Tudalen 1 o 4

Y Job yn Irac

PostioPostiwyd: Iau 22 Rhag 2005 6:10 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
Newydd wylio'r newyddion rwan a mae Tony Blair wedi cyhoeddibod bydd y trwps yn ol ar ol i'r 'JOB' gael ei gwblhau. Beth yw'r job ma manw yn siarad am? democratiaeth i'r wlad? hyfforddi er mwyn cael heddlu iracaidd? troi irac yn ol i'r pobl iracaidd? mae'n debyg bod y 'jobiau' hyn wedi eu cwblhau i mi?

Gyrra'r trwps adref tony! mae'nt wedi bod yno am ddigon!

Dwim yn credu eu bod hwy yn gallu gwneud fwy i'r Iraciad rwan.

Dyro nadolig llawen i'r milwyr a'u teulouedd y coc!

PostioPostiwyd: Iau 22 Rhag 2005 6:16 pm
gan Macsen
Gwell fyddai cadw'r milwyr yn Irac am nawr. Rydym ni (Prydain) wedi gwneud llanast a mae 'na gyfrifoldeb arnom ni i glirio fyny cyn troi am adref.

PostioPostiwyd: Iau 22 Rhag 2005 7:29 pm
gan Analeiddiwr
gad i'r ffycars losgi yna os oedda nw digon dwl i joinio'r fyddin yn lle cynta.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 10:29 am
gan Blewyn
Gyda phob parch Macsen dwi'n anghyffyrddus iawn efo'r ffordd mae llawer o bobl yn y gorllewin yn siarad am 'ein cyfrifoldeb' tuag at yr Iraciaid......tra mae dynion a merched ifainc o Texas i Maine yn gwynebu bwledi a bomiau er ei fwyn. Hawdd yw siarad am 'ein cyfrifoldeb' pan mae'r siaradwr yn eistedd mewn diogelwch adref. Pa hawl sydd gen unrhyw un i siarad am gyfrifoldebau sydd yn feichiog ar waed eraill ? Yr hyn da ni'n ofyn o'm lluoedd arfog yw i'n amddiffyn, a thrwy hynny i amddiffyn eu pobl eu hunain - eu teuluoedd a'u cymunedau. T'ydy nhw ddim yna i wiethredu ein cyfrifoldebau moesol ni tuag at 'third parties', ac yn sicr ddim i aberthu eu bywydau eu hunain er mwyn yr iraciaid.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 12:15 pm
gan Macsen
Wel, wnes i ddim cefnogi'r rhyfel o'r dechrau, felly does dim llawer o gyfrifoldeb arna'i i ddatrys llanast pobl eraill. Ond y ffaith yw y byddai gadael Irac yn gwneud mwy o ddifrod i'r gwlad erbyn hyn, am nad oes llywodraeth a heddlu cryf i gymryd lle yr un rydym ni (Prydain, dim fi fel unigolyn) wedi ei chwalu.

Ar y llywodraeth mae'r cyfrifoldeb i gadw'r milwyr yn y wlad. Mae yna gyfrifoldeb ar y milwyr, nid i aberthu ei bywydau dros yr iraciaid ond yn sicr i ddilyn gorchmynion y llywodraeth. Dyna ei gwaith nhw, nid oes yr un ohonynt wedi'i gorfodi i fod yn filwr, a mae digon o amser wedi mynd heibio ers dechrau'r rhyfel iddyn nhw adael y fyddin os nad oedden nhw'n ymwybodol o'r risg.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 1:43 pm
gan Jakous
Macsen a ddywedodd:Gwell fyddai cadw'r milwyr yn Irac am nawr. Rydym ni (Prydain) wedi gwneud llanast a mae 'na gyfrifoldeb arnom ni i glirio fyny cyn troi am adref.

Ni?! Ni?!

Doeddwni ddim byd i neud efo'r ffycin peth ma. Tydwi ddim yn Brydeinwr. Roedd rhan fwyaf o bobl Lloegr, Cymru ac yr Alban yn erbyn y rhyfel. Felly;

Mae Tony the Tory wedi gwneud mess wrth drio fod ar ochr dda Dubya. Geith o neud o ei hyn. Fo a'i ffycin fyddin stupid. Dylsa nhw aros na heb unrhyw arfau fel yr Iraciaid di-euog.

Da ni'n byw mewn ymerodraeth Brydeinig sydd gan fyddin sy'n cael ein taxes, lle mae ysgolion yn cau oherwydd diffyg arian cyhoeddus. Pa-ffycin-theteig yr atho yno yn y lle yn gynta, a mwya ma nhw yno, mwya o bres mae'n costio i ni.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 1:49 pm
gan Analeiddiwr
Clywch clywch.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 2:12 pm
gan Macsen
Jakous a ddywedodd:Da ni'n byw mewn ymerodraeth Brydeinig sydd gan fyddin sy'n cael ein taxes, lle mae ysgolion yn cau oherwydd diffyg arian cyhoeddus. Pa-ffycin-theteig yr atho yno yn y lle yn gynta, a mwya ma nhw yno, mwya o bres mae'n costio i ni.


Agwedd hynod o hunanol. Petai y milwyr yn gadel Irac nawr byddai 'na ryfel cartref a miloedd yn marw. Ond bw hw mae rhaid i Jakous dalu ei drethi, sydd ddim yn deg o gwbwl, er ei fod yn byw mewn cysur sydd megis nefoedd i bobl Irac.

Fyddai gadael Irac ddim yn dad wneud drwg mynd yno yn y lle cyntaf. Two wrongs don't make a right, ys dywed y sais.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Rhag 2005 4:09 pm
gan Cwlcymro
Ma Irac yn drych yn waeth a gwaeth bob diwrnod erbyn hyn. Er "llwyddiant" cael etholiad, mae'r canlyniada yn deud lot am y wlad rwan. Ma'r wlad wedi ei ranu yn dri rhan hollol wahanol (Shia, Sunni a Kurds) a does na fawr heddwch rhwng y tri ochr. Mi fethodd y candidates di-grefydd, oedd a chefnogaeth gryf America a Prydain, a gwneud unrhyw effeith (rhyw 11% os dwi'n cofio'n iawn) a mi fydd arweinyddion newydd y wlad yn rhoi crefydd cyn popeth arall. Mai wir yn edrych fel fod Tony a George wedi creu Iran mark 2 - hyd yn oed MWY fanatic na'r gwreiddiol.

PostioPostiwyd: Sad 24 Rhag 2005 12:01 pm
gan Blewyn
Cyn belled fod yna ddosbarth addysgiedig a deallus mewn grym - un sydd yn barod i ymrafael a'r rhai sy'n barod i gamddefnyddio crefydd a chorddi'r dyfroedd - mae'na obaith o heddwch.