Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 8:11 pm
gan Guto Morgan Jones
Mae Cadair Hedd Wyn yng nghartref y teulu yn yr Ysgwrn, Traws.
Nid ydi o mewn 'sgybor fel mae ambell i un yn awgrymu ond rhwng rhai o gadeiriau 'Steddfodau lleol ennillodd Hedd Wyn cyn y rhyfel ym mharlwr y teulu. Ar hyn o bryd ei nai, Gerald Williams (mab i un o'i chwiorydd) sydd yng ngofal y fferm.

Oeddech chi yn gwybod mai saer coed o Fflandrys gynlluniodd y gadair? Ffoadur o'r enw Eugeen Vanfletren ydoedd a wedi ymsefydlu ei hun yn
Lerpwl. Gofynwyd iddo gan bwyllgor yr Eisteddfod i gynllunio a gwneud y gadair yn 1917.

Re: Hedd Wyn

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 1:36 am
gan Gari Mynach
Be fydd yn digwydd i'r cadeiriau os fydd Gerald yn marw? Oes ganddo deulu?

Re: Hedd Wyn

PostioPostiwyd: Sad 22 Maw 2008 12:42 pm
gan mabon-gwent
Dyma un o'i gerddi, Rhyfel:

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.

Pan deimlodd fyned ymaith Duw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw,
A'i gysgod ar fythynnod tlawd.

Mae'r hen delynau genid gynt
Ynghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt
A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.

Re: Hedd Wyn

PostioPostiwyd: Maw 25 Maw 2008 10:59 am
gan Prysor
Peryglus ydi'r wê, ynde? Gall unrhyw sibrwd gwag ac anwybodus droi'n stori neu sgandal......

Mae'r Gadair Ddu, a'r cadeiriau eraill a enillodd Hedd Wyn, yn cael eu cadw'n ddiogel a gofalus yn Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn. Hynny yw, yn y lle mae nhw i fod. Mae Gerald, nai Hedd Wyn, sy'n dal i ffermio yno, yn gofalu amdanynt - ac am yr holl lyfrau ac ati sydd hefyd wedi eu cadw. Mae'r tŷ - sydd yn dal heb drydan - yn cael ei gadw fel 'amgueddfa' i bobol o bell ac agos gael mynd yno yng nghwmni Gerald (nai Hedd Wyn), sydd yn tywys pobl o gwmpas.

Bu Gerald a'i frawd, sydd bellach wedi marw, yn tywys pobl o amgylch y tŷ i weld y cadeiriau ers blynyddoedd lawer. Mae croeso i unrhyw un fynd yno i'w gweld, mond matar o ffonio ymlaen llaw er mwyn i Gerald wneud tân a ballu. Os ydych yn grwp mawr o bobl, dwedwch hynny ymlaen llaw, i alluogi Gerald i drefnu i'w ffrind, Huwi Glyn, i ddod i helpu. Dwy stafell fach sydd yn y tŷ, felly mond chwech (wyth ar binsh) all fynd i bob stafell ar y tro. Gallwch ffonio fan hyn i drefnu.

Tydi'r cadeiriau ddim 'yn pydru' nac 'yn heneiddio mewn fferm' o gwbwl. Mae nhw yn cael gofal cariadus er mwyn y genedl, gan y teulu, a hynny yn y lle mae hi i fod, sef cartref Hedd Wyn.

Re: Hedd Wyn

PostioPostiwyd: Maw 25 Maw 2008 11:03 am
gan Prysor
Gari Mynach a ddywedodd:Be fydd yn digwydd i'r cadeiriau os fydd Gerald yn marw? Oes ganddo deulu?


Mae gan Gerald chwaer yn byw i ffwrdd. Mae 'na bryderon am ei hagwedd at ei threftadaeth. Ond coeliwch chi fi - wnaiff Gerald, na neb arall yn Traws, ddim gadael i unrhyw beth ddigwydd i'r cadeiriau 'na!!!