A Oedd Yr Arlywydd Truman Yn Iawn I Fomio Hiroshima ?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Analeiddiwr » Gwe 04 Tach 2005 1:58 pm

Braidd yn hwyr erbyn wan dydi?
Rhithffurf defnyddiwr
Analeiddiwr
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 362
Ymunwyd: Mer 26 Ion 2005 12:23 pm
Lleoliad: Y Broncs, Aberystwyth.

Postiogan Dan Dean » Gwe 04 Tach 2005 2:50 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yn anffodus.

Ymha ffordd? Roedd byddin Siapan yn ffwcd, erbyn y mis Mehefin roedd Curtis LeMay, y dyn oedd yn gyfrifol am fomio'r wlad, yn dweud nad oedd llawer o dargedau ar ol. Sa chdi hefyd yn dweud yr un peth os sa Hitler wedi gwneud hyn i Gymru?

A edrych be roedd rhai o'r Americanwyr pwysig yn ddweud, y rhai oedd yn gwybod beth oedd y sefyllfa ar y pryd:

Dwight Eisenhower, Mandate For Change a ddywedodd:"...in [July] 1945... Secretary of War Stimson, visiting my headquarters in Germany, informed me that our government was preparing to drop an atomic bomb on Japan. I was one of those who felt that there were a number of cogent reasons to question the wisdom of such an act. ...the Secretary, upon giving me the news of the successful bomb test in New Mexico, and of the plan for using it, asked for my reaction, apparently expecting a vigorous assent.

"During his recitation of the relevant facts, I had been conscious of a feeling of depression and so I voiced to him my grave misgivings, first on the basis of my belief that Japan was already defeated and that dropping the bomb was completely unnecessary, and secondly because I thought that our country should avoid shocking world opinion by the use of a weapon whose employment was, I thought, no longer mandatory as a measure to save American lives. It was my belief that Japan was, at that very moment, seeking some way to surrender with a minimum loss of 'face'. The Secretary was deeply perturbed by my attitude..."


Eisenhower eto, ar Newsweek, 1963 a ddywedodd:"...the Japanese were ready to surrender and it wasn't necessary to hit them with that awful thing."



ADMIRAL WILLIAM D. LEAHY, Chief of Staff to Presidents Franklin Roosevelt and Harry Truman a ddywedodd:"It is my opinion that the use of this barbarous weapon at Hiroshima and Nagasaki was of no material assistance in our war against Japan. The Japanese were already defeated and ready to surrender because of the effective sea blockade and the successful bombing with conventional weapons.

"The lethal possibilities of atomic warfare in the future are frightening. My own feeling was that in being the first to use it, we had adopted an ethical standard common to the barbarians of the Dark Ages. I was not taught to make war in that fashion, and wars cannot be won by destroying women and children."



Herbert Hoover a ddywedodd:"...the Japanese were prepared to negotiate all the way from February 1945...up to and before the time the atomic bombs were dropped; ...if such leads had been followed up, there would have been no occasion to drop the [atomic] bombs."


Norman Cousins, The Pathology of Power a ddywedodd:"MacArthur's views about the decision to drop the atomic bomb on Hiroshima and Nagasaki were starkly different from what the general public supposed. When I asked General MacArthur about the decision to drop the bomb, I was surprised to learn he had not even been consulted. What, I asked, would his advice have been? He replied that he saw no military justification for the dropping of the bomb. The war might have ended weeks earlier, he said, if the United States had agreed, as it later did anyway, to the retention of the institution of the emperor."


Ai resd mai ffycing ces.

Am son mai hwn oedd dechrau'r rhyfel oer, rhaid gweld be roedd Ysgrifennydd Rhyfel Truman, Henry L. Stimson, wedi dweud ar ol i'r bom ffrwydro:

Henry L. Stimson a ddywedodd:"In the State Department there developed a tendency to think of the bomb as a diplomatic weapon. Outraged by constant evidence of Russian perfidy, some of the men in charge of foreign policy were eager to carry the bomb for a while as their ace-in-the-hole. ... American statesmen were eager for their country to browbeat the Russians with the bomb held rather ostentatiously on our hip."
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Chwadan » Gwe 04 Tach 2005 3:52 pm

Dan Dean a ddywedodd:Am son mai hwn oedd dechrau'r rhyfel oer, rhaid gweld be roedd Ysgrifennydd Rhyfel Truman, Henry L. Stimson, wedi dweud ar ol i'r bom ffrwydro:

Henry L. Stimson a ddywedodd:"In the State Department there developed a tendency to think of the bomb as a diplomatic weapon. Outraged by constant evidence of Russian perfidy, some of the men in charge of foreign policy were eager to carry the bomb for a while as their ace-in-the-hole. ... American statesmen were eager for their country to browbeat the Russians with the bomb held rather ostentatiously on our hip."

