Tudalen 8 o 10

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 12:50 am
gan Macsen
Cath Ddu a SW... 'get a room' ys dywed y sais.

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 12:50 am
gan Cath Ddu
O na, neges arall hyll am 12.43. Pam ddim cadw at pwnc SW? A pham ddim dweud dy ddweud yn gyhoeddus?

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 1:01 am
gan S.W.
Dwin trio trafod yr edefyn ond bod yr hen Gath yn gwrthod caniatau hyn.

Dim negeseuon cas Cath, dim ond gofyn i ti yn garedig i beidio a bod mor bersonol.

Sori am ddiflasu gweddill ddarllenwyr y seiad. Dyna pam dwi wedi anfon negeseuon preifat, dydynt ddim o unrhyw werth cyhoeddus.

I hyd yn oed person twp a anrwynebol fel fi mae 'Negeseuon PREIFAT' yn eithaf hawdd iw ddeallt

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 1:09 am
gan Cath Ddu
S.W. a ddywedodd:Dim negeseuon cas Cath, dim ond gofyn i ti yn garedig i beidio a bod mor bersonol.


Onid pwnc dy neges oedd 'ffwl'?

Caredig iawn.

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 1:15 am
gan S.W.
ia dyna oedd y testyn gan dy fod yn mynnu bwlian dy hun o amgylch y maes.

Eeeeeeeniwe fel dwi wedi ei nodi yn yr edefyn ond bod y Gath wedi anghofio/dewis peidio ei ddarllen.

Myfi S.W.

Dwim yn gweld problem gyda gwisgo pabi coch, er yn cydnabod pwysigrwydd a cryfder y ddadl am pabi gwyn.

Maen anffodus bod Sul y Cofio a pob dim sy'n gysylltiedig wedi ei wleidyddio gymaint ond mae hynny'n anochel o ystyried natur y peth. Dwi erioed di dod ar draws Pabi Gwyn yn y rhan yma o'r byd.

O feddwl na Pabi Coch dyfodd ar faes y gad maen well gennai pabi coch.


Nos da bobloedd

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 1:58 am
gan Tegwared ap Seion
Hen Rech Flin a ddywedodd:Er mwyn ceisio osgoi mynd i ymrafael rhwng pleidwyr y pabi goch a'r gwyn mewn tŷ tafarn yn Ross on Wye tua ugain mlynedd yn

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 9:30 am
gan sian
Cath Ddu a ddywedodd:
Onid pwnc dy neges oedd 'ffwl'?



Ffwl stop gobeithio!

PostioPostiwyd: Llun 14 Tach 2005 9:54 am
gan Cath Ddu
sian a ddywedodd:Ffwl stop gobeithio!


:lol:

PostioPostiwyd: Maw 15 Tach 2005 4:48 pm
gan sanddef
Dw'i byth yn gwisgo pabi coch. Be' 'dy'r pwynt cofio'r meirw "yn swyddogol" ac anghofio gwir reswm eu marwolaeth yn y lle cynta', sef (yn achos y Rhyfel Fawr) gwleidyddiaeth dramor nad oedd yn berthnasol o gwbl i bobl Prydain?

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2005 1:32 pm
gan Cwlcymro
SW a'r Gath, does na neb isho clwad be da chi'n drafod yn eich negeseuon preifat. Dadleuwch yn yr edefyn a dadleuwch yn y negeseuon, ond plis sdopiwch gymysgu'r ddau.