:50 pm

Ddim yn cytuno gyda'r penderfyniad o bell ffordd ond mae'n neud i ni feddwl am faint byddai'r rhyfel wedi para os na wnaethan nhw ddefnyddio'r bom a faint bydde wedi marw
Roedd son uchod fod Japs yn gwrthod ildio ac ymladd i'r dyn olaf os felly gall y rhyfel fod wedi dragio mas am fisoedd os nad blynyddoedd ac efallau bydde mwy o bobl wedi marw o achos hynny na wnaeth farw yn Hiroshima
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Sleepflower » Gwe 04 Tach 2005 12:52 pm

Digwyddiad cyntaf y rhyfel oer oedd Hrioshima, nid ddigwyddiad olaf yr ail rhyfel byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 04 Tach 2005 12:55 pm

Fyddai'r rhyfel ddim wedi llusgo mlaen am lawer hirach a go brin fyddai cymaint wedi eu lladd a laddwyd gan y ddau fom.

Y prif wahaniaeth oedd y byddai byddin Rwsia wedi cyrraedd Siapan a dod a'r walad o dan eu rheolaeth hwy, yn hytrach na'r Americanwr general McArthur fel ddigwyddodd ar ol gollwng y ddau fom.

I'r rheiny sy'n dweud ei fod yn iawn, fyddech chi'n dweud y byddai wedi bod yn ian gollwng bomiau niwclear ar Frankfurt a Bonn er mwyn gorfodi Hitler i ildio cyn i'r Rwsiaid rhag cyrraedd Berlin? Ynteu ydi hynna braidd yn agos i adre?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan bartiddu » Gwe 04 Tach 2005 1:04 pm

Yr irony yw, os fedwrch ei alw'n eironi, bod rhan sylwedol o'r wranium a ddefnyddiwyd yn bomiau'r UDA wedi cael ei rhyng-gipio oddi ar llongdanfor Almaenaidd o'dd ar ei ffordd i Siapan, lle fyddai'r peth wedi cael ei datblygu mewn i bom eu hunain, a hwyrach ei defnyddio yn erbyn.....? :?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Chwadan » Gwe 04 Tach 2005 1:57 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Fyddai'r rhyfel ddim wedi llusgo mlaen am lawer hirach a go brin fyddai cymaint wedi eu lladd a laddwyd gan y ddau fom.

Ond does na'm ffordd deud run ffordd na'r llall, yn enwedig wrth ein bod ni'n gallu edrych ar y cyfnod mewn retrospect. Elli di'n gneud y fath ddatganiadau heb roi rhyw fath o awgrym pam, siawns?

Yn bersonol, swn i ddeud onibai fod Japan wedi ei tharo yn galed ac ar y tir mawr (doedd na neb wedi trio ymosod ar fano o gwbl), fasa'r Ymerawdr heb ildio, ac heb gal yr arwydd ganddo fo fasa'r milwyr wedi brwydro i'r eitha (glywodd rywun am y ddau filwr Japaneaidd gafodd eu darganfod yn y jyngl yn Burma chydig fisoedd yn ol - dal yn meddwl fod y rhyfel ymlaen?!).

Swn i'm yn deud mai Hiroshima oedd dechrau'r Rhyfel Oer - mi oedd y berthynas rhwng yr USSR a'r UDA lawer iawn mwy cymhleth na hynny. Dim dyfais i ddychryn y Rwsiaid oedd y bom - doeddan nhw'm hanner parod i wynebu'r UDA ar y pryd a doedd na'n sicr ddim proffwydo y byddai'r Rhyfel Oer yn datblygu. Roedd y chwyldro niwclear yn y 1950au yn dipyn pwysicach swn i ddeud.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron