gan unllygeidiog » Llun 27 Maw 2006 11:03 am
Sgen i ddim amynedd at y boi ma o gwbl.
Mae'r bachan yn 74 mlwydd oed, ac aeth e mas i Irac er bod o bobl wedi ei rybuddio i beido rhag ofn y byddai'r union beth hyn yn digwydd. Ac eto bois ifanc sydd yn gorfod rhoi'u bywydau nhw mewn peryg i'w achub e. Oedd ganddo fe rhyw fath o invincibility complex, neu rywbeth?
Ac, os wy'n deall pethau'n iawn, wnaeth e ddim dangos diolchgarwch i'r milwyr ar ol cael ei achub. Y stori ar wefan y BBC cyn iddo lanio yn Heathrow oedd bod Mike Jackson, pennaeth y fyddin, yn siomedig ei fod Kember heb ddiolch i'w filwyr am ei achub. Yr unig ddiolch glywais i ganddo oedd hwnnw yn y gynhadledd i'r wasg, ac roedd y diolch hwnnw'n swnio'n anniddig.
Mae'r ffordd mae rhai o'r cyfryngau'n ei bortreadu fel rhyw fath o ferthyr neu arwr yn mynd reit ar fy nerfau. Ar radio Red Dragon (stori arall yw pam oeddwn i mor dwp a grando - car rhywun arall, onest) oedd rhyw dj yn dweud nad oedd Kember fel rhyw beiriannydd allan yn Irac i wneud arian. Ffwl. Dyw hi ddim yn ddu a gwyn. Mae'n siwr bod y mwyafrif o beiriannwyr allan yn Irac er mwyn gwella'r sefyllfa yn y wlad; mae'n sicr bod yna ffyrdd llai peryglus o wneud arian os ych chi'n beiriannydd.
Dwn i ddim, ond rwy'n credu bod peiriannydd sy'n gwella rhwydwaith drydan Irac (er enghraifft) yn gwneud mwy o les na rhyw hen stejar yn anwybyddu cyngor pawb ac yn achosi pob math o drafferth i bobl (sydd a digon o waith i'w wneud fel y mae) pan mae'n cael ei hun i drafferth.
Kids they are, mun!