Tudalen 1 o 4

Norman Kember wedi'i ryddhau

PostioPostiwyd: Iau 23 Maw 2006 12:07 pm
gan huwcyn1982
Newyddion gwych bore 'ma fod Norman Kember wedi'i ryddhau/achub ar ol dros gant o ddiwrnodau wedi'i dal fel wystl yn Irac.

Diwrnod amwn i doedd lot ddim yn disgwyl gweld, gan ystyried marwolaeth ei gyd-wystl Tom Fox.

Newyddion da o Irac o'r diwedd.

PostioPostiwyd: Iau 23 Maw 2006 12:58 pm
gan Cymro13
Newyddion Da
On i'n meddwl base fe di cael ei ladd erbyn nawr

PostioPostiwyd: Gwe 24 Maw 2006 5:52 pm
gan *NHJ*
Newyddion Gwych!!! :)

PostioPostiwyd: Gwe 24 Maw 2006 6:26 pm
gan huwcyn1982
Debyg mae nol o fewn yr oriau nesa.

Yn ol y son, doedd y tri ddim yn gwbod am lofruddiaeth Tom Fox rhai wythnosau nol, a mond wedi dod i ddeall be ddigwyddodd ar ol cael eu hachub

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 10:12 am
gan Rhods
Mae'n ryddhad mawr ei fod wedi dod nol..ond y cwestiwn mae'n rhaid gofyn yw, beth oedd e'n gwneud draw yn Irac yn y lle cyntaf? Peth ffol iawn oedd gwneud, gan bod e di rhoi ei fywyd mewn peryg ac hefyd bywydau y milwyr nath ei achub.

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 10:50 am
gan Tegwared ap Seion
yn hollol Rhods. Be ddaeth dros ei ben o yn mynd yna dwn i ddim. Rhaid ei fod yn berson na

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 11:03 am
gan unllygeidiog
Sgen i ddim amynedd at y boi ma o gwbl.

Mae'r bachan yn 74 mlwydd oed, ac aeth e mas i Irac er bod o bobl wedi ei rybuddio i beido rhag ofn y byddai'r union beth hyn yn digwydd. Ac eto bois ifanc sydd yn gorfod rhoi'u bywydau nhw mewn peryg i'w achub e. Oedd ganddo fe rhyw fath o invincibility complex, neu rywbeth?

Ac, os wy'n deall pethau'n iawn, wnaeth e ddim dangos diolchgarwch i'r milwyr ar ol cael ei achub. Y stori ar wefan y BBC cyn iddo lanio yn Heathrow oedd bod Mike Jackson, pennaeth y fyddin, yn siomedig ei fod Kember heb ddiolch i'w filwyr am ei achub. Yr unig ddiolch glywais i ganddo oedd hwnnw yn y gynhadledd i'r wasg, ac roedd y diolch hwnnw'n swnio'n anniddig.

Mae'r ffordd mae rhai o'r cyfryngau'n ei bortreadu fel rhyw fath o ferthyr neu arwr yn mynd reit ar fy nerfau. Ar radio Red Dragon (stori arall yw pam oeddwn i mor dwp a grando - car rhywun arall, onest) oedd rhyw dj yn dweud nad oedd Kember fel rhyw beiriannydd allan yn Irac i wneud arian. Ffwl. Dyw hi ddim yn ddu a gwyn. Mae'n siwr bod y mwyafrif o beiriannwyr allan yn Irac er mwyn gwella'r sefyllfa yn y wlad; mae'n sicr bod yna ffyrdd llai peryglus o wneud arian os ych chi'n beiriannydd.

Dwn i ddim, ond rwy'n credu bod peiriannydd sy'n gwella rhwydwaith drydan Irac (er enghraifft) yn gwneud mwy o les na rhyw hen stejar yn anwybyddu cyngor pawb ac yn achosi pob math o drafferth i bobl (sydd a digon o waith i'w wneud fel y mae) pan mae'n cael ei hun i drafferth.

PostioPostiwyd: Maw 28 Maw 2006 10:54 am
gan Dwi'n gaeth i gaws
sori, ond ma geni barch at y boi. ella nath o'm mor peth calla ny byd ond sa'n llywodraeth ni ddim di penderfynu mynd i Irac sam angan pobl fatha fo i fynd yno wan nafsa.

fel udish i, ella bod o heb neud y peth calla o'i ran o fel unigolyn ond mai'n amlwg fod ei frawdgarwch a'i gariad at ei gyd-ddyn mor an-hunanol ac anferthol di mond yn bosibl i fi ei edmygu.

. . . ag o be dwi'n ddallt roedd o di arwyddo i ddeud bo om isho'r fyddin fynd ar i ol o i chwilio amdan o fo. pan dwi'n deud wth rhywun beidio neud rhywbeth a ma nhw'n neud o - er fy lles fy hun neu beidio dwi'n mynd chydig bach yn pisd off. . .

PostioPostiwyd: Maw 28 Maw 2006 12:16 pm
gan Tegwared ap Seion
snam angen pobol fatha fo i fynd yna o gwbwl...ag wyt ti'n awgrymu y basa'n well ganddo fod nol yn nwylo'i herwgipwyr yn hytrach nag adre o flaen y t

PostioPostiwyd: Maw 28 Maw 2006 1:14 pm
gan HBK25
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:sori, ond ma geni barch at y boi. ella nath o'm mor peth calla ny byd ond sa'n llywodraeth ni ddim di penderfynu mynd i Irac sam angan pobl fatha fo i fynd yno wan nafsa. [/size]


Na, achos roedd Iraq o dan rym Saddam Hussein yn le braf, heddychlon hefo cwningod pinc del, 'doedd? :winc: