Dwi’n cofio nifer o aelodau fy nheulu yn y rhyfel. Y stori fwyaf trist oedd brawd ifanc fy nain.
Mae 'na lun yn nhŷ ni o fachgen ifanc gyda thei a siaced wedi ei goluro fewn gydag ysgrifen fach ar y gwaelod yn dweud : ‘If he wears a jacket and tie, he’ll look old enough’. Roedd y fam wedi cymryd ei mab i’r ffotograffydd er mwyn cael hyd o ffordd i gael ei phlentyn i edrych yn ddigon hen i ymuno a’r fyddin ac ymladd. Dim ond 15 oed oedd pan ymunodd, cafodd ei ladd mewn ymosodiad gan yr Almaenwyr yn wlad Belg pan oedd dim ond 17.
Mae’n frawychus i feddwl am gymdeithas roedd yn bodoli ym Mhrydain gydol y rhyfel a bwysodd mamau i ddanfon eu plant dan oed i ryfel.