Peryglus ydi'r wê, ynde? Gall unrhyw sibrwd gwag ac anwybodus droi'n stori neu sgandal......
Mae'r Gadair Ddu, a'r cadeiriau eraill a enillodd Hedd Wyn, yn cael eu cadw'n ddiogel a gofalus yn Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn. Hynny yw, yn y lle mae nhw i fod. Mae Gerald, nai Hedd Wyn, sy'n dal i ffermio yno, yn gofalu amdanynt - ac am yr holl lyfrau ac ati sydd hefyd wedi eu cadw. Mae'r tŷ - sydd yn dal heb drydan - yn cael ei gadw fel 'amgueddfa' i bobol o bell ac agos gael mynd yno yng nghwmni Gerald (nai Hedd Wyn), sydd yn tywys pobl o gwmpas.
Bu Gerald a'i frawd, sydd bellach wedi marw, yn tywys pobl o amgylch y tŷ i weld y cadeiriau ers blynyddoedd lawer. Mae croeso i unrhyw un fynd yno i'w gweld, mond matar o ffonio ymlaen llaw er mwyn i Gerald wneud tân a ballu. Os ydych yn grwp mawr o bobl, dwedwch hynny ymlaen llaw, i alluogi Gerald i drefnu i'w ffrind, Huwi Glyn, i ddod i helpu. Dwy stafell fach sydd yn y tŷ, felly mond chwech (wyth ar binsh) all fynd i bob stafell ar y tro. Gallwch ffonio
fan hyn i drefnu.
Tydi'r cadeiriau ddim 'yn pydru' nac 'yn heneiddio mewn fferm' o gwbwl. Mae nhw yn cael gofal cariadus er mwyn y genedl, gan y teulu, a hynny yn y lle mae hi i fod, sef cartref Hedd Wyn.