Tudalen 1 o 2

Hedd Wyn

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 5:45 pm
gan caws_llyffant
Mae'r cadair Hedd Wyn yn heneiddio mewn fferm .

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 5:47 pm
gan Manon
Be, mewn ty fferm ta beudy neu wbath? 'Dio'n pydru go iawn?

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 5:51 pm
gan caws_llyffant
Mewn ty fferm , Manon .

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 5:57 pm
gan Socsan
O... Lle welis di

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:10 pm
gan Manon
Ydi o yn nhy fferm ei deudlu? Ai meddwl dylia fo fod mewn amgueddfa wyt ti? (sori am fy thicrwydd.) 'Sa fo'n neis cael gweld o bysa.

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:21 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Dydi hi'm yn pydru o gwbl. Pan o'n i yn y chweched (1999), aeth criw ohonom oedd yn gwneud Cymraeg Lefel A i'r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn. Roedd y gadair ddu yn cael parch ofnadwy, a doedd neb yn cael hawl i'w chyffwrdd hi. Roedd Gerald, nai Hedd Wyn, yn cymryd balchder mawr yn gofalu ar

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:27 pm
gan caws_llyffant
Na , dim byd i wneud efo'r we , Socsan . Gwybodaith lleol . Mae'r gwr fy chwair yn gweithio rownd fana , a ddaru o ddwad ar draws y cadair Hedd Wyn mewn hen fferm .

Dydi'r cadair Hedd Wyn dim yn pydru mwy na ni . Mae o jest fana .

Anna .

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:29 pm
gan caws_llyffant
Ia , fferm i wneud efo'r teulu , Manon .

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:33 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Wel, mae na gadeiriau eraill o'i gwmpas o, ac mae na ffenestr a swits golau, felly dwi'n amau fod na rywfaint o or-ddweud yma caws_llyffant. Mae'r teulu wedi bod yn ddigon caredig i groesawu pobl draw i weld y cadeiriau a'r cartref ar hyn y blynyddoedd (yn enwedig felly ar ol ymddangosiad y ffilm), a hynny'n ddi-d

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 6:58 pm
gan caws_llyffant
Wel , diolch yn fawr iawn am y gwybodaeth Twyllwr . Ddaru'r gwr fy chwaer fynd i'r fferm 'na i siarad am waith ..... a dyma'r cadair Hedd Wyn ar y ffordd allan . Haul a golau .

Ddaru chdi fynd yno i weld y cadair . Hwna di'r gwahaniaeth .

A , ia wir , mae'r cadair yn well yna na mewn amgueddfa .

Post Scriptum : ' fatha Twyllwr , dwi wedi newid manylion yn yr edefyn hwn .... cyngor gan ddynes sydd yn dallt y byd yn well 'na ni ...... efallai .