gan Hen Rech Flin » Sad 07 Hyd 2006 3:57 am
Mae rhyfel yn bwnc anodd ar y naw i'w trafod yn gall. Natur rhyfel yw bod dwy garfan yn anghytuno digon, hyd at ladd. A oes modd bod yn gwbl wrthrychol yn y fath amgylchiadau?
Er fy mod wedi ymadael a'r gwaith ers deuddeng mlynedd bellach, mi wariais y rhan fwyaf o'm mywyd proffesiynol yn nyrsio pobl a dioddefodd mewn niferoedd o ffyrdd trwy eu profiad o ryfel. Yr wyf wedi nyrsio holl ryfeloedd yr ugeinfed ganrif o ryfel y Bôr i ryfel Irac.
Mae gennyf syniadau gwleidyddol parthed pob un rhyfel mae milwyr Cymru wedi bod yn rhan ohonynt yn ystod y ganrif ddiwethaf. Cefnogi rhai, gwrthwynebu eraill methu deall pam efo'r rhan fwyaf.
Ond yr un peth yr wyf yn gwbl sicr ohoni yw bod y mwyafrif o filwyr cyffredin yn unigolion dewr, parchus ac anrhydeddus. Hogiau a merched sydd wedi cael jobyn o waith i wneud ac sy'n gwneud y gwaith yna hyd eithaf eu gallu o dan amgylchiadau cythreulig, hyd beryglu, ac yn aml, colli eu bywydau er mwyn cyflawni'r dasg.
Beth bynnag ein barn am y gwleidyddion sy'n danfon yr hogiau (a'r merched) i faes y gad; boed DLlG, Churchil, Thatcher neu Blair, rhaid parchu'r hogiau. O barch iddynt hwy yn hytrach na chefnogaeth i'r ffyliaid a'u danfonasant i gyflafan ar ôl cyflafan byddwyf yn gwisgo'r pabi coch, gyda balchder, yn ystod yr wythnosau nesaf.