Postiwyd: Sad 05 Tach 2005 10:10 am
Dwi'n ochri efo Cardi.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n ochri efo Cardi.
Garnet Bowen a ddywedodd:A mae'r broblem fod pres y pabi gwyn yn cael ei wastraffu, i bob pwrpas, tra bo pres y pabi coch yn cael ei wario ar achosion da.
eusebio a ddywedodd:Dwi'm yn credu mai mater o "ochri" 'da neb ydi hi ... fel dywedodd HRF, mae'r Lleng Prydeinig ac Ymddiriedolaeth yr Arglwydd Haig yn rhoi cymorth gwerth chweil i'r sawl sydd wedi dioddef tra'n ymladd yn y rhyfeloedd yn ogystal
Cath Ddu a ddywedodd:Felly llai o wleidyddiaeth - tydi rhai pethau ddim angen bod yn ddadleuol.
Cath Ddu a ddywedodd:Cytuno 100% efo Eusebio. Cofio abeth a dioddefaint di'r pwynt a chyn belled bod rhywun yn gwneud hynny oes na wir ots pa liw di'r pabi?
'Roedd Wigley, ac mae HW bellach, yn rhan o Sul y Cofio yng Nghaernarfon ac ni chredaf eu bod yn dathlu 'Prydindod a Rhyfel' fel yr awgryma Cardi. Felly llai o wleidyddiaeth - tydi rhai pethau ddim angen bod yn ddadleuol.
Dili Minllyn a ddywedodd:Diwrnod o dristwch ac edifeirwch am dwpdra