Tudalen 1 o 10

Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 1:15 pm
gan Dili Minllyn
Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch ar gyfer Sul y Cofio, ynteu ydych chi'n gweld y cyfan yn rhy filitaraidd a Phrydeinllyd?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 1:29 pm
gan Macsen
Weithiau fyddwn i'n anghofio gwneud, ond welai ddim sut all unrhywun boicotio parchu aberth y marw ar bwrpas. Dyw ei fod o'n 'filiteraidd' a 'Phrydeinllyd' ddim yn rhan o'r hafaliad.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 1:31 pm
gan Chwadan
Pob tro dwi'n prynu pabi dwi'n ei golli o'n syth :wps: Dwi'm yn gweld y dathlu yn rhy Brydeinllyd - y gwir amdani ydi mai un fyddin oedd gan Brydain ym 1914-18 a 1939-45 felly mae'r cofio yn bownd o fod yn rywbeth Prydeinig ei naws. Fel y buodd Cymry farw dros Brydain, ac yn anuniongyrchol dros Loegr, mi fuodd Saeson farw yn anuniongyrchol dros Gymru. Mae gweld enwau Cymreig y rhai fuodd farw ar gofebau ar draws Cymru yn atgof trist o'r ffaith mai hogia cyffredin, Cymreig oedd y milwyr, ond nid jyst o achos yr hogai Cymreig da ni'n cael byw fel yr ydan ni heddiw.

Yr ochr filitaraidd - dwi'm yn licio pomp militaraidd i gychwyn hefo'i, ond o fewn diwylliant y lluoedd arfog dyna sut mae cofio aelodau. Wedi deud hynny, sa'n braf gweld agwedd fwy lleygaidd ac unigolynnol i'r cofio - dwi'n teimlo weithia fod y ffurfioldeb militaraidd yn tynnu oddi wrth ddynoldeb y milwr di-enw.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 2:34 pm
gan eusebio
Byddaf. Ac o gofio sawl aelod o sawl gwlad bu farw yn ystod y ddwy rhyfel, allai'm gweld sut mae modd ei ystyried yn aberth Prydeinllyd.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 2:51 pm
gan Owain Llwyd
Mi fydda i'n prynu pabi coch ond ddim yn ei wisgo fo.

Hynny ydi, mae'na ddigon o reswm dros wneud rhyw fath o gyfraniad i waith y Lleng Brydeinig efo cynfilwyr difreintiedig, ond, yn bersonol, dw i'n gweld y cofio swyddogol, a'r lle canolog mae'n ei roid i wasanaethu Gwlad a Theyrn, yn eitha anghydnaws efo sut dw i'n ymagweddu at ryfel a'r cyfryw bethau. Felly, dim diolch.

Tasa 'na lai o Rupert Brooke a John McCrae, a mwy o Wilfred Owen a Johnny Got His Gun, mi fyswn i'n gweld y cofio yn fwy parchus tuag at y meirwon, rywsut.

Mae'r dyfyniad isod eisoes wedi'i nodi yn yr edefyn Atgofion Milwyr y Rhyfel Mawr, ond dw i'n ei licio fo, felly dyma fo eto:

Why should the British government call me up and take me out to a battlefield to shoot a man I never knew, whose language I couldn't speak? All those lives lost for a war finished over a table.


Mi ddylsai hwnna fod ar y Senotaff yn lle 'The Glorious Dead'.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 2:53 pm
gan Tegwared ap Seion
Mi fyddai'n prynnu fel arfer, pan fyddai'n gweld bocs. Fyddai wedyn yn ei wisgo fo am ddeuddydd efallai, cyn iddo fynd yn fl

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 4:13 pm
gan Cardi Bach
Fydda i'n gwisgo pabi gwyn yn flynyddol bellach.

Mae'n anffodus fod y cyfryngau Prydeinig a'r Llywodraeth yn defnyddio y diwrnod fel cyfle i glodfori rhyfel a Phrydeindod. Un ochr y'n ni'n glywed bob tro.

Mae'r Pabi Coch yn cael ei ddefnyddio i gofio 'ein milwyr ni', ac mae angen eu cofio. Ond fel y dywed y dyfyniad a nodir gan Owain Llwyd uchod, bu i Gymry ymladd a chael eu lladd mewn rhyfeloedd nad oedd cweryl ganddyn nhw yn eu cylch, ac yr un modd milwyr 'ein gelynion' - pobl dlawd oedd heb obaith mewn bywyd yn cael eu danfon i ryfel, ond dyw'r diwrnod cofio ddim yn cofio am eu milwyr 'nhw'. Dyw e ddim chwaith yn cofio am y miliynau o bobl ddiniwed sydd wedi cael eu lladd.

Mae mwy o bobl ddiniwed wedi cael eu lladd mewn rhyfel nag o filwyr - yn y 100 mlynedd diwethaf mae 60% o'r rhai lladdwyd wedi bod yn ddinasyddion diniwed.

Byddaf i felly yn gwisgo pabi gwyn i gofio pawb, fy nheulu a fu farw tra'n rhyfela; fy nheulu a gafodd eu gadael heb dad neu fam neu fab neu ferch; y rhai a laddwyd gan aelodau fy nheulu yn y rhyfel, a'u teuluoedd hwy; a'r degau o filiynnau o bobl a ddioddefodd ac sydd yn dal i ddioddef o ganlyniad i orffwylltra rhyfel.

Torrwyd fy nhadcu i gan yr ail ryfel byd. Gorfod iddo ymuno a'r fyddin yn ddyn ifanc cryf, llawn bywyd, galluog, o gefn gwlad Dinefwr. Daeth e nol yn ddyn megis cragen o'r bachgen addawol aeth allan i Normandy, yr Almaen, Burma, India.

Mae'r papbi gwyn wyf i'n gwisgo yn eu cofio nhw i gyd, gydradd a'u gilydd, ac yn y gobaith am fyd o heddwch rhyw ddydd.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 6:31 pm
gan gronw
pabi gwyn dwi'n ei wisgo hefyd, am resymau cardi bach uchod.

PostioPostiwyd: Sad 05 Tach 2005 1:55 am
gan Hen Rech Flin
Rwy'n gwisgo pabi coch ac yn mynychu gwasanaeth cadoediad am nifer o resymau.

Yn gyntaf mae rhai o gofgolofnau rhyfel siroedd Meirionydd a'r Amwythig megis ach restrau teuluol imi. Rwyf yn rhannu ach gyda'r beirdd Hedd Wyn a Wilfred Owen a degau o ysglyfaeth lai adnabyddus y rhyfeloedd byd.

Yn ail, er fy mod yn anghytuno'n "wleidyddol" gyda'r rhan fwyaf o'r penderfyniadau i fynd i ryfel, rwy'n parchu'r gwŷr a'r gwragedd sydd yn aelodau o'r lluoedd arfog ac sydd yn dioddef oherwydd ffolineb eu meistri gwleidyddol..

Yn drydydd yr wyf wedi cael profiad o nyrsio pobl a fu'n ymladd ym mhob un o ryfeloedd Prydain fawr o Ryfeloedd y Boore i Ryfeloedd y Gwlff, ac yr wyf yn credu bod y Lleng Prydeinig ac Ymddiriedolaeth yr Arglwydd Haig yn rhoi cymorth gwerth chweil i'r dioddefwyr (er gwaethaf "jingoistiaeth" y ddwy elusen).

Yr wyf wedi clywed am y pabi gwynion yma droeon, ond erioed wedi eu gweld ar werth - o ble maent ar gael, a phwy sydd yn elwa o'u gwerthiant?

Er mwyn ceisio osgoi mynd i ymrafael rhwng pleidwyr y pabi goch a'r gwyn mewn tŷ tafarn yn Ross on Wye tua ugain mlynedd yn

PostioPostiwyd: Sad 05 Tach 2005 8:54 am
gan Cardi Bach
Hen Rech Flin a ddywedodd:
Yr wyf wedi clywed am y pabi gwynion yma droeon, ond erioed wedi eu gweld ar werth - o ble maent ar gael, a phwy sydd yn elwa o'u gwerthiant?

Mae'r Peace Pledge Union yn darparu ac yn gwerthu Pabi Gwynion. Does dim elw yn cael ei wneud allan o'u gwerthiant fel rheol, ond pe byddai yn elw yna byddai'n mynd i ariannu achosion hyrwyddo heddwch. Mae gwefan y PPU yn un hynod ddiddorol, ac yn cynnwys gwybodath y dylem ni oll ymdrechu iw cadw mewn cof.

Bu i gyngor tref Aberystwyth gyflwyno torch o babi coch a gwyn yn y wasanaeth cofio llynedd (mae yna edefyn ar hyn rywle ar y Maes yma), a derbyn twr o lythyrau o ar draws Prydain yn dangos gwerthfawrogiad (tua 70% o'r llythyrau yn cytuno a'r weithred a 30% yn erbyn). Ond aeth y lleng Brydeinig yn gandryll (er gwaetha fod hyn wedi cynyddu eu gwerthiant hwy o Babi Coch yn ogystal), ac mae nifer helaeth ar Gyngor y Dref yn aelodau o'r Lleng lleol (eto bu i'r Cyngor roi cefnogaeth 100% mewn pleidlais pan ddaeth at y penderfyniad), serch hynny roe'n nhw'n chwyrn yn erbyn eleni, felly bydd Aber unwaith eto yn cyflwyno torch o babi gwynion, ond ddim ar yr un pryd a phrosesiwn y lleng, ac yn eu gosod mewn safle gwahanol. Cyfaddawd yw hyn oherwydd nad yw'r rhai sydd yn hybu'r torch wen am ddieithrio unrhyw un, ond yn hytrach hybu heddwch a chofio pawb. Efallai gydag amser y bydd gwell dealltwriaeth ac y gall y ddwy dorch orwedd ochr wrth ochr unwaith eto.