Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fyddwch chi'n gwisgo pabi coch?

Byddaf, yn sicr
29
42%
Na Fyddaf, byth
24
35%
Na, dim ond pabi gwyn
15
22%
Byddaf, ond dim ond gyda phabi gwyn
1
1%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 69

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 05 Tach 2005 10:10 am

Dwi'n ochri efo Cardi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan eusebio » Sad 05 Tach 2005 10:05 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n ochri efo Cardi.


Dwi'm yn credu mai mater o "ochri" 'da neb ydi hi ... fel dywedodd HRF, mae'r Lleng Prydeinig ac Ymddiriedolaeth yr Arglwydd Haig yn rhoi cymorth gwerth chweil i'r sawl sydd wedi dioddef tra'n ymladd yn y rhyfeloedd yn ogystal
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mabon.Llyr » Sul 06 Tach 2005 4:13 pm

Y gwahaniaeth, o beth dwin ddeall.

Mae'r pabi gwyn yn dangos eich bod chi'n cofio am bawb bu farw, ond ar yr un pryd yn dweud na ddylai'r rhyfel fod wedi digwydd yn y lle cyntaf.

Mae'r pabi coch yn dangos eich bod chi'n cofio am bawb bu farw, ond ar yr un pryd yn dweud buasech chi'n neud union yr un peth eto petai rhaid.

Agos?
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Postiogan huwwaters » Sul 06 Tach 2005 4:29 pm

Byddaf yn sicr yn gwisgo pabi.

Tydw i byth yn meddwl ei fod yn dangos Prydeindod na dim byd felly. Rhaid cofio sut ddaeth ein gwlad i fewn i'r Rhyfel. Yr oedd Prydain wedi arwyddo treaty gyda Gwlad Belg. Yr oedd Gwlad Belg isio cadw ei statws fel gwlad niwtral, a bydd Prydain yn eu helpu petaent yn dod at unrhyw drafferth. Gyda'r sefyllfa yma, dwi'n ei weld fel y ffordd orau ymlaen. Yr oedd Prydain yn gaddo amddiffyn Gwlad Belg yn filwrol, ond dim yn ymwrthod eu imperialaeth, fel mae'r UDA yn ei wneud heddiw. Dyma'r ffordd ymlaen yn y byd, i di-arfu pob gwlad. Os wneith pawb cytuno mai'r Cenhedloedd Unedig yw'r unig gorff gydag arfau, ac os ydych chi fel gwlad yn arwyddo at hyn, eich bod yn cael eich amddiffyn gan y CU.

Toeddwn i ddim yn ymwybodol o'r Pabi Gwyn, ond cofiwch, na cofio diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf mae'r pabi, a phabi coch oedd yr un ddaru x(wedi anghofio'i enw) ei ddewis. Delwedd o'r rhyfel ei hun, sef y caeau brwydro - arwydd o fywyd newydd yng nhanol yr holl farwolaeth.

(Nes i fynd i wlad Belg yr haf ma, ac yn synnu gweld baner Cymru i fyny yn sgwar Ieper(Ypres). Mae'n dangos eu bod yn cydnabod ymdrech y Cymry.)
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Garnet Bowen » Sul 06 Tach 2005 4:57 pm

Dwi wedi gwisgo'r pabi coch a'r pabi gwyn yn y gorffenol, a dwi'n cydnabod fod y penderfynniad lot i'w wneud efo dehongliad personol o symboliaeth y weithred. Ar un llaw, mae'r pabi coch yn cael ei ddefnyddio fel symbol llythrenol y Lleng Brydeinig. Mi fedrith rywun fod yn biwritanaidd o wrth-Brydeinig a pheidio a'u cefnogi, ond toes 'na ddim gwadu fod gwaith y lleng yn gwneud bywyd yn haws i lot o gyn-filwyr, ac mae hynny i'w gymeradwyo.

Ond ar lefel llai llythrennol, mae symbol y pabi yn un militaraidd. Cerdd John McCrae a ysbrydolodd y defnydd cyntaf o'r pabi, ac yn y gerdd hono, mae'r blodyn yn symbol rhyfelgar. Mae'r pabi i'w gweld yn tyfy rhwng y beddi, ac mae nhw'n ymgorforiad o chwant y meirw i barhau efo'r rhyfel. Neges y meirwon - yn ol McCrae - ydi i beidio ac ildio. "Take up our quarrel with the foe", medda nhw yn y gerdd.

