Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Byddaf, yn sicr
29
42%
Na Fyddaf, byth
24
35%
Na, dim ond pabi gwyn
15
22%
Byddaf, ond dim ond gyda phabi gwyn
1
1%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 69

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 08 Tach 2005 2:40 am

Cardi Bach a ddywedodd:Mae arna i ofn nad mater o 'llai' neu 'fwy' o wleidyddiaeth yw hi, om rhan i Gath. Gwnaed yr aberth fawr gan Grist ar y Groes. Nid 'aberth' felly mo bywyd y trueiniaid a aeth i ryfel, yn fy nhyb i, ond gwastraff o fywyd ar raddfa anferthol. Roe'n i'n siarad gyda rhywun oedd yn y fyddin rhai blynyddoedd yn ol a'r hyn mae'r fyddin yn ddweud wrth eu milwyr yw 'sell your lives dearly', felly nid aberth mo hyn. Aberth fyddai fod wedi cerdded dros y ffosydd heb arf i gymodi. Roedd y milwyr druan yn ymladd am eu bywydau - lladd neu cael ei lladd. Iawn neu peidio, nid aberth mo hynny. Roedd Blackadder Goes Forth yn effeithiol iawn yn cyfleu yr 'aberth yma', gyda'r dyn cyffredin yn cael ei ddanfon i'r lladdfa tra fo'r pwysigion yn saff filltiroedd lawer i ffwrdd yn danfon y milwyr i gael eu lladd.

Rwy'n methu deall perthnasedd y cyfeiriad at aberth yr Arglwydd ar y Groes i'r drafodaeth. Er, mae'r aberth mwyaf a phwysicaf yn hanes cred oedd y croesholiad, nid oedd y weithred honno yn dweud nad oes y fath beth ag aberth bellach. Yn amlwg nas gelli'r cymharu gwerth ebyrth eraill ag aberth y Crist - ond mae dweud nad oes fath beth ag aberth, o'r herwydd, yn ymylu ar y gableddus.

Mae yna berygl i ni, o hyd, wrth edrych yn
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Cath Ddu » Maw 08 Tach 2005 2:56 am

Cardi Bach a ddywedodd:Mae arna i ofn nad mater o 'llai' neu 'fwy' o wleidyddiaeth yw hi, om rhan i Gath. Gwnaed yr aberth fawr gan Grist ar y Groes. Nid 'aberth' felly mo bywyd y trueiniaid a aeth i ryfel, yn fy nhyb i, ond gwastraff o fywyd ar raddfa anferthol. Roe'n i'n siarad gyda rhywun oedd yn y fyddin rhai blynyddoedd yn ol a'r hyn mae'r fyddin yn ddweud wrth eu milwyr yw 'sell your lives dearly', felly nid aberth mo hyn. Aberth fyddai fod wedi cerdded dros y ffosydd heb arf i gymodi. Roedd y milwyr druan yn ymladd am eu bywydau - lladd neu cael ei lladd. Iawn neu peidio, nid aberth mo hynny. Roedd Blackadder Goes Forth yn effeithiol iawn yn cyfleu yr 'aberth yma', gyda'r dyn cyffredin yn cael ei ddanfon i'r lladdfa tra fo'r pwysigion yn saff filltiroedd lawer i ffwrdd yn danfon y milwyr i gael eu lladd.



Credaf fod dy sylwadau am Brydeindod a Christnogaeth yn fater o farn a dos dim llawer o bwynt trafod gan na fydd cytundeb. Ond dwi'n anfodlon efo dy ddadnsoddiad diog a di-sail o'r rhyfel byd cyntaf. Mae ystyried Blackadder Goes Forth fel gwers hanes yn dangos diffyg gwybodaeth arswdus.

Ti'n amlwg wedi llyncu'r ddelwedd chwith/heddychiaeth o'r rhyfel byd cyntaf gyda'r uchelwyr a bonheddwyr yn eistedd mewn cyffoddusrwydd a'r dyn cyffredin yn ymladd a marw. Myth Cardi, myth.

O ran diddordeb fe laddwyd neu anafwyd 12% o filwyr cyffredin byddin Prydain rhwng 1914 ac 1918.

Y ffigwr cyfatebol o ran swyddoion oedd 17%. Mewn geiriau eraill fe laddwyd mwy o swyddogion ar gyfartaledd na milwyr cyffredin - ffaith.

Yn ysytod brwydyr y Somme fe ddioddefodd swyddogion byddin Prydain 'caulaty rates' o 25% gyda ambell fataliwn yn dioddef colledion o 75% o swyddogion dros gyfnod y frwydyr. Mae hyn eto yn uwch na'r canrannau cyfatebol i filwyr cyffredin.

Rhwng 1914 ac 1918 lladdwyd 78 Swyddog Prydeinig o statws uwch na Brigadier General - nifer uwch na'r un 'r byddinoedd cyfatebol.

A gyfartaledd lladwyd un swyddog Almaenig am bob 39 milwr rhwng 1914 ac 1918. Ym myddin Prydain lladdwyd un swydog am bob 19 milwr - ffaith eto.

Y grwp ddioddefodd y colledion mwyaf fel canran o'r rhai fu'n ymladd dros Brydain rhwng 1914 ac 1918 oedd cyn ddisgybion ysgolion bonedd. Lladdwyd neu anafwyd dros 1/5 cyn ddisgybl ysgolion bonedd Cymru, Lloegr a'r Alban. Y ffigwr cyfatebol o ran milwyr o Gymru oedd ychydig llai na 13%.

Mae croeso i ti ddadlau yn erbyn rhyfel Cardi, ond dangosa ychydig o barch tuag at ffeithiau yn hytrach na defnyddio cyfres gomedi fel tysteb hanesyddol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 08 Tach 2005 3:33 am

Dim yn hollol berthnasol i'r pwnc, ond mae yna lyfr werth ei ddarllen gan lygad dyst Cymreig i'r Gyflafan Fawr ar un o fy ngwefannau:
Up to Mametz gan y Dr Ll. Wyn Griffith
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mali » Maw 08 Tach 2005 4:58 am

Ychydig yn hwyr yn ymateb i hwn ...heb weld y pabi gwyn yma , ond mi fyddaf yn gwisgo'r pabi coch yn syml ...i gofio am y milwyr a fu farw.
Ac mi fyddai'n mynychu'r gwasanaeth yn ein tref ar Dachwedd 11 i gofio, ac er parch am y rhai 'na ddaeth yn
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 08 Tach 2005 10:22 am

Cath Ddu a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Dwi'm yn credu mai mater o "ochri" 'da neb ydi hi ... fel dywedodd HRF, mae'r Lleng Prydeinig ac Ymddiriedolaeth yr Arglwydd Haig yn rhoi cymorth gwerth chweil i'r sawl sydd wedi dioddef tra'n ymladd yn y rhyfeloedd yn ogystal
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Owain Llwyd » Maw 08 Tach 2005 10:53 am

Cath Ddu a ddywedodd:Ti'n amlwg wedi llyncu'r ddelwedd chwith/heddychiaeth o'r rhyfel byd cyntaf gyda'r uchelwyr a bonheddwyr yn eistedd mewn cyffoddusrwydd a'r dyn cyffredin yn ymladd a marw. Myth Cardi, myth.

O ran diddordeb fe laddwyd neu anafwyd 12% o filwyr cyffredin byddin Prydain rhwng 1914 ac 1918.

Y ffigwr cyfatebol o ran swyddoion oedd 17%. Mewn geiriau eraill fe laddwyd mwy o swyddogion ar gyfartaledd na milwyr cyffredin - ffaith.

Yn ysytod brwydyr y Somme fe ddioddefodd swyddogion byddin Prydain 'caulaty rates' o 25% gyda ambell fataliwn yn dioddef colledion o 75% o swyddogion dros gyfnod y frwydyr. Mae hyn eto yn uwch na'r canrannau cyfatebol i filwyr cyffredin.

Rhwng 1914 ac 1918 lladdwyd 78 Swyddog Prydeinig o statws uwch na Brigadier General - nifer uwch na'r un 'r byddinoedd cyfatebol.

A gyfartaledd lladwyd un swyddog Almaenig am bob 39 milwr rhwng 1914 ac 1918. Ym myddin Prydain lladdwyd un swydog am bob 19 milwr - ffaith eto.

Y grwp ddioddefodd y colledion mwyaf fel canran o'r rhai fu'n ymladd dros Brydain rhwng 1914 ac 1918 oedd cyn ddisgybion ysgolion bonedd. Lladdwyd neu anafwyd dros 1/5 cyn ddisgybl ysgolion bonedd Cymru, Lloegr a'r Alban. Y ffigwr cyfatebol o ran milwyr o Gymru oedd ychydig llai na 13%.

Mae croeso i ti ddadlau yn erbyn rhyfel Cardi, ond dangosa ychydig o barch tuag at ffeithiau yn hytrach na defnyddio cyfres gomedi fel tysteb hanesyddol.


Dw i ddim yn gweld sut mae'r hyn 'rwyt ti'n ei godi yma yn mynd yn sylfaenol groes i farn Cardi. Dydi 'dyn cyffredin' ddim yn gyfystyr efo 'milwr cyffredin', wrth gwrs, a go brin bod 'pwysigion' yn golygu rhyw subalterns neu gapteiniaid yn ei chanol hi.

Yn hytrach, mae'r gwrthgyferbynnu rhwng y 'dyn cyffredin' a'r 'pwysigion' yn cyd-fynd efo safbwynt Siegfried Sassoon (Second Lieutenant) yn A Soldier's Declaration lle mae'n cyfeirio at "fellow soldiers", "troops" a "fighting men", ar y naill law, a "those who have the power to end [the war]" (sef, y 'pwysigion'), ar y llall.

Ond mae'r pwynt wyt ti'n ei wneud am y colledion ymhlith swyddogion yn ddiddorol iawn. Mi ydw i wedi bod yn darllen Tolkien and the Great War (gan John Garth) yn ddiweddar (gwych iawn o ran profiad subalterns cyffredin yn y Rhyfel Mawr, dipyn yn fwy cyfyngedig ei apel ar yr ochr lenyddol), ac mae'r awdur yn gwneud union yr un pwynt ("If you were an officer, it was clear, the odds were stacked against you", t.161).

Ac, o fynd yn ol at Blackadder Goes Forth, mae Lieutenant The Honourable George Colthurst St. Bartleigh, Captain Darling a Captain Blackadder (swyddogion i gyd) yn marw yn yr episod olaf, ochr yn ochr efo Preifat Baldrick - cymhareb swyddogion:milwyr cyffredin o ryw 3:1, sydd yn darlunio dy bwynt ynghylch marwolaethau swyddogion yn eitha effeithiol, swn i'n cynnig.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Cath Ddu » Maw 08 Tach 2005 10:44 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Dw i ddim yn gweld sut mae'r hyn 'rwyt ti'n ei godi yma yn mynd yn sylfaenol groes i farn Cardi. Dydi 'dyn cyffredin' ddim yn gyfystyr efo 'milwr cyffredin', wrth gwrs, a go brin bod 'pwysigion' yn golygu rhyw subalterns neu gapteiniaid yn ei chanol hi.


Dwi' credu fod Cardi wedi llyncu cymeriad Stephen Fry o Blackadder fel tysteb hanesyddol a dyna di fy nghwyn. Mae'r cymeriad hwn yn deillio'n uniongyrchol o lyfr cyntaf syfrdanol Alan Clark, y cyn AS Ceidwadol, cyfaill football hooligans ac hanesydd 'poblogaidd' o athrylith.

Yn 1958 (59?) fe gyhoeddodd Clark ei lyfr 'The Donkeys' yn creu'r ddelwedd o gadfridogion a swyddogion di glem yn arwain y dewrion. Llyfr dewr, llyfr hynod ddifyr ond llyfr sydd bellach yn rhan o fyth y rhyfel byd cyntaf yn hytrach na hanes y rhyfel. Y llyfr hwn roddodd sail i'r 'musical' a'r ffilm 'O What a Wonderful War' a gyfarwyddwyd gan Richard Attenborough y 1967. A dyma linach Blackadder Goes Forth. Hanes diog ond gwleidyddiaeth hawdd fel mae sylw Cardi yn brofi.

Owain a ddywedodd:Ond mae'r pwynt wyt ti'n ei wneud am y colledion ymhlith swyddogion yn ddiddorol iawn. Mi ydw i wedi bod yn darllen Tolkien and the Great War (gan John Garth) yn ddiweddar (gwych iawn o ran profiad subalterns cyffredin yn y Rhyfel Mawr, dipyn yn fwy cyfyngedig ei apel ar yr ochr lenyddol), ac mae'r awdur yn gwneud union yr un pwynt ("If you were an officer, it was clear, the odds were stacked against you", t.161).


Difyr - anodd yw anghytuno.

Owain a ddywedodd:Ac, o fynd yn ol at Blackadder Goes Forth, mae Lieutenant The Honourable George Colthurst St. Bartleigh, Captain Darling a Captain Blackadder (swyddogion i gyd) yn marw yn yr episod olaf, ochr yn ochr efo Preifat Baldrick - cymhareb swyddogion:milwyr cyffredin o ryw 3:1, sydd yn darlunio dy bwynt ynghylch marwolaethau swyddogion yn eitha effeithiol, swn i'n cynnig.


Wel ia. :)
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cardi Bach » Mer 09 Tach 2005 12:06 pm

At bwynt y Gath i gychwyn, nid ceisio defnyddio Blackadder fel gwers hanes oeddwn i, mond cyfeirio ato fel darlun trist o dristwch rhyfel. Rwy'n ymwybodol o erchyllterau y Rhyfeloedd byd wedi eu astudio yn y Brifysgol a darllen ysgrifau fy hen daid oedd yn Gapten yn y fyddin Brydeinig yn y Rhyfel Byd cyntaf, a gafodd droedigaeth o dan ddylanwad George M Ll Davies yn ddiweddarach a dod yn Ysgrifenydd Heddychwyr Cymru; a f'ewyrth Ollie a gafodd ei gorff wedi ei daflu i'r pentwr o gyrff miloedd o feirw ym Melg cyn i filwr ddod heibio a chlywed anadlu ysgafn o'r pentwr cyrff - wncwl Ollie - a gafodd blat metel fel penglog a gollodd goes ac a fu'n ffodus i fyw - er mewn cyflwr difrifol - am ddegawdau wedyn. Odi, mae cof y rhyfel byd cyntaf hyd yn oed yn dal i fod yn fyw.

HRF a ddywedodd:Rwy'n methu deall perthnasedd y cyfeiriad at aberth yr Arglwydd ar y Groes i'r drafodaeth. Er, mae'r aberth mwyaf a phwysicaf yn hanes cred oedd y croesholiad, nid oedd y weithred honno yn dweud nad oes y fath beth ag aberth bellach. Yn amlwg nas gelli'r cymharu gwerth ebyrth eraill ag aberth y Crist - ond mae dweud nad oes fath beth ag aberth, o'r herwydd, yn ymylu ar y gableddus.


Yddiheuriadau, ond nid dweud
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan pogon_szczec » Mer 09 Tach 2005 9:53 pm

Gobeithio bod Cardi (ac eraill) yn ddiolchgar i'r rhai sy'n gwisgo'r pabi coch am adael iddo wisgo y pabi gwyn heb ymyraeth.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cath Ddu » Mer 09 Tach 2005 10:59 pm

Cardi Bach a ddywedodd:At bwynt y Gath i gychwyn, nid ceisio defnyddio Blackadder fel gwers hanes oeddwn i, mond cyfeirio ato fel darlun trist o dristwch rhyfel. Rwy'n ymwybodol o erchyllterau y Rhyfeloedd byd wedi eu astudio yn y Brifysgol


Ddim mewn llawer o fanylder os ti'n gallu defnyddio Blackadder fel esiampl o'r dewis rai yn ddiogel mewn cyffodusrwydd tra fod y milwr cyffredin yn dioddef. Ta waeth faint o hanes y bu i ti astudio rodd dy ddefnydd o Blackadder i gefnogi dy ddadl yn dangos diffug gwybodaeth, crebwyll a dealltwriaeth. Mae gweddill dy ymateb i mi yn amherthnasol gan nad wyf wedi, am eiliad, wadu fod rhyfel yn erchyll. Dim ond dy ddarlun ystradebol o'r Rhyfel Byd Cyntaf oedd yn destun fy ymateb.

Yr hyn sy'n wirioneddol drist yw fod un sydd wedi cael addysg brifysgol ac astudio'r union bwnc hwn yn gallu ail adrodd ystradebau Blackadder el ffaith. Ddaru ti raddio? :rolio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron