Cath Ddu a ddywedodd:Ti'n amlwg wedi llyncu'r ddelwedd chwith/heddychiaeth o'r rhyfel byd cyntaf gyda'r uchelwyr a bonheddwyr yn eistedd mewn cyffoddusrwydd a'r dyn cyffredin yn ymladd a marw. Myth Cardi, myth.
O ran diddordeb fe laddwyd neu anafwyd 12% o filwyr cyffredin byddin Prydain rhwng 1914 ac 1918.
Y ffigwr cyfatebol o ran swyddoion oedd 17%. Mewn geiriau eraill fe laddwyd mwy o swyddogion ar gyfartaledd na milwyr cyffredin - ffaith.
Yn ysytod brwydyr y Somme fe ddioddefodd swyddogion byddin Prydain 'caulaty rates' o 25% gyda ambell fataliwn yn dioddef colledion o 75% o swyddogion dros gyfnod y frwydyr. Mae hyn eto yn uwch na'r canrannau cyfatebol i filwyr cyffredin.
Rhwng 1914 ac 1918 lladdwyd 78 Swyddog Prydeinig o statws uwch na Brigadier General - nifer uwch na'r un 'r byddinoedd cyfatebol.
A gyfartaledd lladwyd un swyddog Almaenig am bob 39 milwr rhwng 1914 ac 1918. Ym myddin Prydain lladdwyd un swydog am bob 19 milwr - ffaith eto.
Y grwp ddioddefodd y colledion mwyaf fel canran o'r rhai fu'n ymladd dros Brydain rhwng 1914 ac 1918 oedd cyn ddisgybion ysgolion bonedd. Lladdwyd neu anafwyd dros 1/5 cyn ddisgybl ysgolion bonedd Cymru, Lloegr a'r Alban. Y ffigwr cyfatebol o ran milwyr o Gymru oedd ychydig llai na 13%.
Mae croeso i ti ddadlau yn erbyn rhyfel Cardi, ond dangosa ychydig o barch tuag at ffeithiau yn hytrach na defnyddio cyfres gomedi fel tysteb hanesyddol.
Dw i ddim yn gweld sut mae'r hyn 'rwyt ti'n ei godi yma yn mynd yn sylfaenol groes i farn Cardi. Dydi 'dyn cyffredin' ddim yn gyfystyr efo 'milwr cyffredin', wrth gwrs, a go brin bod 'pwysigion' yn golygu rhyw
subalterns neu gapteiniaid yn ei chanol hi.
Yn hytrach, mae'r gwrthgyferbynnu rhwng y 'dyn cyffredin' a'r 'pwysigion' yn cyd-fynd efo safbwynt Siegfried Sassoon (Second Lieutenant) yn
A Soldier's Declaration lle mae'n cyfeirio at "fellow soldiers", "troops" a "fighting men", ar y naill law, a "those who have the power to end [the war]" (sef, y 'pwysigion'), ar y llall.
Ond mae'r pwynt wyt ti'n ei wneud am y colledion ymhlith swyddogion yn ddiddorol iawn. Mi ydw i wedi bod yn darllen Tolkien and the Great War (gan John Garth) yn ddiweddar (gwych iawn o ran profiad
subalterns cyffredin yn y Rhyfel Mawr, dipyn yn fwy cyfyngedig ei apel ar yr ochr lenyddol), ac mae'r awdur yn gwneud union yr un pwynt ("If you were an officer, it was clear, the odds were stacked against you", t.161).
Ac, o fynd yn ol at Blackadder Goes Forth, mae Lieutenant The Honourable George Colthurst St. Bartleigh, Captain Darling a Captain Blackadder (swyddogion i gyd) yn marw yn yr episod olaf, ochr yn ochr efo Preifat Baldrick - cymhareb swyddogion:milwyr cyffredin o ryw 3:1, sydd yn darlunio dy bwynt ynghylch marwolaethau swyddogion yn eitha effeithiol, swn i'n cynnig.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.