Be ma hynna fod i ddangos? Wrth gwrs fod na dueddiad ymysg rhai pobl i feddwl sa nhw'n licio browbeatio'r Rwsiaid - doedd y Rwsiaid di twyllo'r Americaniaid yn y Berlin offensive, di'w gwylltio nhw yn Yalta a di gwrthod tynnu'u byddinoedd o Ewrop? A'r cwbl yn yr wyth mis cyn Hiroshima! Os mai browbeatio'i gilydd oedd yr arwydd cynta fod y rhyfel oer di dechra, mi oedd y Rwsiaid di dechra gneud hynna i'r Gorllewin ymhell cyn i rai Americaniaid feddwl fod y bom yn ffordd da o browbeatio'r Rwsiaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Analeiddiwr » Gwe 04 Tach 2005 3:56 pm

Be am i ni gyd gymyd brec bach o'r drafodaeth yma am chydig, a cymyd rhyw eiliad bach i edrcyh ar y llun yma? --->
Delwedd



Nafo, teimlo'n well wan dydach?
Rhithffurf defnyddiwr
Analeiddiwr
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 362
Ymunwyd: Mer 26 Ion 2005 12:23 pm
Lleoliad: Y Broncs, Aberystwyth.

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 04 Tach 2005 4:29 pm

Llun hyfryd Analeiddiwr. 8)

Allai gynnig cwestiwn hyfryd arall?

A oedd hi'n deg i Hitler orfod ymladd rhyfel yng nghanol cyflawni genocide?


Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yn anffodus.


:rolio:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Sioni Size » Gwe 04 Tach 2005 9:28 pm

Chwadan
Be ma hynna fod i ddangos? Wrth gwrs fod na dueddiad ymysg rhai pobl i feddwl sa nhw'n licio browbeatio'r Rwsiaid...


Henry L. Stimson a ddywedodd:American statesmen were eager for their country to browbeat the Russians with the bomb held rather ostentatiously on our hip."

Arglwydd mawr. Lecio'r defnydd o italics yn fana, Chwadan.
OAFSFMIT
American Statesmen.
American Statesmen.
American Statesmen.
Ond mae rhai pobol a'u tueddiadau yr un mor amherthnasol ac unryw rai debyg.
Da hefyd ydi'r safbwynt sy'n dilyn mai'r Rwsiaid ddechreuodd o p'run bynnag felly ya boo sucks.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cath Ddu » Gwe 04 Tach 2005 11:23 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Fyddai'r rhyfel ddim wedi llusgo mlaen am lawer hirach a go brin fyddai cymaint wedi eu lladd a laddwyd gan y ddau fom.


Ar ba sail ti'n honni na fyddai'r rhyfel wei parhau?

23/3/1945 fe ffurfiwyd 'People's Volunteer Units' am y tro cyntaf yn Japan er mwyn 'amddiffyn' y wlad rhag ymosodiad Americanaidd.

23/6/1945 newidwyd yr unedau hyn gan greu mandad filwrol benodol - yr enw newydd 'People's Volunteer Combat Corps'.

Propoganda'r cyfnod yn datgan fod angen "marwolaeth 100 miliwn i amddiffyn y genedl"

Yn amlwg tydi datblygiadau fel yr uchod ddim yn awgrymu bwriad i roi gorau i'r ymgyrch. Dylid hefyd nodi fod gan fyddin Japan 1,900,000 o filwyr dan rym arfau o fewn y wlad yng Ngorffennaf 1945. Pe byddai y milwyr hyn wedi ymladd mewn unrhyw ffordd gyfatebol i luoedd Japan yn Okinawa yna dwi'n credu fod modd derbyn y byddai colledion America wedi bod yn anferthol.

Felly doedd dewis defnyddio'r bomb ddim o reidrwydd yn anfoesol.

Mr Gasyth a ddywedodd:I'r rheiny sy'n dweud ei fod yn iawn, fyddech chi'n dweud y byddai wedi bod yn iawn gollwng bomiau niwclear ar Frankfurt a Bonn er mwyn gorfodi Hitler i ildio cyn i'r Rwsiaid rhag cyrraedd Berlin? Ynteu ydi hynna braidd yn agos i adre?


Dwi ddim yn deall hwn o gwbwl. Be di hyn, rhyw fath o gyhuddiad o hiliaeth neu nimbyism? Ta waeth, dadl amherthnasol o ystyried pederfyniad yr UDA i roi rhwydd hynt i Rwsia goncro Berlin - darllena Berlin gan Beevor am drafodaeth ar y mater.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 04 Tach 2005 11:35 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yn anffodus.

Ymha ffordd? Roedd byddin Siapan yn ffwcd, erbyn y mis Mehefin roedd Curtis LeMay, y dyn oedd yn gyfrifol am fomio'r wlad, yn dweud nad oedd llawer o dargedau ar ol. Sa chdi hefyd yn dweud yr un peth os sa Hitler wedi gwneud hyn i Gymru?


Sori, dy bwynt? Ta emosiwn yn unig yw dy ddadl?

O ran diddordeb doedd byddin Japan DDIM yn 'hollol ffwcd' ym Mehefin 1945. Yr oedd yna leiafswm o 1,900,000 o filwyr dan arfau yn Japan ym Mehefin 1945. I roi hyn yn ei gyd-destun yr oedd gan luoedd Japan 77,000 o filwyr yn Okinawa yn Ebrill 1945. Fe gollodd lluoedd yr UDA y canlynol wrth oresgyn Okinawa;

- suddo 36 o gychod
- difrodi 368 o gychod eraill
- collwyd 4,900 o aelodau o lynges yr UDA mewn llai na mis o frwydro
- lladdwyd neu anafwyd 39,420 o luoedd arfog yr UDA ar yr ynys
- collwyd 763 awyren

Rwan dwi ddim yn fathamategydd, ond os ma dyma'r modd yr oedd 77,000 o filwyr Japan yn fodlon ymladd yn Ebrill a Mai 1945 beth sy'n awgrymu na fyddai 1,900,000 + militia's lleol ddim wedi gwneud ymdrech gyffelyb pe bai'r UDA wedi ymosod ar dir mawr Japan?

Mae dy ddyfyniadau oll yn ddifyr ac yn gywir dwi'n siwr, ond beth yw dy bwnt?

Doedd y penderfyniad ddim yn un ysgafn. Nid mwynhad oedd y 'motive'. Ond yn dilyn Okiniawa fedrai Arlywydd yr UDA fod wedi dewis yn wahanol?

Ni chredaf. Dylet fod yn ofalus Dan rhag mesur gweithredoedd 1945 o gyffoddusrwydd dy lyfrau hanes yn 2005. A dyna pam dwi'n parhau i gredu fod y penderfyniad yn gywir yn anffodus.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Chwadan » Sad 05 Tach 2005 12:30 am

Sioni Size a ddywedodd:
Chwadan
Be ma hynna fod i ddangos? Wrth gwrs fod na dueddiad ymysg rhai pobl i feddwl sa nhw'n licio browbeatio'r Rwsiaid...


Henry L. Stimson a ddywedodd:American statesmen were eager for their country to browbeat the Russians with the bomb held rather ostentatiously on our hip."

Arglwydd mawr. Lecio'r defnydd o italics yn fana, Chwadan.
OAFSFMIT
American Statesmen.
American Statesmen.
American Statesmen.
Ond mae rhai pobol a'u tueddiadau yr un mor amherthnasol ac unryw rai debyg.
Da hefyd ydi'r safbwynt sy'n dilyn mai'r Rwsiaid ddechreuodd o p'run bynnag felly ya boo sucks.

"Tendency" ydi'r gair mae Stimson yn ddefnyddio (licio'r selective quoting hefyd, da rwan Sioni :rolio:), lly ma'n iawn i mi ddehongli'r dyfyniad felna. Dyna'r broblem efo trio defnyddio un dyfyniad bach i brofi dadl - dio jyst ddim yn ddigon.

Be am i ti drio gwrthbrofi be dwi'n ddeud drwy ddefnyddio ffeithia yn lle bod yn bedantic a semantic?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Cath Ddu » Sad 05 Tach 2005 12:34 am

Chwadan a ddywedodd:Be am i ti drio gwrthbrofi be dwi'n ddeud drwy ddefnyddio ffeithia yn lle bod yn bedantic a semantic?


:lol: :lol: :lol:

Ti'n camddeall Chwadan - semantics pendantaidd yw unig gyfraniad SS i'r Maes.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai