garynysmon a ddywedodd:Mi fyddai'n prynu un coch, fel arfer. Dwi'm yn hoff o'r busnes pabi gwyn 'ma o gwbl i fod yn onest. Mae digon posib bod yn trendy lefty am weddill y flwyddyn, ond mae adeg yr 11/11 yn golygu llawer iawn i amryw o bobol, a diffyg parch ydyw i rhywyn fynd yn groes i hynny yn fy marn i. Welsom ni rioed ryfel.
dyw hwnna ddim yn hollol wir yn nagyw - beth sydd yn digwydd yn Irac ac Affganistan nawr? Onid rhyfel? Beth oedd yn digwydd yn Rwanda yn y 90au? Beth sydd yn digwydd yn Darfur nawr?
Mae yna lu o ryfeloedd yn cael eu hymladd byth a beunydd. Y cwestiwn yw sut ydyn ni am rwystro rhyfeloedd.
Does dim rhaid byw y profiad yn uniongyrchol i wybod fod rhyfel yn beth erchyll. Fel wy wedi son rywle ym mherfeddion yr edefyn yma, allan o'r 100,000,000 (ffugwr sydd y tu hwnt i nealltwriaeth i) o bobl gafodd eu lladd mewn rhyfeloedd yn y ganrif ddiwethaf, roedd 60,000,000 yn bobl ddi-niwed, a 40,000,000 yn filwyr neu yn ymwneud yn uniongyrchol a'r rhyfel.
Sut mae'r bobl yma - y 60% - yn cael eu coffau? Pa gronfa arianol sydd yna i gefnogi y miliynau o blant amddifad sydd wedi colli eu teuluoedd o ganlyniad i ryfel rhywun arall?
Hefyd lladdwyd nifer o bobl yng Nghymru adeg y rhyfel ond nad oedd yn filwyr - pobl Abertawe a dociau Caerdydd a'r Barri; pobl mewn ffatrioedd, yn y pyllau glo. Pwy goffa anrhydeddus sydd yna i'r bobl yma a fu farw yn sgil rhyfel?
Nid mater o fod yn 'trendi leffti' mo'r pabi gwyn ond datganiad o'r awydd am heddwch, ac i goffau
pawb sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel -
ein bois ni, a'r rhai hynny sydd yn cael eu galw'n elynion i ni.
Roedd gweld y ddau cyn filwr o'r rhyfel byd cyntaf, un o Loegr a'r llall o'r Almaen, a ddaeth at eu gilydd ac ysgwyd llaw gan ddatgan ffolineb rhyfel a'u awydd am heddwch, yn ysbrydoliaeth.
Heddwch.
(cyn fod Pogon yn taro ei ymweliad blynyddol a'r maes yma
mi wna i ddatgan eto fyth y bydda i'n gwisgo pabi gwyn a phabi coch. Gwyn a choch. Weda i e to, jest rhag ofn - gwyn
a choch).