A Oedd Yr Arlywydd Truman Yn Iawn I Fomio Hiroshima ?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Mer 09 Tach 2005 12:07 am

Dewis syml. O, reit. Felly 200,000 o drigolion Hiroshimia a Nagasaki oedd y bobl ymosododd ar Pearl Harbour, targed milwrol.
Os oedd Eisenhower a Leahy yn meddu ar wybodaeth fod Siapan yn barod i ildio yna roedd Truman hefyd.
Sy'n gadael un canlyniad - Gollyngwyd y bom i ddangos i'r Rwsiaid pwy fyddai'r bos, ac i ddysgu gwers i'r Siapaneaid cyn i'r rhyfel orffen.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Blewyn » Mer 09 Tach 2005 10:04 am

Sioni Size a ddywedodd:Dewis syml. O, reit. Felly 200,000 o drigolion Hiroshimia a Nagasaki oedd y bobl ymosododd ar Pearl Harbour, targed milwrol.

Siapan gafodd ei fomio, nid Hiroshima neu Nagasaki yn benodol. Mi dalodd drigolion y ddwy ddinas y pris am ryfelgaru Siapan, ac am yr ymosodiad gan Siapan ar Pearl Harbour. Ydy o'n iawn i ymosod ar bobl milwrol heb rybudd nac achos, ond ddim yn iawn i gosbi gwlad am ddechrau rhyfel ?
Os oedd Eisenhower a Leahy yn meddu ar wybodaeth fod Siapan yn barod i ildio yna roedd Truman hefyd.

Efallai - fel y dywedais yn barod - fod Truman wedi tybio mai twyll oedd.
Sy'n gadael un canlyniad - Gollyngwyd y bom i ddangos i'r Rwsiaid pwy fyddai'r bos, ac i ddysgu gwers i'r Siapaneaid cyn i'r rhyfel orffen.


Ac i orffen y rhyfel mewn ffordd fysa'n gwneud meddianaeth Siapan gan filwyr yr Amerig yn ddianghenrhaid - hynny yw, mewn ffordd fysa'n gwneud yn siwr fysa Siapan ddim yn meiddio ailddechrau cynudd filwrol.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron