Norman Kember wedi'i ryddhau

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 28 Maw 2006 1:44 pm

paid a rwdlan, toes na'm ffasiwn beth
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 28 Maw 2006 1:47 pm

Blincin ec! Ma'r lle 'ma'n llawn Toris!! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan HBK25 » Maw 28 Maw 2006 2:06 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Blincin ec! Ma'r lle 'ma'n llawn Toris!! :ofn:


Dwi'n geidwadol weithiau, efalla, ond dwi byth yn geidwadwr :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan unllygeidiog » Maw 28 Maw 2006 3:01 pm

Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:sori, ond ma geni barch at y boi. ella nath o'm mor peth calla ny byd ond sa'n llywodraeth ni ddim di penderfynu mynd i Irac sam angan pobl fatha fo i fynd yno wan nafsa.


Pam?
Kids they are, mun!
unllygeidiog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Llun 27 Chw 2006 8:43 pm

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Maw 28 Maw 2006 3:53 pm

HBK25 a ddywedodd:
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:sori, ond ma geni barch at y boi. ella nath o'm mor peth calla ny byd ond sa'n llywodraeth ni ddim di penderfynu mynd i Irac sam angan pobl fatha fo i fynd yno wan nafsa.


Na, achos roedd Iraq o dan rym Saddam Hussein yn le braf, heddychlon hefo cwningod pinc del, 'doedd? :winc:
nesi'm deud i fod o dwi jysd ddim yn meddwl mai drwy ddulliau ryfel dylai sotrio dim byd allan yn y byd ma.
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Maw 28 Maw 2006 3:55 pm

unllygeidiog a ddywedodd:
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:sori, ond ma geni barch at y boi. ella nath o'm mor peth calla ny byd ond sa'n llywodraeth ni ddim di penderfynu mynd i Irac sam angan pobl fatha fo i fynd yno wan nafsa.


Pam?
ok, efallai fod hynny'n beth braidd yn naif i'w ddeud, ond onid achos y rhyfel aeth o yno?!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Maw 28 Maw 2006 3:57 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
frawdgarwch a'i gariad at ei gyd-ddyn mor an-hunanol ac anferthol


mae ei dwpdra yn anferthol hefyd. Llythyr da yn y times heddiw - roedd o'n meddwl ei fod yn mynd yno fel ceidwad heddwch, ond roedd o'n gwrthod mynd i ardaloedd "gwyrdd" america a phrydain - tanseilio cadw'r heddwch ydi cymud ochrau. Y boi wedi cymysgu pacifism a peacekeeping medda'r llythyr.
ella mai yn yr ardlaoledd sydd ddim yn "wyrdd" sydd angen i bobl fynd os mai dyna'r di'r ardaleodd mwya trafferthus?!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Dan Dean » Mer 29 Maw 2006 10:09 am

Pethau dwl yn cael ei ddweud yn fama.

Yn gynta, nid oedd Kember yn mynd yno fel "ceidwad heddwch", roedd o yno dros y Christian Peacemaker Teams. Roedd na reswm penodol pam fod y grwp yno.

In May 2003, Iraqis began asking CPT for help in locating missing relatives. Some Iraqis reported that their loved ones vanished during the war; others reported that family members detained at checkpoints or during house raids by US soldiers had disappeared. Families had no way of locating their relatives and found that the US military dismissed their inquiries. CPTers worked to secure information for families, and accompanied family members on visits to detention centres. As the occupation continued, CPTers noticed an increase in the number of detainees and that few were being released. These actions of the U.S. military--specifically detaining people without formal charges, and for indefinite periods of time--are a violation of international law. CPTers in Iraq demonstrated alongside Iraqis, calling for human rights of detainees, while supporters at home lobbied their governments.


Dewr yw Kember i helpu'r Iraciaid yma yn fy marn i, nid "perygl i'r hogia ifanc" neu "ffwl" ydio.

Tegwared ap Seion a ddywedodd:snam angen pobol fatha fo i fynd yna o gwbwl

Oes, gweler yr uchod.

Tegwared ap Seion a ddywedodd:roedd o'n meddwl ei fod yn mynd yno fel ceidwad heddwch, ond roedd o'n gwrthod mynd i ardaloedd "gwyrdd" america a phrydain

A be sa'r pwynt o wneud hynnu? Sa fo ddim yn cael croeso yno o gwbl.

unllygeidiog a ddywedodd:Dwn i ddim, ond rwy'n credu bod peiriannydd sy'n gwella rhwydwaith drydan Irac (er enghraifft) yn gwneud mwy o les na rhyw hen stejar yn anwybyddu cyngor pawb ac yn achosi pob math o drafferth i bobl (sydd a digon o waith i'w wneud fel y mae) pan mae'n cael ei hun i drafferth.

Ia, yno i achosi trafferth oedd o, nid helpu pobol. Be sa chdi'n ddeud sa peiriannydd yn gorfod cael ei achub can y bois ifanc ma? "Achosi" trafferth sa hwnnw hefyd?

unllygeidiog a ddywedodd:Ac eto bois ifanc sydd yn gorfod rhoi'u bywydau nhw mewn peryg i'w achub e.

1. Y bois ifanc ma a'u rheolwyr sydd di achosi'r holl lanast yno yn y lle cynta.
2. Fatha bod y bois ifanc ddim mewn perygl yno fel arall.

unllygeidiog a ddywedodd:Oedd ganddo fe rhyw fath o invincibility complex, neu rywbeth?

[ochenaid]Oedd.[/ochenaid]

Na, achos roedd Iraq o dan rym Saddam Hussein yn le braf, heddychlon hefo cwningod pinc del, 'doedd?

Nagoedd, ond sa nifer yn meddwl oedd o i gymharu a heddiw.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan unllygeidiog » Mer 29 Maw 2006 12:34 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Ia, yno i achosi trafferth oedd o, nid helpu pobol. Be sa chdi'n ddeud sa peiriannydd yn gorfod cael ei achub can y bois ifanc ma? "Achosi" trafferth sa hwnnw hefyd?


1. Y bois ifanc ma a'u rheolwyr sydd di achosi'r holl lanast yno yn y lle cynta.
2. Fatha bod y bois ifanc ddim mewn perygl yno fel arall.




Dwy ddim yn siwr os wy'n deall. Wyt ti'n meddwl mai'r milwyr eu hunain a'u rheolwyr sy'n gyfrifol am y sefyllfa yn Irac? A nid, ddwedwn ni, gwleidyddion Prydain ac America? Na chwaith, hyd yn oed, Saddam Hussein?
Ydy'r ffaith bod y bois mewn peryg yn y man cynta yn meddwl ein bod ni yn gallu diystyrru unrhyw beryg ychwanegol maent yn ei wynebu? 'Wel, mae'r bois mewn peryg beth bynnag, felly pa ots rhyw beryg ecstra?' Cywira fi os wy'n anghywir; dwy ddim am gamddehongli dy bwynt.

Dadl arall ydy pwy sy'n gyfrifol am y sefyllfa yn Irac. Y pwynt rwy'n ei gynnig yw y dylid gosod y peryg/trafferth o orfod achub rhywun, yn erbyn y lles uniongyrchol mae'r person hwnnw'n ei wneud i'r sefyllfa yn y wlad. Os yw rhywun am ddisgrifio peiriannydd sy'n gorfod cael ei achub fel person sy'n achosi trafferth, yna rwy'n credu dylid ystyried hefyd y lles o wella sefyllfa gwlad lle mae nifer o bobl - y tlawd yn ogystal a phobl proffesiynol - dim ond yn derbyn awr o drydan i'w tai bob dydd (er enghraifft).
Gosoder hyn yn erbyn dyn sydd - dim ots pa mor nobl yw ei amcanion- yn gweithio i grwp sy'n disgrifio'i waith fel "truth telling" (http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/4484338.stm)
yn erbyn y drafferth a achoswyd wrth ei achub.

