Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Maw 03 Ion 2006 10:59 pm
gan Dan Dean
Ond o ddarllen y drafodaeth mae'n weddol amlwg fod GT yn cyfrannu i amddiffyn [safbwynt cwlcymro]

Nadi.

Neith Tony ddim gyrru'r fyddin adra achos mae George isio nhw aros yno.

buaset ti digon parod i'w cefnogi os buasent yn ymladd rhyfel yn y wlad yma felly dangosa mymryn o barch i'r fyddin


Wrth gwrs sa pawb yn dangos parch iddynt os fuasent yn amddiffyn ni mewn rhyfel, ond dim dyna mae nhw'n wneud nage. Mi fuasai rhywun yn dangos mymryn o barch i'r fyddin Nazi os fuasent yn eu amddiffyn hefyd. Sut sa chdi di ymateb i Analeiddiwr os fuasai ef yn son am fyddin o wlad arall?

Mae byddin A yn cwffio efo byddin B yn erbyn gwald C er mwyn ehangu cyfoeth a phwer gwlad B(dim i wneud "y byd yn saffach" fel mae gwlad B yn honni) gan greu llanast yng ngwlad C, felly bols i fyddin A.

Mae'r fyddin Brydeinig yn cwffio efo byddin America yn erbyn Irac er mwyn ehangu cyfoeth a phwer America(dim i wneud "y byd yn saffach" fel mae America yn honni) gan greu llanast yng Irac, felly bols i'r fyddin Brydeinig. Dyna dwin feddwl beth bynnag.

A dweud y gwir dydi ymddygiad y fyddin Brydeinig dros y mileniwm dwythaf heb fod yn hyfryd iawn chwaith, heblaw am chydig bach o sefyllfaoedd(allan o filoedd), felly bols iddyn nhw. Amwni dyma'r prif reswm pam na fuaswn i BYTH yn galw Prydain yn "ni" wrth fod o ddifri.

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 12:00 am
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
Dodd ddim angen awgrymu i'r fyddin neu'r 'ffycars' cael eu llosgi nagoedd. Beth os fuasai Tsieina neu rhyw wlad yn dechrau ein bomio ni foru ni fuasai eisiau i'r ffycars losgi nasa? Buasai e eisiau i'r fyddin ymladd drosto fe?

Ond eniwe, ma'r twpsyn wedi ei wahardd nawr am awgrymu ddylai rhywun arall gael eu lladd am sgrifennu can.

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 3:04 pm
gan Sioni Size
Felly petai'r Yellow Peril yn ymosod ar Britannia fory a fysa ti'n dymuno gweld hwy oll yn cael eu lladd, Dewi?

Yn ol y rhesymeg felly, mae byddin unryw wlad sy'n goresgyn a lladd trigolion gwlad arall er mwyn buddiannau cwbl hunanol eu gwlad eu hunain yn gofyn amdani. Ti'n cytuno?

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 5:03 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
dwin jysd deud ei fod yn harsh i ddyweud ddylai'r fyddin cael eu llosgi a buasai aneleiddiwr yn teimlo'n wahanol os buasai rhyfel yn torri allan yn y wlad yma, t dalld?

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 5:44 pm
gan Dylan
Tra 'dw i'n cytuno ei bod yn ddyletswydd i unrhyw filwr ym myddin Prydain i wrthod mynd i ryfel y mae'n anghytuno ag o, 'dw i'n meddwl bod rhaid i ti ystyried y rhesymau sosio-economaidd eu bod wedi ymuno

PostioPostiwyd: Mer 04 Ion 2006 8:32 pm
gan Dili Minllyn
Cath Ddu a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:Drwg 'da fi, oedd yna ryw drafodaeth am Irac yn mynd ymlaen yn rhywle?


Oedd. Sgen ti gyfraniad?


Mi gyfrannais i ychydig ddyddiau