Tudalen 5 o 10

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:46 pm
gan Cardi Bach
eusebio a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Felly plis, peidied a cheisio troi hyn i ensynnu mod i (achos ata i mae'r cyfraniad yna wedi ei anelu hyd y gwela i) yn amharchus i'r lleng neu'r meirw.


erm ... a pham ti'n dweud hynny?


Cyfraniadau Cath Ddu, Eusebio, (yn benodol yr un a ddyfynwyd) nid dy gyfraniadau di.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 12:53 pm
gan Owain Llwyd
eusebio a ddywedodd:Mae modd bod yn wrth-ryfelgar tra'n dal i gredu fod angen cofio'r sawl fu farw yn amddiffyn Ewrop rhag erchylldra ffasgiaeth.


Dw i ddim yn anghytuno efo hyn, ond dyma nodi wrth fynd heibio nad ydi'r Lleng Brydeinig ddim yn cofio'r holl Brydeinwyr fu farw wrth gwffio yn erbyn ffasgaeth. Fel dw i'n ei dallt hi, nid oes croeso i gyn-aelodau o'r Brigadau Rhyngwladol gymryd rhan yn nefodau'r cofio (oni bai eu bod nhw wedi gwasanaethu yn lluoedd Ei Mawrhydi, hefyd).

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 1:01 pm
gan eusebio
Mae hynny'n bwynt dilys iawn Owain, yn wir mae agwedd y cyhoedd, heb son am y llywodraeth, tuag at meiwrw'r Brigad Ryngwladol yn y 30au hwyr y ofnadwy.
Gwrthodwyd ceisiadau am arian wrth i'r Blaid Gomiwnyddol (yn bennaf) geisio codi cofgolofnau i'r meirw mewn amryw i dref yng Nghymru.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 3:46 pm
gan Cath Ddu
Cardi Bach a ddywedodd:
A pha wahaniaeth 'agwedd' sydd rhwng aelodau 'amlwg' o PC ac aelodau etholedig?


Yn syml iawn y ffaith nad yw'r unigolion a enwyd gennyf yn gwisgo Pabi Gwyn nac yn gweld torch o babi coch fel arwydd o Brydeindod fe dybiaf. Dyna oedd dy ddisgrifiad dwi'n credu. Cryn wahaniaeth felly.

Mae gweddill dy gyfraniad yn swnio fel rant amherthnasol.

PostioPostiwyd: Iau 10 Tach 2005 5:53 pm
gan ceribethlem
pogon_szczec a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
pogon_szczec a ddywedodd:Gobeithio bod Cardi (ac eraill) yn ddiolchgar i'r rhai sy'n gwisgo'r pabi coch am adael iddo wisgo y pabi gwyn heb ymyraeth.
Paid a bod mor blentynaidd, mae Cardi eisoes wedi gweud ei fod yn gwisgo pabi coch mas o barch i'r rheiny a gollodd eu bywydau a'r rhai wnaeth, ac sy'n dal i ddioddef.


Dyw e ddim wedi gweud ei fod yn gwisgo'r pabi coch.
Beth am y rhan lle ddywedodd e'
Cardi Bach a ddywedodd:rwy

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 12:54 pm
gan pogon_szczec
Cardi Bach a ddywedodd:Pogon:
Fi, uchod (prynhawn ddoe, tua 1pm) a ddywedodd:Ond peidied a nghamddeall i, rwy

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 1:08 pm
gan pogon_szczec
eusebio a ddywedodd:
Mae'n rhaid mi gyfaddef bod y syniad o ryfel yn afiach ac mae sawl rhyfel wedi ei hymladd am resymau gwleidyddol yn ddiweddar megis Corea, Fietnam, Ynysoedd y Malvinas, Irac ac Afhanistan, ond mae'n anodd dadlau yn erbyn yr Ail Ryfel Byd - roedd yn ryfel eidiolegol yn erbyn erchylldra ffasgiaeth ac mae angen cofio'r rhai bu farw er mwyn amddiffyn Ewrop (ia, Ewrop ... nid Prydain) yn erbyn hyn.



Dwi ddim yn deall dy resymeg yn fan hyn.

Pam wyt ti'n ystyried y rhyfeloedd i gyd oedd ar dy restr yn 'angyfiawn'.

Wyt ti wedi clywed am sut mae pobl Gogledd Corea yn byw, bod miloedd ohonynt yn dioddef o newyn ac yn y blaen, a rwyt ti'n gwadu bod rhyfel yn Nghorea yn erbyn 'erchylltra'.

Mae'r un peth yn wir am y brwydr yn erbyn y Taliban yn Affganistan.

A pham wyt ti'n galw y Falklands 'y Malvinas'. Pam nad wyt ti'n derbyn hawl yr ynyswyr i fyw dan y faner maen nhw eisiau :?:

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 1:20 pm
gan eusebio
Pogon, roeddet yn gwneud yn dda yn yr edefyn yma cyn dy sylw uchod am hanes Cardi mewn edefynau eraill - cad at y pwynt sydd o da sylw plis.

Reit, at dy neges nesaf - rwy'n ystyried y rhyfeloedd yn fy rhestr fel rhyfeloedd gwleidyddol lle nad oedd rheswm cyfiawn dros fynd i ryfel.
Nid plismon y byd mohonom - nid ein lle ni ydi ymyrryd yng ngwleidyddiaeth a mynd i ryfel mewn gwledydd sydd ddim yn berthnasol i ni.

Y Cenhedloedd Unedig ddylai fod yn ymyrryd yn y gwledydd yma, nid Prydain ac America, ond gan fod America wedi gwneud ei gorau glas i danseilio'r CU nid oes modd iddo gael ei gymryd o ddifri - mae'r CU bron mor di-asgwrn cefn

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 11:51 pm
gan Cath Ddu
eusebio a ddywedodd:Y rheswm rwy'n eu galw yn ynysoedd y malvinas yw mai dyna beth yw'r enw daearyddol gywir ar yr ynysoedd a dyna beth rwyf am eu galw.


Ar ba sail ti'n dweud hyn?

Onid y Malvinas = imperialaeth Sbaeneg

Falklands = imperialaeth Prydeinig

Ni chredaf fod yr un o'r ddau yn gyfystyr a 'enw daearyddol cywir' ond wrth gwrs, os oes sail i dy bwynt fe fyddwn yn gwerthfawrogi cael fy nghywiro.

Ta waeth, dwi'n credu fod Pogon 110% yn gywir fan hyn. Yn 1982 roedd 2,000 o drigolion yn y Falklands a 99.9% yn dymuno parhau i fyw dan faner Prydain. Gwleidyddol neu ddim cyfrifoldeb junta an-etholedig yn yr Arannin oedd y rhyfel hwn. Fel arall y ddadl yw fod trais yn drech na dymuniad democrataidd 2,000 o fobl.

Rhyfedd o beth oedd gweld 'left wingers' PC yn '82 yn cefnogi junta ffasgaidd anemocrataidd tra'n cyhuddo llywodreath Thatcher o fod yn ryfelgarwyr. Mae geiriau Myrddin ap Dafydd, Tecwyn Ifan a DI i wahanol ganeuon o'r cyfnod yn esiampl glasurol o agwedau gwrth Seisnig yn boddi asesiad rhesymol o'r sefyllfa.

PostioPostiwyd: Sad 12 Tach 2005 3:27 am
gan Hen Rech Flin
Cath Ddu a ddywedodd:Onid y Malvinas = imperialaeth Sbaeneg

Falklands = imperialaeth Prydeinig


Malfinas, byddwyf yn defnyddio wth son am yr ynysoedd. Dim byd gwleidyddol, 'mond bod Malfinas yn swnio'n Gymreigiach na Ffawclands :syniad:

O ran rhyfel 1982, rwy'n methu rhoi gair o glod i'r naill ochor na'r llall. Yr hyn a gafwyd oedd dau ryfelgi yn fodlon aberthu (sori Cardi) bywydau milwyr eu gwledydd er mwyn ceisio creu mantais wleidyddol bersonol.

O edrych ar ganeuon gwleidyddol Cymreig y cyfnod, credaf mai dyma oedd barn eu hawduron hefyd, Gath, yn hytrach na'u bod yn cefnogi Galtieri, fel yr wyt yn honni!