Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:53 pm
gan Garnet Bowen
Dan Dean a ddywedodd:
Na, achos roedd Iraq o dan rym Saddam Hussein yn le braf, heddychlon hefo cwningod pinc del, 'doedd?

Nagoedd, ond sa nifer yn meddwl oedd o i gymharu a heddiw.


Nifer o bobl un-llygeidiog, di-ddallt, sy'n gwbod ffyc ol am Irac, ella.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 1:51 pm
gan Owain Llwyd
Garnet Bowen a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:
Na, achos roedd Iraq o dan rym Saddam Hussein yn le braf, heddychlon hefo cwningod pinc del, 'doedd?

Nagoedd, ond sa nifer yn meddwl oedd o i gymharu a heddiw.


Nifer o bobl un-llygeidiog, di-ddallt, sy'n gwbod ffyc ol am Irac, ella.


Meddai'r arbenigwr ei hun.

A dyma ddiolch iddo fo am weld yn dda i wneud cyfraniad adeiladol a phwysig i'r drafodaeth. Da iawn, wir.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:37 pm
gan Tegwared ap Seion
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Blincin ec! Ma'r lle 'ma'n llawn Toris!! :ofn:


A phenna' rwdis. Crinc.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:52 pm
gan Dewi- Wir Frenin Cymru
(sa dal di gallu deud diolch bysa)

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 4:25 pm
gan Sioni Size
HBK25 a ddywedodd:
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:sori, ond ma geni barch at y boi. ella nath o'm mor peth calla ny byd ond sa'n llywodraeth ni ddim di penderfynu mynd i Irac sam angan pobl fatha fo i fynd yno wan nafsa. [/size]


Na, achos roedd Iraq o dan rym Saddam Hussein yn le braf, heddychlon hefo cwningod pinc del, 'doedd? :winc:

Mae dy frawddeg yn un treiddgar, HBK25. Dweud mwy wrthym am yr Irac oedd dan Saddam Hussein? Sut safon byw oedd yno? Sut oedden nhw'n trin eu merched? Sut ysgolion oedd yn bodoli cyn y sancsiynau? Be oedd effaith y sancsiynau ar Irac?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 10:42 pm
gan Coedan Fala
Dwi jest ddim yn gallu credu y boi kember yma! Mae o yn amlwg off ei ben yn llwyr. Pa wahanaieth ma dyn o'i oed a'i amser yn mynd i neud yn Irac! Mae o wedi rhoi bywydau y soldiwrs yna mewn mwy o beryg wrth iddynt ymdrechu i achub i'w fywyd.

Ma gen i ffrind ysgol allan na ar y funud ac o'r ebost dderbyniais ganddo rhyw wythnos yn ol mae nifer helaeth o'r soldiwrs yn wallgof efo fo!

Peidiwch cymryd fi'n rong dwi'n falch i fod o'n fyw ac yn iach ond dwi jest yn meddwl i fod o'n ddiawl gwirion! :P

PostioPostiwyd: Llun 03 Ebr 2006 7:51 am
gan Dewi Lodge
Coedan Fala a ddywedodd:Ma gen i ffrind ysgol allan na ar y funud ac o'r ebost dderbyniais ganddo rhyw wythnos yn ol mae nifer helaeth o'r soldiwrs yn wallgof efo fo!


Be? Felly, tydyn nhw ddim yn wallgo efo Blair a Bush am ei gyrru nhw allan i ganol y fath lanast yn y lle cynta??

PostioPostiwyd: Llun 03 Ebr 2006 8:02 am
gan Tegwared ap Seion
Fedri di'm cymharu'r ddau beth: ar un llaw maent wedi cael gorchymun gan bobl "uwch eu pennau" i fynd i Irac - ella bod rhai ohonynt ddim isio, ond tyff. Dilyn gorchmynion y bos ydi beth maent yn gael ei dalu i'w wneud. Ar y llaw arall mae jeriatric yn meddwl fod o'n hiro yn mynd draw 'na, cael ei herwgipio, gorfod cael ei achub gan y fyddin - ag ydi o wedi diolch iddynt? (wn i ddim).

PostioPostiwyd: Llun 03 Ebr 2006 9:27 am
gan Owain Llwyd
Tegwared ap Seion a ddywedodd:... ag ydi o wedi diolch iddynt? (wn i ddim).


Yndi, mae.

PostioPostiwyd: Llun 03 Ebr 2006 10:03 am
gan Tegwared ap Seion
Diolch