Tudalen 10 o 10

PostioPostiwyd: Mer 08 Tach 2006 5:08 pm
gan garynysmon
Mi fyddai'n prynu un coch, fel arfer. Dwi'm yn hoff o'r busnes pabi gwyn 'ma o gwbl i fod yn onest. Mae digon posib bod yn trendy lefty am weddill y flwyddyn, ond mae adeg yr 11/11 yn golygu llawer iawn i amryw o bobol, a diffyg parch ydyw i rhywyn fynd yn groes i hynny yn fy marn i. Welsom ni rioed ryfel.

PostioPostiwyd: Iau 09 Tach 2006 10:42 am
gan Cardi Bach
garynysmon a ddywedodd:Mi fyddai'n prynu un coch, fel arfer. Dwi'm yn hoff o'r busnes pabi gwyn 'ma o gwbl i fod yn onest. Mae digon posib bod yn trendy lefty am weddill y flwyddyn, ond mae adeg yr 11/11 yn golygu llawer iawn i amryw o bobol, a diffyg parch ydyw i rhywyn fynd yn groes i hynny yn fy marn i. Welsom ni rioed ryfel.


dyw hwnna ddim yn hollol wir yn nagyw - beth sydd yn digwydd yn Irac ac Affganistan nawr? Onid rhyfel? Beth oedd yn digwydd yn Rwanda yn y 90au? Beth sydd yn digwydd yn Darfur nawr?

Mae yna lu o ryfeloedd yn cael eu hymladd byth a beunydd. Y cwestiwn yw sut ydyn ni am rwystro rhyfeloedd.

Does dim rhaid byw y profiad yn uniongyrchol i wybod fod rhyfel yn beth erchyll. Fel wy wedi son rywle ym mherfeddion yr edefyn yma, allan o'r 100,000,000 (ffugwr sydd y tu hwnt i nealltwriaeth i) o bobl gafodd eu lladd mewn rhyfeloedd yn y ganrif ddiwethaf, roedd 60,000,000 yn bobl ddi-niwed, a 40,000,000 yn filwyr neu yn ymwneud yn uniongyrchol a'r rhyfel.

Sut mae'r bobl yma - y 60% - yn cael eu coffau? Pa gronfa arianol sydd yna i gefnogi y miliynau o blant amddifad sydd wedi colli eu teuluoedd o ganlyniad i ryfel rhywun arall?

Hefyd lladdwyd nifer o bobl yng Nghymru adeg y rhyfel ond nad oedd yn filwyr - pobl Abertawe a dociau Caerdydd a'r Barri; pobl mewn ffatrioedd, yn y pyllau glo. Pwy goffa anrhydeddus sydd yna i'r bobl yma a fu farw yn sgil rhyfel?

Nid mater o fod yn 'trendi leffti' mo'r pabi gwyn ond datganiad o'r awydd am heddwch, ac i goffau pawb sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel - ein bois ni, a'r rhai hynny sydd yn cael eu galw'n elynion i ni.

Roedd gweld y ddau cyn filwr o'r rhyfel byd cyntaf, un o Loegr a'r llall o'r Almaen, a ddaeth at eu gilydd ac ysgwyd llaw gan ddatgan ffolineb rhyfel a'u awydd am heddwch, yn ysbrydoliaeth.

Heddwch.

(cyn fod Pogon yn taro ei ymweliad blynyddol a'r maes yma :winc: mi wna i ddatgan eto fyth y bydda i'n gwisgo pabi gwyn a phabi coch. Gwyn a choch. Weda i e to, jest rhag ofn - gwyn a choch).

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:34 pm
gan Rhods
garynysmon a ddywedodd:Mi fyddai'n prynu un coch, fel arfer. Dwi'm yn hoff o'r busnes pabi gwyn 'ma o gwbl i fod yn onest. Mae digon posib bod yn trendy lefty am weddill y flwyddyn, ond mae adeg yr 11/11 yn golygu llawer iawn i amryw o bobol, a diffyg parch ydyw i rhywyn fynd yn groes i hynny yn fy marn i. Welsom ni rioed ryfel.


Odi mae yn wir fod gan trefnwyr y pabi gwyn links cryf gyda mudiadau asgell chwith fath a CND, Socialists Workers Party, chwith Plaid Cymru, Respect a.y.y.b. ond mae ganddynt hawl i drefnu seremoni ei hunain (cyn belled, wrth gwrs nad yw e yn amharu ar seremoni y pabi coch). Rydym ym byw mewn democratiaeth wedi'r cyfan. Os rhywbeth - y bois nath aberthu ei bywydau yn yr ail rhyfel byd (yn enwedig), sydd wedi sicrhau bod gan bobl yr hawl i cael llais eu huanin ac ie, sydd yn cynnwys seremoniau fel y seremoni pabi gwyn. Ni fyddaf yn bersonnol yn gwisgo y pabi gwyn (ar rheswm am hynny yw oherwydd eu links i mudiadau asgell chwith, sydd yn groes i fy marn gwleidyddol) OND rwyf yn amddiffyn hawl pobl i wisgo'r pabi gwyn a threfnu seremoni eu huanin.