Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Sad 24 Rhag 2005 6:30 pm
gan ceribethlem
Blewyn a ddywedodd:Cyn belled fod yna ddosbarth addysgiedig a deallus mewn grym - un sydd yn barod i ymrafael a'r rhai sy'n barod i gamddefnyddio crefydd a chorddi'r dyfroedd - mae'na obaith o heddwch.
Cywir, mae'n bwysig i hyn i fedru ddigwydd fod rhaid sicrhau sefydlogrwydd yn y wlad yn ystod y cyfnod trosiannol hwnnw.

PostioPostiwyd: Sad 24 Rhag 2005 7:59 pm
gan Dili Minllyn
A bod yn gwbl realistig, fydd milwyr y Gorllewin byth yn gadael Irac yn gyfan gwbl. Efallai y bydd y rhan fwyaf o'r milwyr cyffredin yn dod adre yn y pen draw, ond bydd o hyd rhyw gnewyllyn o ymgynghorwyr milwrol (sef uwch-swyddogion y fyddin a dynion y gwasanaethau cudd) yn aros i lywio'r llywodraeth a sicrhau buddiannau'r Gorllewin yno, yn bennaf oll trwy sicrhau bod yr olew'n dal i lifo tuag atom, ac i sicrhau hawliau cwmn

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2005 10:25 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
Analeiddiwr a ddywedodd:gad i'r ffycars losgi yna os oedda nw digon dwl i joinio'r fyddin yn lle cynta.


dachi wedi dileu fy ymateb i hyn felly dwi am fod llai harsh a gofyn- pam bod mor dwp yn sgrifennu ffasiwn ymateb? buaset ti digon parod i'w cefnogi os buasent yn ymladd rhyfel yn y wlad yma felly dangosa mymryn o barch i'r fyddin

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2005 10:33 pm
gan Ari Brenin Cymru
Ia pam fod y negeseuon yma wedi eu dileu? Os dwi'n cofion iawn roedd Sioni Size wedi ymateb ir edefyn yma hefyd, oherwydd mi wnes roi carma gwyrdd iddo fo. Digon teg dileu'r negeseuon, ond credaf y dylia'r person a wnaeth hyn, roid eglurhad, gan fod yr edefyn yn edrych yn aneglur wedi i'r negeseuon gael eu dileu.

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2005 10:42 pm
gan nicdafis
Wnes i ddileu ddwy neges a oedd yn cynnwys ymosodiadau personnol ynddynt. Mae rheolau'r safle yn ddigon clir am hyn.

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2005 11:00 pm
gan Cath Ddu
Cwlcymro a ddywedodd:Er "llwyddiant" cael etholiad, mae'r canlyniada yn deud lot am y wlad rwan. Ma'r wlad wedi ei ranu yn dri rhan hollol wahanol (Shia, Sunni a Kurds) a does na fawr heddwch rhwng y tri ochr.


Rhwng y tri ochr? Dwi'n amheus os di hynna'n gywir. Dwi hfyd yn codi cwestiwn gweddol syml, os di'r Kurdiaid, Shia a'r Sunni yn dymuno hunan-lywodraeth gref beth yn union sy'n wael am hyn? :rolio:

Cwlcymro a ddywedodd:Mi fethodd y candidates di-grefydd, oedd a chefnogaeth gryf America a Prydain, a gwneud unrhyw effeith (rhyw 11% os dwi'n cofio'n iawn) a mi fydd arweinyddion newydd y wlad yn rhoi crefydd cyn popeth arall.


11% yn ddigon parchus o ystyried neges unoliaethol di-grefydd. Ychydig yn well na PC o 1979 - 1997 a sylweddol well na PC 1925 - 1966!

Cwlcymro a ddywedodd:edrych fel fod Tony a George wedi creu Iran mark 2 - hyd yn oed MWY fanatic na'r gwreiddiol.


Felly ti'n disgrifio Iran mewn termau tebyg i George W?

PostioPostiwyd: Iau 29 Rhag 2005 12:53 pm
gan GT
Ydi hi'n bosibl trafod unrhyw beth heb ddod a'r Blaid i mewn i'r drafodaeth Giaman? :)

PostioPostiwyd: Gwe 30 Rhag 2005 2:43 am
gan Cath Ddu
GT a ddywedodd:Ydi hi'n bosibl trafod unrhyw beth heb ddod a'r Blaid i mewn i'r drafodaeth Giaman? :)

PostioPostiwyd: Gwe 30 Rhag 2005 11:04 am
gan GT
Mae Irac yn esiampl da o wlad wedi ei chreu mewn ffordd anghyfrifol oedd yn sicrhau y byddai tensiynau wedi eu hadeiladu i mewn i wleidyddiaeth y wlad am byth.

Byddai'n gallach rhannu'r wlad yn dri rhan, a byddai'r tensiynau wedyn yn mynd yn rhai 'rhyngwladol'. Mae hynny'n well na rhai mewnol.

'Dydi hi ddim yn bosibl i'r UDA ganiatau hyn oherwydd ystyriaethau strategol. Byddai Iran - sy'n un o brif elynion yr UDA, wrth eu bodd cael gwladwriaeth Shiaidd (efo digon o olew) wrth ei chwt.

Byddai Twrci - sy'n hen ffrind i'r UDA yn flin iawn gweld gwladwriaeth Gwrdaidd y ty nesaf iddynt - mae ganddyn nhw boblogaeth Gwrdaidd fawr eu hunain, ac maen nhw'n poeni beth fyddai'r datblygiad nesaf.

Gan obeithio na fyddwn yn mynd i ffraeo gormod am y Dwyrain Canol eto hoffwn nodi bod yr holl stori yma'n tynnu sylw at un agwedd o draha'r Dde Americanaidd. Ymhlyg yn y feddylfryd sydd wedi gyrru eu polisi tramor yn ddiweddar mae'r gred bod pawb yn y bon 'eisiau bod yn Americanwyr'.

Dydi pawb ddim eisiau bod yn Americanwyr - ag eithrio rhai o'r Americanwyr eu hunain.

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 3:19 pm
gan Cwlcymro
Cath Ddu a ddywedodd: Dwi hfyd yn codi cwestiwn gweddol syml, os di'r Kurdiaid, Shia a'r Sunni yn dymuno hunan-lywodraeth gref beth yn union sy'n wael am hyn?
Pwynt teg, os alla nhw dorri fyny yn heddychlon yna dydio ddim yn beth mor wael a hynny. Ac i fod yn deg mae o yn edrych fel fod y Sunni's a'r Shia's wedi rhoi y peth agosa i annibyniaeth i'r Kwrdiaid yn barod.

Cath Ddu a ddywedodd:
11% yn ddigon parchus o ystyried neges unoliaethol di-grefydd. Ychydig yn well na PC o 1979 - 1997 a sylweddol well na PC 1925 - 1966!
Dim wir yn gweld be sydd gan y Blaid i neud efo hyn. Ond ma 11% yn fethiant yn erbyn 89% sydd isho gwlad wedi ei rheoli gan grefydd (a crefyddau gwahanol o ran hynny)

Cath Ddu a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:edrych fel fod Tony a George wedi creu Iran mark 2 - hyd yn oed MWY fanatic na'r gwreiddiol.


Felly ti'n disgrifio Iran mewn termau tebyg i George W?


Ym be? Lle dwi'n "disgrifio Iran mewn termau tebyg i George W"? Allaim hyd yn oed gwel lle a sut ti di'n ngham ddeall i! Cymharu yr Irac newydd i Iran ydwi.