Tudalen 4 o 10

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 10:16 am
gan Cardi Bach
Cath Ddu a ddywedodd:
Yr hyn sy'n wirioneddol drist yw fod un sydd wedi cael addysg brifysgol ac astudio'r union bwnc hwn yn gallu ail adrodd ystradebau Blackadder el ffaith. Ddaru ti raddio? :rolio:


Mae trafod a thi yn gallu bod yn fwrn ofnadwy weithiau Gath, ar yr un llaw ti'n ymbilio ar i bobl beidio a mynd yn 'wleidyddol' ar y pwnc, ac ar y llaw arall ti'n mynd mas o dy ffordd i ddiraddio a sarhau aelodau eraill. Oe'n i'n meddwl dy fod ti'n fwy na hyn, ond os mai dyma safon dy 'ddadl' di... :rolio:

Cym on Gath, allu di wneud dipyn yn well na hyn!
Fi wedi esbonio cyd-destun y cyfraniad am Blackadder eisioes, diawl fi'n dyfaru gweud unrhyw beth am y bali peth. Dodd sylfaen fy nghyfraniad ddim yn ddibynol ar y sylw ffwrdd a hi am Blackadder - os wyt ti am yna darllen y cyfraniadau eto heb gynnwys y cyfeiriad at y cymeriad comedi ffuglen mewn hanes a grewyd gan Ben Elton :rolio:

ac os wyt ti wirioneddol am wybod, do bu i mi raddio diolch yn fawr iawn i ti, ond nid ar sail hanes y Rhyfel Byd cyntaf oedd mond wedi cyfrannu ychydig iawn at fy ngradd.

Beth gest ti i frecwast bore ddoe? Ddim fod hyn yn wirioneddol berthnasol i'r drafodaeth, ond gall daflu goleuni ar dy hwyliau, dy gyflwr meddwl, a pam dy fod di mor bigog.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 11:25 am
gan ceribethlem
pogon_szczec a ddywedodd:Gobeithio bod Cardi (ac eraill) yn ddiolchgar i'r rhai sy'n gwisgo'r pabi coch am adael iddo wisgo y pabi gwyn heb ymyraeth.
Paid a bod mor blentynaidd, mae Cardi eisoes wedi gweud ei fod yn gwisgo pabi coch mas o barch i'r rheiny a gollodd eu bywydau a'r rhai wnaeth, ac sy'n dal i ddioddef.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 11:33 am
gan pogon_szczec
ceribethlem a ddywedodd:
pogon_szczec a ddywedodd:Gobeithio bod Cardi (ac eraill) yn ddiolchgar i'r rhai sy'n gwisgo'r pabi coch am adael iddo wisgo y pabi gwyn heb ymyraeth.
Paid a bod mor blentynaidd, mae Cardi eisoes wedi gweud ei fod yn gwisgo pabi coch mas o barch i'r rheiny a gollodd eu bywydau a'r rhai wnaeth, ac sy'n dal i ddioddef.


Dyw e ddim wedi gweud ei fod yn gwisgo'r pabi coch.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 11:53 am
gan eusebio
ceribethlem a ddywedodd:
pogon_szczec a ddywedodd:Gobeithio bod Cardi (ac eraill) yn ddiolchgar i'r rhai sy'n gwisgo'r pabi coch am adael iddo wisgo y pabi gwyn heb ymyraeth.
Paid a bod mor blentynaidd, mae Cardi eisoes wedi gweud ei fod yn gwisgo pabi coch mas o barch i'r rheiny a gollodd eu bywydau a'r rhai wnaeth, ac sy'n dal i ddioddef.


Tydi pogon ddim yn bod yn blentyniadd - mae ganddo bwynt dilys iawn yn fan hyn.
Yn bersonol, dwi'n gweld y pabi gwyn yn eithaf sarhaus i waith da'r Llynges Brydeinig

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 11:55 am
gan Cath Ddu
Cardi Bach a ddywedodd:Mae trafod a thi yn gallu bod yn fwrn ofnadwy weithiau Gath, ar yr un llaw ti'n ymbilio ar i bobl beidio a mynd yn 'wleidyddol' ar y pwnc, ac ar y llaw arall ti'n mynd mas o dy ffordd i ddiraddio a sarhau aelodau eraill. Oe'n i'n meddwl dy fod ti'n fwy na hyn, ond os mai dyma safon dy 'ddadl' di... :rolio:


Fantasi llwyr. Bu i mi geryddu dy ddefnydd o fyth di-sail fel conglfaen dy gyfraniad cyntaf am y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr esiampl a ddefnyddiwyd gennyt i gefnogi dy safbwynt oedd Blackadder - dweud y cyfan fe gredaf.

Cardi Bach a ddywedodd:Cym on Gath, allu di wneud dipyn yn well na hyn!


Pwy sy'n nawddoglyd rwan? :P

Cardi Bach a ddywedodd:Fi wedi esbonio cyd-destun y cyfraniad am Blackadder eisioes, diawl fi'n dyfaru gweud unrhyw beth am y bali peth. Dodd sylfaen fy nghyfraniad ddim yn ddibynol ar y sylw ffwrdd a hi am Blackadder - os wyt ti am yna darllen y cyfraniadau eto heb gynnwys y cyfeiriad at y cymeriad comedi ffuglen mewn hanes a grewyd gan Ben Elton :rolio:


Dim a dweud gwir. Roedd dy gyfraniad yn ailbobi y myth o'r Rhyfel Cyntaf fel rhyw fath o ryfel dosbarth gyda'r crach yn ddiogel a dynion cyffredin yn marw yn eu miloedd. Nid yw hyn yn hanesyddol gywir. Ti nid fi ddefnyddiodd Blackadder fel cefnogaeth i dy ddadl. Roedd Blackadder yn gomedi gwych, gwnaethpwyd sylw gwirioneddol bwysig am pa mor erchyll oedd y Rhyfel Mawr ond fe ddefnyddiwyd y myth (gweler fy sylw am Alan Clark neu 'Oh What a Beautiful War') am y crach yn ddiogel a chyfforddus i raddau cwbwl anffodus. Ymddengys dy fod wedi llyncu'r cyfan fel hanes.

Cardi Bach a ddywedodd:ac os wyt ti wirioneddol am wybod, do bu i mi raddio diolch yn fawr iawn i ti, ond nid ar sail hanes y Rhyfel Byd cyntaf oedd mond wedi cyfrannu ychydig iawn at fy ngradd.


Mae hynny'n weddol amlwg :winc:

Cardi Bach a ddywedodd:Beth gest ti i frecwast bore ddoe? Ddim fod hyn yn wirioneddol berthnasol i'r drafodaeth, ond gall daflu goleuni ar dy hwyliau, dy gyflwr meddwl, a pam dy fod di mor bigog.


Cyfraniadau hunan fodlon ystradebol a di-sail sy'n dueddol o fy nghorddi Cardi - pe byddai gennyt y gras i dderbyn fod dy ymdrech i ddylunio WW1 fel math o 'class war' yn erbyn y dosbarth gweithiol ym Mhrydain yn ddi-sail fyddai yna ddim angen i mi ymateb. Yn anffodus mae gennyt batrwm o gyfrannu'n aruchel a honedig wybodus gan droi yn bigog iawn os oes unrhyw un yn meiddio dy gywiro.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:02 pm
gan Cath Ddu
eusebio a ddywedodd:Mae gen i ofn bod nifer o bobl yn yr edefyn yma'n wrthyn i'r syniad o babi coch am resymau gwleidyddol gwrth-Brydeindod y hytrach na chymryd ca yn

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:14 pm
gan Cardi Bach
Pogon:
Fi, uchod (prynhawn ddoe, tua 1pm) a ddywedodd:Ond peidied a nghamddeall i, rwy

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:19 pm
gan eusebio
Cardi Bach a ddywedodd:Er tegwch wy ddim yn gwbod os oedd dy gyfraniad yn ymateb i nghyfraniadau i ynteu yn ymateb cyffredinol, felly dyma roi fy marn i, fel petai.


Fy marn bersonol i ydi hyn.


gyda llaw mae safle we'r pabi gwyn yn uffernol o erchyll ;)

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:34 pm
gan Cardi Bach
Cath Ddu a ddywedodd:
Yr hyn nad wyf yn ddeall yw agwedd rhai aelodau amlwg o PC fan hyn mewn cymhariaeth a gweithredoedd Aelodau Etholedig PC sy'n hollol barchus o Sul y Cofio ac yn arddel y Pabi Coch gyda pharch. Mae Hywel Williams, Alun Ffred a Dafydd Wigley gynt wedi bod yn rhan allweddol o Sul y Cofio o fewn etholaeth Arfon ers deng mlynedd ar hugain a da hynny.

Yn wir, tua dwy neu dair blynedd yn

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:43 pm
gan eusebio
Cardi Bach a ddywedodd:Felly plis, peidied a cheisio troi hyn i ensynnu mod i (achos ata i mae'r cyfraniad yna wedi ei anelu hyd y gwela i) yn amharchus i'r lleng neu'r meirw.


erm ... a pham ti'n dweud hynny?