A Oedd Yr Arlywydd Truman Yn Iawn I Fomio Hiroshima ?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Sad 05 Tach 2005 1:20 am

Felly, Gath, ydi'r ffaith fod y farn yn bodoli gan arweinwyr yr UDA fod Siapan eisiau ac ar fin ildio yn gwbwl amherthnasol i'r ddadl?

Chwadan. Ia. Ti'n anwybyddu gweddill y dyfyniadau er mwyn pigo ryw honedig fai na sy hyd yn oed yn bodoli yn yr un olaf. Ond ti'n llygad dy le, mae angen gwylio rhag y dyfynu selective 'ma.

Aaa. 'tendendy'.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cath Ddu » Sad 05 Tach 2005 2:29 pm

Sioni Size a ddywedodd:Felly, Gath, ydi'r ffaith fod y farn yn bodoli gan arweinwyr yr UDA fod Siapan eisiau ac ar fin ildio yn gwbwl amherthnasol i'r ddadl?


Ddim o gwbwl. Mae dyfyniadau Dan yn ddiddorol ac fel y bu i mi nodi yn fy nghyfraniad blaenorol does dim rheswm i amau fod yna rhai o fewn y gyfundrefn Americanaidd oedd yn disgwyl i Siapan ildio. Yn yr un modd, yr oedd profiad chwerw Okiniawa hefyd yn fyw iawn o fewn y gyfundrefn Americanaidd felly pa ddewis?

Pwnc yr edefyn hwn oedd gofyn am farn aelodau'r maes ynghylch cywirdeb neu ddim y penderfyniad i ddefnyddio arf niwclear yn Hiroshima yn 1945. O'r hyn dwi wedi ddarllen am y cyfnod dwi'n credu fod condemnio Truman am roi blaenoriaeth i fywydau lluoedd arfod yr UDA yn afresymol ac felly yr oedd y penderfyniad, er yn drasiedi, yn un rhesymol o fewn y cyd-destun.

Does dim rhaid cytuno, mae dadl Dan yn un gref, ond dwi'n gyndyn o dderbyn fod Japan yn 'sicr' o ildio ac hefyd fod lluoedd Japan ar ei 'last legs' felly dyna sail fy marn ar y mater.

Credaf fod dy ddefnydd o lun Bush Jr. yn awgrymu dy fod, efallai, yn mesur Truman 1945 efo safonau SS yn 2005. Ni chredaf fod hynny'n debygol o roi cyd-destun call i ti drafod beth ddigwyddodd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Sioni Size » Sad 05 Tach 2005 4:00 pm

:)
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cath Ddu » Sad 05 Tach 2005 4:13 pm

Sioni Size a ddywedodd::)
Craidd y peth ydi hyn - os oedd llywodraeth yr UD o'r farn fod Siapan ar fin ac eisiau ildio (a mae'n ymddangos eu bod yn dydi), yna roedd gollwng y bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki yn gwbwl, gwbwl warthus. Os nag wyt ti'n cytuno hefo hynny, yna dos i'r diawl.


Dadl aeddfed arferol gan SS. Fe ymdrechaf eto i ateb, ond wir yr, credaf fod mwy i fywyd na cyfiawnhau fy safbwynt i'r enwog anghyson SS.

Reit, mae Dan wedi dangos fod yna elfennau o fewn llywodraeth yr UDA yn 1945 yn credu fod posibilrwydd fod Japan am ildio. Serch hynny roedd hi'n weddol amlwg fod gan Japan bron 2,000,000 o filwyr dan rym arfau yn Awst 1945 yn barod i amddiffyn y famwlad. Yr oedd hefyd yn ffaith fod 77,000 o filwyr yn Okiniawa wedi lladd ac anafu tua 40,000 o luoedd yr UDA.

Yr oll dwi'n awgrymu (gan dderbyn fy mod yn gwneud hynny o gadair bur gyfforddus - o lle yn union ti'n cyfrannu SS?) yw fod y penderfyniad ddim yn un du a gwyn o dan yr fath amgylchiadau. Pa ystyriaeth oedd bwysicaf? Y posibilrwydd fod Japan am ildio ta'r ffaith fod lluoedd Japan wedi ymladd yn ffyrnig (a dewr) yn Okiniawa?

Dan yr amgylchiadau mae dewis Truman yn ddealladwy ac fe fyddwn yn dadlau fod hynny'n gwbwl amwlg hyd yn oed i rai fyddai'n anghytuno gyda'r dewis.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Sioni Size » Sad 05 Tach 2005 4:31 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Reit, mae Dan wedi dangos fod yna elfennau o fewn llywodraeth yr UDA yn 1945 yn credu fod posibilrwydd fod Japan am ildio.

Pa ystyriaeth oedd bwysicaf? Y posibilrwydd fod Japan am ildio ta'r ffaith fod lluoedd Japan wedi ymladd yn ffyrnig (a dewr) yn Okiniawa?

Nid posibilrwydd, ond tebygolrwydd. Yn anochel yn ol rhai penderfynwyr allweddol. A dyna lle mae dy ddadl di a phenderfyniad Truman yn dymchwel.
gan dderbyn fy mod yn gwneud hynny o gadair bur gyfforddus - o lle yn union ti'n cyfrannu SS?

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cath Ddu » Sul 06 Tach 2005 11:44 am

Sioni Size a ddywedodd:Nid posibilrwydd, ond tebygolrwydd. Yn anochel yn ol rhai penderfynwyr allweddol. A dyna lle mae dy ddadl di a phenderfyniad Truman yn dymchwel.


Nid yw hyn yn gywir.

Byddai modd cyflwyno dyfyniadau i'r gwrthwyneb ond oes yna bwynt?

Gad i ni gytuno i anghytuno wir. Tydi dy farn di na fi ddim o dragwyddol bwys ar y mater.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Llun 07 Tach 2005 11:35 am

Sioni Size a ddywedodd:Nid posibilrwydd, ond tebygolrwydd.


Da ni'n gwybod hyn yn sicr, ta dim ond tybio ? Ydy o'n bosib fod llywodraeth Siapan wedi defnyddio celwydd i drio ennill amser i gadarnhau eu hamddiffyniadau ? A oedd y Siapaneaid yn parchu eu gelynion gwyn gymaint i beidio gwneud hyn ? Fysa'r pobl wedi ufuddhau y fath orchymyn cyn Hiroshima ?

T'ydw i ddim yn gwybod yr atebion i'r cwestiynnau uchod, a tybiwn innau mai cyndyn iawn fysa Truman wedi bod i wario mwy o fywydau Americanaidd er mwyn ffendio allan.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Sioni Size » Maw 08 Tach 2005 7:11 pm

Os felly, fedrwch chi esbonio pam fod Eisenhower, Hoover a Leahy yn dweud yr hyn maent yn ddweud?
Mae 4 esboniad:
a) Maent oll yn gomiwnyddion coch drwg
b) Maent oll yn wallgo
c) Maent oll yn wirion ac wedi eu twyllo gan gelwydd pwrpasol dieflig y Japs (sef cynnig Blewyn i gyfiawnhau'r peth)
ch) Maent yn dweud y gwir

Ac eto, eich cyfiawnhad ydi if in doubt, bomb. Yn well na hynny, if in doubt there could be doubt, bomb.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Chwadan » Maw 08 Tach 2005 7:16 pm

d) Ma nhw'n wleidyddion.

:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Blewyn » Maw 08 Tach 2005 7:48 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ac eto, eich cyfiawnhad ydi if in doubt, bomb


Dim fy nghyfiawnhad i yn bersonol - doeddwn i ddim yna nac yn fyw ar yr amser. Ond wedi dweud hynna, sut oedd Truman yn fod i ddarganfod y gwir - r'oedd pob diwrnod o ysbaid i'r Siapaneaid yn golygu cynudd yn y nifer o fywydau Americanaidd fysa wedi eu colli drwy ennill frwydr gonfensiynol petae'r Siapaneaid wedi penderfynnu ymladd.

Miloedd fwy o fywydau Americanaidd, neu filoedd o fywydau o'r pobl a ymosododd ar Pearl Harbour ? Dewis anodd yn wir, i ollwng arf mor erchyll ar bobl cyffredin - ond dewis syml hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron