Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Byddaf, yn sicr
29
42%
Na Fyddaf, byth
24
35%
Na, dim ond pabi gwyn
15
22%
Byddaf, ond dim ond gyda phabi gwyn
1
1%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 69

Postiogan Cath Ddu » Iau 24 Tach 2005 5:37 pm

Cwlcymro a ddywedodd:SW a'r Gath, does na neb isho clwad be da chi'n drafod yn eich negeseuon preifat. Dadleuwch yn yr edefyn a dadleuwch yn y negeseuon, ond plis sdopiwch gymysgu'r ddau.


Dwi ddim yn sicr fod pobl am glywed dy gyfraniad hunan bwysig di ddeng diwrnod yn ddiweddarach chwaith.

O ran diddordeb, onid chdi wnaeth hyn wrth drafod Israel efo mi?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Iau 24 Tach 2005 7:30 pm

Dwti erioed wedi gyrru negas breifat i fi, a cyn bellad a dwi'n gofio dwina rioed wedi gyrru un i chdi Gath.

Eniwe, sori os oni'n hwyr, ddim o gwmpas ddigon aml dyddia yma.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Iau 24 Tach 2005 8:48 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Dwti erioed wedi gyrru negas breifat i fi, a cyn bellad a dwi'n gofio dwina rioed wedi gyrru un i chdi Gath.

Eniwe, sori os oni'n hwyr, ddim o gwmpas ddigon aml dyddia yma.


Falle mod i'n cymysgu efo rhywun arall. Mae barn gymaint o gyfranwyr Maes e mor debyg nes fod cofio pwy di pwy o fewn y gymuned hon o ddarllenwyr y Guardian yn gallu bod yn anodd.

O ran y ffaith nad wyt o gwmpas dyddia yma, oes angen bod 'o gwmpas' i gyfrannu i safle we? :?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Rhods » Iau 05 Hyd 2006 12:41 pm

Mae e nawr yn dod lan i gyfnod or flwyddyn unwaith eto ble da n i yn cofio am y rhai gwnaeth aberthu eu bwywydau mewn rhyfeloedd y gorffennol. Mae'n amser o'r flwyddyn ble da ni nawr yn gwisgo y pabi coch. Rodd fy nhad-cu yn y fyddin yn yr ail rhyfel byd, a bydd e yn mynd ar yr orymdaith, flynyddol yn gwisgo'i holl medals rhyfel, yn Aberatwe ar Tachwedd 12, ble mae'n byw, i gofio am y bois gwnath farw. Tad-cu fi yn ledgend - oni bai am pobol fel fe, byddwn ni ddim yn cael y luxuries bywyd sydd da ni heddiw. Byddaf i yn sicr yn gwisgo'r pabi coch.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Dili Minllyn » Iau 05 Hyd 2006 2:32 pm

Mi alla' i gydymdeimlo'n fawr â dy safbwynt di, Rhods: mae medalau rhyfel 'nhad-cu innau yn y drâr wrth ochr 'ngwely. Mi fydda' i'n gwisgo pabi coch eleni, fel arfer, wedi'i osod yn daclus tu ôl i 'mathodyn CND, fel arfer.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan HBK25 » Iau 05 Hyd 2006 2:48 pm

Dwi'n tueddol o beidio wisgo un, ond dal yn cyfrannu tuag yr elusen sydd yn eu gwerthu. Dwi'n meddwl fod y ddewis yn un bersonol iawn, ond dydi cyfraniad o bunt neu ddau ddim yn brifo neb. Roedd fy nhaid i yn y rhyfel yn Affrica ymysg llefydd eraill, a dwi'n eithaf siwr fod ddau hen ewythr wedi bod mewn campiau POW; ond dwi ddim yn siwr iawn o'r manylion.

Dwi'm yn meddwl y gall neb ddaeall y pethau wnaeth y pobl dewr yma dioddef, ond mae cofio eu arberth yn ddigon i fi teimlo cwilydd pan dwi'n poeni am bethau bach, di-nod.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 07 Hyd 2006 3:57 am

Mae rhyfel yn bwnc anodd ar y naw i'w trafod yn gall. Natur rhyfel yw bod dwy garfan yn anghytuno digon, hyd at ladd. A oes modd bod yn gwbl wrthrychol yn y fath amgylchiadau?

Er fy mod wedi ymadael a'r gwaith ers deuddeng mlynedd bellach, mi wariais y rhan fwyaf o'm mywyd proffesiynol yn nyrsio pobl a dioddefodd mewn niferoedd o ffyrdd trwy eu profiad o ryfel. Yr wyf wedi nyrsio holl ryfeloedd yr ugeinfed ganrif o ryfel y Bôr i ryfel Irac.

Mae gennyf syniadau gwleidyddol parthed pob un rhyfel mae milwyr Cymru wedi bod yn rhan ohonynt yn ystod y ganrif ddiwethaf. Cefnogi rhai, gwrthwynebu eraill methu deall pam efo'r rhan fwyaf.

Ond yr un peth yr wyf yn gwbl sicr ohoni yw bod y mwyafrif o filwyr cyffredin yn unigolion dewr, parchus ac anrhydeddus. Hogiau a merched sydd wedi cael jobyn o waith i wneud ac sy'n gwneud y gwaith yna hyd eithaf eu gallu o dan amgylchiadau cythreulig, hyd beryglu, ac yn aml, colli eu bywydau er mwyn cyflawni'r dasg.

Beth bynnag ein barn am y gwleidyddion sy'n danfon yr hogiau (a'r merched) i faes y gad; boed DLlG, Churchil, Thatcher neu Blair, rhaid parchu'r hogiau. O barch iddynt hwy yn hytrach na chefnogaeth i'r ffyliaid a'u danfonasant i gyflafan ar ôl cyflafan byddwyf yn gwisgo'r pabi coch, gyda balchder, yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Pabi Coch

Postiogan Guto Morgan Jones » Maw 17 Hyd 2006 8:38 pm

Byddaf yn sicir yn gwisgo pabi coch ar yr 11 o Dachwedd. Fel dywed y dywediad

"Parchwn eu hymdrechion, parhaed ein hatgofion."

Gwasanaethodd 3 hen hen ewyrth i mi yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac un hen daid. Bu farw fy hen hen ewyrthod yn ystod y Rhyfel (2 yn Ffrainc ac un yn Irac yn cwffio yn erbyn y Twrciaid.), felly does gen i ddim esgus.
Guto Morgan Jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Maw 17 Hyd 2006 7:11 pm

Postiogan Rhods » Mer 08 Tach 2006 2:33 pm

R o ni yn gweld yn Cambrian News bore ma bod trefnwyr a pobl y papi gwyn yn trefnu un dydd sadwrn yn Aber diwrnod cyn dydd y pabi coch. Rwyf yn croesawu hyn. Yn y gorffennol mae hyn di creu tensiwn ble ma seremoni y pabi gwyn ar coch yn cael ei drefnu ar y r'un pryd. Fi yn falch bod yna gyfaddawd wedi ei cytuno. Dwi yn canmol y 2 ochr am ddod gyda'i gilydd, trafod yn gall a dod at penderfyniad ble mae'r 2 ochr yn hapus.

Sgen a i ddim problem o gwbl gyda mudiadau yn trenfu seremoni y pabi gwyn. Da ni yn byw mewn democratiaeth ac mae gan bobl hawl i neud hyn - ac ie, cofio pawb nath farw yn y rhyfel - mae yn bwysig, ydi. Ma seremoni y pabi coch braidd yn wahanol yn y cyswllt ei bod e di dedicetio yn uniongyrchol ir milwyr nath marw a aberthu eu bywydau yn rhyfeloedd y gorffennol sydd di sicrhau ein rhyddid heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Positif80 » Mer 08 Tach 2006 4:07 pm

Dwi wedi cyfrannu at yr elusen, ond eto dydw i ddim am wisgo pabi. Dwi'm rili yn meddwl ei bod hi'n bwysig fod pawb yn gwybod fy mod i'n werthfawrogi'r rhai brwydrodd yn y rhyfel.

I gyd sy'n bwysig yw bod yr apel yn cael digon o bres i gadw'n arwyr yma'n gyfforddus yn eu blynyddoedd olaf.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai