Tudalen 1 o 1

Liberia

PostioPostiwyd: Mer 30 Gor 2003 12:04 pm
gan Rhodri Nwdls
Pam fod yr Americanwyr yn penderfynu camu mewn yn Liberia (yn amharod...) pan fo cymait o wledydd eraill yn Affrica yn rhyfela, be am Ethipoia/Eritrea a phan oedd Rwanda'n rhyfela. Congo ayyb ayyb

Be di'r motif? Oedd Liberia yn wlad a ffurfiwyd gan gaethweision Americanaid a ddychwelodd i Affrica? Shwrli mai dim rhyw fath o lame ymddiheuriad ydi hwn, neu oes na arian iddyn nhw yno?

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 4:57 pm
gan Dylan
'Dw i bythefnos yn hwyr, ond dim ots.

Mae'r Americanwyr yn teimlo ychydig bach mwy cyfrifol am Liberia oherwydd oedd, mi oedd o'n wlad a ffurfwyd gan gaethweision wedi'u rhyddhau. Coloni cynta' America a ballu.

Yn syml, mae Affrica gyfan yn y shit. Mae'r gorllewin i gyd i'w feio am hynny. Yn wir fuaswn i'n dweud mae un o fecweddau mwya' dinistriol imperialaeth ydi'r llinellau hollol random 'ma gafodd eu llunio ar y map. "Gwledydd" 'rydan ni'n galw'r blocs mawr rhyngddynt erbyn hyn. Dim ystyriaeth am ddemograffig y wahanol bobol sy'n byw yno na dim. Jyst y gwledydd cyfoethog yn rhannu'r sboils megis torri cacen. Dim rhyfedd bod cymaint o ryfeloedd yno.

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 6:40 pm
gan Macsen
Americaniaid yn Liberia? Damia, pwy darodd oil?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 5:01 pm
gan Dylan
Sao Tomé é Principe

sy'n ddigon agos