Mae hi'n broblem anodd - mae'r pabi gwyn yn datgan yn gyhoeddus eich bod chi'n anghytuno efo'r Rhyfel Mawr, ac yn gwrthod haeriad McCrae fod y meirwon yn awchu am fwy o ladd. Ond mae'r pabi gwyn hefyd yn symbol o heddychiaeth - gwrthwynebu pob rhyfel - yn hytrach na dim ond y Rhyfel Mawr. Dwi ddim yn heddychwr, felly dwi ddim yn teimlo'n gyfforddus yn ei wisgo, bellach. A mae'r broblem fod pres y pabi gwyn yn cael ei wastraffu, i bob pwrpas, tra bo pres y pabi coch yn cael ei wario ar achosion da.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan eusebio » Sul 06 Tach 2005 5:40 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:A mae'r broblem fod pres y pabi gwyn yn cael ei wastraffu, i bob pwrpas, tra bo pres y pabi coch yn cael ei wario ar achosion da.


Yn union
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cath Ddu » Sul 06 Tach 2005 9:38 pm

eusebio a ddywedodd:Dwi'm yn credu mai mater o "ochri" 'da neb ydi hi ... fel dywedodd HRF, mae'r Lleng Prydeinig ac Ymddiriedolaeth yr Arglwydd Haig yn rhoi cymorth gwerth chweil i'r sawl sydd wedi dioddef tra'n ymladd yn y rhyfeloedd yn ogystal
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dili Minllyn » Llun 07 Tach 2005 3:14 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Felly llai o wleidyddiaeth - tydi rhai pethau ddim angen bod yn ddadleuol.

Beth allai fod yn fwy gwleidyddol na sut rydyn ni
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cardi Bach » Llun 07 Tach 2005 4:07 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Cytuno 100% efo Eusebio. Cofio abeth a dioddefaint di'r pwynt a chyn belled bod rhywun yn gwneud hynny oes na wir ots pa liw di'r pabi?

'Roedd Wigley, ac mae HW bellach, yn rhan o Sul y Cofio yng Nghaernarfon ac ni chredaf eu bod yn dathlu 'Prydindod a Rhyfel' fel yr awgryma Cardi. Felly llai o wleidyddiaeth - tydi rhai pethau ddim angen bod yn ddadleuol.

Cytuno nad mater o 'ochri' mohono, dewis anffodus o eiriau gan Rhys, ond wy'n credu ein bod ni'n deall ysbryd beth oedd Rhys yn weud.

Mae arna i ofn nad mater o 'llai' neu 'fwy' o wleidyddiaeth yw hi, om rhan i Gath. Gwnaed yr aberth fawr gan Grist ar y Groes. Nid 'aberth' felly mo bywyd y trueiniaid a aeth i ryfel, yn fy nhyb i, ond gwastraff o fywyd ar raddfa anferthol. Roe'n i'n siarad gyda rhywun oedd yn y fyddin rhai blynyddoedd yn ol a'r hyn mae'r fyddin yn ddweud wrth eu milwyr yw 'sell your lives dearly', felly nid aberth mo hyn. Aberth fyddai fod wedi cerdded dros y ffosydd heb arf i gymodi. Roedd y milwyr druan yn ymladd am eu bywydau - lladd neu cael ei lladd. Iawn neu peidio, nid aberth mo hynny. Roedd Blackadder Goes Forth yn effeithiol iawn yn cyfleu yr 'aberth yma', gyda'r dyn cyffredin yn cael ei ddanfon i'r lladdfa tra fo'r pwysigion yn saff filltiroedd lawer i ffwrdd yn danfon y milwyr i gael eu lladd.

Felly nid ceisio bod yn wleidyddol ydw i. Mae yna elfen amlwg o Brydeindod yn perthyn i basiant y diwrnod, elfen anghynnes nag odw i'n gyfforddus gyda. Mae hyn amlycaf pan fo disgwyl i ni ganu 'God Save The Queen' ar ddiwedd y wasanaeth ar Sul y cofio (ydw, rwy'n mynychu gwasanaeth Sul y cofio). Mae hyn yn hollol wrthyn i fi. Aeth y milwyr ddim i gael eu lladd ermwyn sicrhau parhad un hen fenyw a'u theulu!

Ac mae hi'n clodfori rhyfel - yn ol fy mhrofiad i - o achos roedd y ficer yn y wasanaeth flwyddyn dwethaf yn dweud fod y frwydyr yn erbyn drwg yn dal i gael eu ymladd a fod ein bois ni yn chwarae eu rhan o hyd (Irac), wel nid dyna yw sail fy Nghristnogaeth i, a galla i ddim a chytuno. A ma toreth o enghreifftiau cyffelyb yn fy mhrofiad i.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cath Ddu » Maw 08 Tach 2005 1:44 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Diwrnod o dristwch ac edifeirwch am dwpdra
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai