Postiwyd: Sad 31 Rhag 2005 3:24 pm
Cath Ddu a ddywedodd: Ti'n gwadu fod agwedd Cwlcymro tuag at 11% o'r bleidlais yn OTT fel agwedd tuag at UNRHYW blaid leiafrifol?
Ond y gobaith oedd na fysai hi'n blaid leiafrifol. Mi odd Prydain a America yn gobeithio cael llywodraeth di-grefyddol (sori, be di'r gair Cymraeg am secular?) yn Irac. Ma 11% yn fethiant i unrhyw blaid oedd a gobaith am enill etholiad.
Cath Ddu a ddywedodd:Ti sy'n dweud hyn ta hy sy'n digwydd? Yn amlwg di dy ddadansoddiad di fan hyn ddim yn cytuno efo Dadansoddiad Mr Cwl.
Sioc bach i chdi rwan gath Ddu. Dim yr un person ydwi a GT a does na ddim rheswm pam y dylsa'n "dadansoddiad" ar unrhyw bwnc gytuno. Dwi'n gwbod nad wti'n licio ffaith, ond ma hyd yn oed "aelodau o PC, plant i aelodau PC a 'fellow travellers' yn anghytuno ar nifer o betha gwleidyddol!