Wrth gwrs mae'n iawn bod pob ymdrech wedi ei wneud i'w achub, ac rwy'n falch ei fod e nol yn saff. Y cwestiwn dyle fe (a phawb arall sy'n mynd ar gyfyl Irac, am ba reswm bynnag) ofyn yw a ydy y lles roedd ei achos ef yn bwriadu ei gyflawni yn fwy neu yn llai na'r ymdrech fyddai angen er mwyn ei achub pe fuasai'n cael ei herwgipio.
Yn fy marn i: Y Phantom Peiriannydd - ydy; Kember - nac ydy.
Kids they are, mun!
unllygeidiog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Llun 27 Chw 2006 8:43 pm

Postiogan Dan Dean » Iau 30 Maw 2006 9:34 am

unllygeidiog a ddywedodd:
Dwy ddim yn siwr os wy'n deall. Wyt ti'n meddwl mai'r milwyr eu hunain a'u rheolwyr sy'n gyfrifol am y sefyllfa yn Irac? A nid, ddwedwn ni, gwleidyddion Prydain ac America? Na chwaith, hyd yn oed, Saddam Hussein?
Ydy'r ffaith bod y bois mewn peryg yn y man cynta yn meddwl ein bod ni yn gallu diystyrru unrhyw beryg ychwanegol maent yn ei wynebu? 'Wel, mae'r bois mewn peryg beth bynnag, felly pa ots rhyw beryg ecstra?' Cywira fi os wy'n anghywir; dwy ddim am gamddehongli dy bwynt.

Y coalishwn sydd yn gyfrifol am y sefyllfa bresennol yn Irac, hynnu'n cynnwys y gwleidyddion a'r fyddin. Ni chafodd Kember ei herwgipio am rhywbeth oedd o di wneud. Roedd o fodlon cymeryd y risg er mwyn trio helpu Iraciaid cyffredin, ond yn anffodus roedd o yn y lle rong yn yr amser rong.


unllygeidiog a ddywedodd:Gosoder hyn yn erbyn dyn sydd - dim ots pa mor nobl yw ei amcanion- yn gweithio i grwp sy'n disgrifio'i waith fel "truth telling" (http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/4484338.stm)
yn erbyn y drafferth a achoswyd wrth ei achub.


Ia, mae'n disgrifio fel "truth telling". Ac? Beth sydd yn bod ar hynnu, a beth sydd gan hynnu iw wneud efo pa mor nobl yw'r amcanion?

Darllen ymhellach ar y wefan:
In Iraq, the group's work has focused on the issue of Iraqi detainees held by US forces. This has involved taking testimonies from families of detainees and former detainees alleging human rights abuses.

Gan bod neb or coalishwn yn fodlon helpu y carcharorion au teuluoedd, yna dwin meddwl bod hi'n bwysig eu bod yn cael cymorth gan grwp Kember. Mae'r grwp yma yn gwybod am y risg o'r herwgipwyr ond yn fodlon helpu Iraciaid cyffredin, yr un ffordd mae'r peiranydd trydan yn gwybod am y risg ond yn fodlon helpu nhw.

unllygeidiog a ddywedodd:Y cwestiwn dyle fe (a phawb arall sy'n mynd ar gyfyl Irac, am ba reswm bynnag) ofyn yw a ydy y lles roedd ei achos ef yn bwriadu ei gyflawni yn fwy neu yn llai na'r ymdrech fyddai angen er mwyn ei achub pe fuasai'n cael ei herwgipio.

Cwestiwn i'r fyddin dylsa hwnna i fod.

Y cwestiwn dylai fo (a phawb arall sy'n mynd ar gyfyl Irac, am ba reswm bynnag) ofyn yw a ydi o werth cymeryd y risg o helpu Iraciaid cyffredin. I nifer o bobol mae o, a mae angen diolch iddynt am fod yn ddewr a gwneud yr ymdrech i helpu nhw. Nid ydynt yn ffyliaid achos maent yn gwybod yn iawn beth yw'r sefyllfa.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron