pogon_szczec a ddywedodd:I HRF:
A ddylai'r DU wedi gwrthsefyll y Junta militaraidd yn filwrol neu adael iddyn nhw feddiannu'r ynysoedd yn erbyn ewyllys y trigolion
Y cwyn pennaf yn erbyn Mrs Thatcher yn achos rhyfel de'r Iwerydd oedd ei bod hi wedi mynd am ateb milwrol i'r broblem yn unionsyth yn hytrach na cheisio unrhyw ddulliau eraill. Os cofiaf yn iawn yr oedd y Gymuned Ewropeaidd a'r UDA wedi cytuno ar sancsiynau yn erbyn yr Ariannin, a'r Cenhedloedd Unedig wedi cynnig trefniadau i ganoli rhwng y ddwy ochor i geisio datrys. Ond bod Mrs T wedi gwrthod rhoi amser i'r sancsiynau cael effaith nac i'r CU trefnu cymod.
Dadl Mrs T oedd bod yr UDA wedi ceisio cymodi ac wedi methu, felly doedd fawr o siawns bod y CU am lwyddo, a'i bod yn annheg i'r ynyswyr gorfod dioddef cael eu goresgyn tra bod sancsiynau yn brathu dros hir dymor.
Yn fy marn i rwy'n credu mai gwell byddai disgwyl yn hytrach nag afradu bywydau 900 o filwyr (cyffelyb i hanner poblogaeth yr ynysoedd).