Tudalen 6 o 10

PostioPostiwyd: Sad 12 Tach 2005 11:51 am
gan Hedd Gwynfor
Cath Ddu a ddywedodd:Rhyfedd o beth oedd gweld 'left wingers' PC yn '82 yn cefnogi junta ffasgaidd anemocrataidd tra'n cyhuddo llywodreath Thatcher o fod yn ryfelgarwyr.


Hen Gath, ti'n mynd mwy pathetic bob dydd, a mae'r sglodyn enfawr yna fel petai'n tyfu. Mae cyfran helaeth o dy gyfraniadau yn yr edefyn hon yn ymosod ar Blaid Cymru, neu wawdio cyfrannwyr sy'n aelodau o'r Blaid, er dy fod wedi galw ar bobl i beidio a mynd yn 'wleidyddol' ar y pwnc.

Ti di gadael Plaid Genedlaethol Gymreig am Blaid Genedlaethol Brydeinig, a ma nifer o dy ffrindiau a'th deulu wedi siomi. "Deal with it!"

Yn ol at y pwnc (**sori am y rant uchod, ond oedd rhaid ei wneud**) byddaf innau, yn cyfrannu'n ariannol trwy dalu am babi Coch, ond byddaf yn gwisgo'r Pabi gwyn i gofio am bawb (boed yn filwyr neu bobl cyffredin) bu farw mewn rhyfeloedd dros y canrifoedd, ac fel sumbol o'r gobaith am heddwch yn y dyfodol.

PostioPostiwyd: Sad 12 Tach 2005 9:19 pm
gan Cath Ddu
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Rhyfedd o beth oedd gweld 'left wingers' PC yn '82 yn cefnogi junta ffasgaidd anemocrataidd tra'n cyhuddo llywodreath Thatcher o fod yn ryfelgarwyr.


Hen Gath, ti'n mynd mwy pathetic bob dydd, a mae'r sglodyn enfawr yna fel petai'n tyfu. Mae cyfran helaeth o dy gyfraniadau yn yr edefyn hon yn ymosod ar Blaid Cymru, neu wawdio cyfrannwyr sy'n aelodau o'r Blaid, er dy fod wedi galw ar bobl i beidio a mynd yn 'wleidyddol' ar y pwnc.

Ti di gadael Plaid Genedlaethol Gymreig am Blaid Genedlaethol Brydeinig, a ma nifer o dy ffrindiau a'th deulu wedi siomi. "Deal with it!"

Yn ol at y pwnc (**sori am y rant uchod, ond oedd rhaid ei wneud**) byddaf innau, yn cyfrannu'n ariannol trwy dalu am babi Coch, ond byddaf yn gwisgo'r Pabi gwyn i gofio am bawb (boed yn filwyr neu bobl cyffredin) bu farw mewn rhyfeloedd dros y canrifoedd, ac fel sumbol o'r gobaith am heddwch yn y dyfodol.


Dwi'n credu fod y syco analysis hwn yn llawn haeddu ei ddyblygu.

O ddifrif Hedd, dwi'n crdedu i mi wneud dau bwynt am PC yn yr edefyn hwn, un negyddol ac un cadarnhaol am aelodau Arfon. Pam fod PC yn codi mor aml? Wel oherwydd fod bron bob cyfranwr sy'n tynnu'n groes i mi yn dueddol o wneud hynny o safbwynt PC - pobl megis ti, Cardi, GT, SW, SS a hyd yn oed HRF.

Bydai trafod gyda'r uchod heb drafod PC yn hollol hurt. Wrth gwrs, dwi'n deall mai haws i ti ydi taflu baw ac ensyniadau yn hytrach na thrafod y pwyntiau dwi'n godi.

Dwi hefyd yn slwi na fu i ti ateb yr un o fy mhwyntiau - haws taflu baw pan fo ffeithiau yn brifo Hedd?

I droi at sylwadau HRF - credaf fod Tecwyn Ifan yn fwriadol defnyddio y term 'Malvinas' er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol ac roedd ei gyhuddiad nad oedd gwahaniaeth rhwng y ddwy ochr, fel ti'n ail adrodd, yn anffodus o ystyried fod un ochr yn junta ffasgaidd anetholedig oedd wedi ymosod ar dirroedd sofran gwlad arall. Bwrdwn Myrddin ap Dafydd oedd fod y ddwy ochr yn 'lywodraeth y gynnau' os dwi'n cofio. Anffodus braidd o ystyried fod un ochr yn llythrennol yn lywodraeth flwrol.

Ffaith, nid barn, yw datgan fod DIM cymhariaeth rhwng llywodraeth Prydain 1982 a llywodraeth yr Ariannin yn 1982 a dim ond agweddau cul cendlaetholdeb gib ddall fddai'n allu gwneud y gymhariaeth.

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 12:10 am
gan Hen Rech Flin
Cath Ddu a ddywedodd:Pam fod PC yn codi mor aml? Wel oherwydd fod bron bob cyfranwr sy'n tynnu'n groes i mi yn dueddol o wneud hynny o safbwynt PC - pobl megis ti, Cardi, GT, SW, SS a hyd yn oed HRF.


Dydy HRF dim yn tynnu

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 11:20 am
gan Cath Ddu
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r awgrym yn dy gyfraniad bod barn Mrs Thatcher yn "gywir", dim ond ar sail ei bod hi wedi ei hethol, yn na

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 12:43 pm
gan Dave Thomas
sgen i fawr o ddiddordeb cyfranu yn y lle yma bellach, ond y broblem yw trwy beidio ymateb i'r propaganda mae rhai pobl yn mynnu sgwennu yma mae hyn yn gadael i lawer o'r sothach yma fynd heb gael ei herio, sydd ddim yn sefyllfa iach

mae rhai pethau ti'n gadael llonydd iddyn nhw, ac yn ymatal rhag eu defnyddio i wneud pwynt gwleidyddol, mae Sul y cofio yn un o'r rheiny

mae pobl fel Cardi "in denial" am y realiti o ryfel, a'r ffaith mai aberth y bobl yn y rhyfeloedd yma sydd wedi rhoi rhyddid i ni heddiw. Y dewis oedd ymladd hitler neu gadael i'r nazis ein trechu, doedd dim trydedd ffordd, doedd dim dewis hawdd.

beth am ddangos parch (rhywbeth prin iawn ar maes-e)

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 4:35 pm
gan pogon_szczec
I HRF:

A ddylai'r DU wedi gwrthsefyll y Junta militaraidd yn filwrol neu adael iddyn nhw feddiannu'r ynysoedd yn erbyn ewyllys y trigolion :?:

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 4:41 pm
gan Dylan
Un peth sy'n mynd ar fy nerfau i braidd ynglyn

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 4:44 pm
gan pogon_szczec
Dave Thomas a ddywedodd:mae pobl fel Cardi "in denial" am y realiti o ryfel, a'r ffaith mai aberth y bobl yn y rhyfeloedd yma sydd wedi rhoi rhyddid i ni heddiw. Y dewis oedd ymladd hitler neu gadael i'r nazis ein trechu, doedd dim trydedd ffordd, doedd dim dewis hawdd.



Fel mae DT yn awgrymu mae Cardi 'in denial'.

Dwi wedi dwyn sylw i'r ffaith ei fod yn hala gwybodaeth ffeithiol anghywir at y maes er mwyn cefnogi ei safbwynt. Mae ganddo hefyd tueddiad i osgoi cwestiynau lletchwith hefyd.

er enghraifft
Sut fyddet ti 'n gwrthwynebu'r Nasiaid heb ddefnyddio trais :?:


Dyw e ddim yn ymateb wrth gwrs oherwydd nad oes ateb synhwyrol ganddo.

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 7:23 pm
gan Dili Minllyn
Dave Thomas a ddywedodd:Mae rhai pethau ti'n gadael llonydd iddyn nhw, ac yn ymatal rhag eu defnyddio i wneud pwynt gwleidyddol, mae Sul y Cofio yn un o'r rheiny.

Dyma hen rigwm ddiflas yr Adain-Dde, sef bod y Chwith yn "gwneud pethau'n wleidyddol". Fel dwedais i o'r blaen, beth alllai fod yn fwy gwleidyddol na pha ryfeloedd rydyn ni'n eu hymladd a sut rydyn ni'n meddwl amdanyn nhw wedyn?

Dave Thomas a ddywedodd:Y dewis oedd ymladd Hitler neu gadael i'r Nazis ein trechu, doedd dim trydedd ffordd, doedd dim dewis hawdd.

Cytunaf yn llwyr

PostioPostiwyd: Sul 13 Tach 2005 8:56 pm
gan ceribethlem
Dave Thomas a ddywedodd: Y dewis oedd ymladd hitler neu gadael i'r nazis ein trechu, doedd dim trydedd ffordd, doedd dim dewis hawdd.
Rhyfedd o beth i ddweud mewn edefyn am y pabi coch, gan mai ar ol y Rhfel Byd Cyntaf bathwyd y pabi coch, nid yr Ail Ryfel Byd.