Cath Ddu a ddywedodd:
Yr hyn sy'n wirioneddol drist yw fod un sydd wedi cael addysg brifysgol ac astudio'r union bwnc hwn yn gallu ail adrodd ystradebau Blackadder el ffaith. Ddaru ti raddio?
Mae trafod a thi yn gallu bod yn fwrn ofnadwy weithiau Gath, ar yr un llaw ti'n ymbilio ar i bobl beidio a mynd yn 'wleidyddol' ar y pwnc, ac ar y llaw arall ti'n mynd mas o dy ffordd i ddiraddio a sarhau aelodau eraill. Oe'n i'n meddwl dy fod ti'n fwy na hyn, ond os mai dyma safon dy 'ddadl' di...
Cym on Gath, allu di wneud dipyn yn well na hyn!
Fi wedi esbonio cyd-destun y cyfraniad am Blackadder eisioes, diawl fi'n dyfaru gweud unrhyw beth am y bali peth. Dodd sylfaen fy nghyfraniad ddim yn ddibynol ar y sylw ffwrdd a hi am Blackadder - os wyt ti am yna darllen y cyfraniadau eto heb gynnwys y cyfeiriad at y cymeriad comedi ffuglen mewn hanes a grewyd gan Ben Elton
ac os wyt ti wirioneddol am wybod, do bu i mi raddio diolch yn fawr iawn i ti, ond nid ar sail hanes y Rhyfel Byd cyntaf oedd mond wedi cyfrannu ychydig iawn at fy ngradd.
Beth gest ti i frecwast bore ddoe? Ddim fod hyn yn wirioneddol berthnasol i'r drafodaeth, ond gall daflu goleuni ar dy hwyliau, dy gyflwr meddwl, a pam dy fod di mor bigog.