Tudalen 2 o 2
Postiwyd:
Llun 12 Meh 2006 6:50 pm
gan caws_llyffant
Duw , diolch yn fawr iawn , Jammyjames !
Ddaru Taid , THOMAS WILLIAMS , 17 OED , LLANDDULAS gwffio yn y goedwig tu nol i chdi , ac oedd o'n hogyn Cymraeg yn Ffrainc , fel wyt ti ar y ffoto . Cyn y ryfel , oedd o'n gweithio efo'r pobl asyn ar y traeth yn Llandudno ; dipyn o waith yn y chwaral hefyd , dwi'n meddwl .
Ar ôl y ryfel , dyma fo'n infeitio merchaid ddel i gael te yn y Grand , ar y promenade yn Llandudno.
" How can you keep them down on the farm , now that they've seen Paree ?".
( roedd Taid Mametz o Landdulas , nid Llysfaen fel ddaru fi ddweud o blaen . Dyna pam dwi wedi newid y neges dipyn bach )
Postiwyd:
Llun 12 Meh 2006 7:04 pm
gan caws_llyffant
Friars .... ysgol yn Colwyn Bay , dwi'n meddwl , Jammy James ?
Postiwyd:
Llun 12 Meh 2006 7:06 pm
gan Tegwared ap Seion
Bangor
Postiwyd:
Llun 12 Meh 2006 7:17 pm
gan caws_llyffant
xxx siarad am siarad am siarad .
Y pwynt i'w hwn : Diolch i chdi , a diolch i dy ysgol , Jammyjames .
Dwi'n cofio dawnsio efo'r hogiau Friars lot o amser yn ôl . Hogan o Howells ydw i .
Anna .
Postiwyd:
Llun 12 Meh 2006 8:35 pm
gan jammyjames60
Mae hwnna'n stori anhygoel o ddiddorol, dwi'n balch rydw i wedi dangos lle naeth dy daid frwydro yr holl flynyddoedd yn ol!
Dylia chi fynd i'r rhan yna o Gwlad Belg/ Ffrainc. Wnaeth y 'last post' gwneud i mi grio, a dwi ddim yn rhwystrus o gwbwl, achos oedd pawb, rili, pawb yn beichio crio. Mae o'n lle rhyfeddol, ac un o'r llefydd dylia pawb fynd unwaith yn eu bywyd!
Postiwyd:
Llun 12 Meh 2006 9:23 pm
gan caws_llyffant
Wel , dim isio crio
Postiwyd:
Maw 13 Meh 2006 11:33 am
gan jammyjames60
caws_llyffant a ddywedodd:Wel , dim isio crio
Dim 'isio' crio o ni, nes i jyst crio.
Postiwyd:
Maw 20 Meh 2006 12:06 pm
gan caws_llyffant
Ateb ardderchog , Jammyjames . Hwyl i chdi .
Postiwyd:
Maw 20 Meh 2006 1:01 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi’n cofio nifer o aelodau fy nheulu yn y rhyfel. Y stori fwyaf trist oedd brawd ifanc fy nain.
Mae 'na lun yn nhŷ ni o fachgen ifanc gyda thei a siaced wedi ei goluro fewn gydag ysgrifen fach ar y gwaelod yn dweud : ‘If he wears a jacket and tie, he’ll look old enough’. Roedd y fam wedi cymryd ei mab i’r ffotograffydd er mwyn cael hyd o ffordd i gael ei phlentyn i edrych yn ddigon hen i ymuno a’r fyddin ac ymladd. Dim ond 15 oed oedd pan ymunodd, cafodd ei ladd mewn ymosodiad gan yr Almaenwyr yn wlad Belg pan oedd dim ond 17.
Mae’n frawychus i feddwl am gymdeithas roedd yn bodoli ym Mhrydain gydol y rhyfel a bwysodd mamau i ddanfon eu plant dan oed i ryfel.
Postiwyd:
Mer 18 Hyd 2006 4:34 pm
gan Guto Morgan Jones
Ai mae cofeb Mametz i'r Cymry yn drawiadol. Dwi wedi bod yma deir gwaith (dwy waith efo'r Ysgol ac unwaith efo Mam a Dad).
Bu farw hen hen ewyrth i mi yno yn 1916.
Piti bod llefydd fel Wipers (Ypres gan filwyr Prydain a'i hen Ymerodraeth) wedi cael eu chwalu gan y Rhyfel Mawr.