Tudalen 1 o 1

Rhyfel yn Irac...rhyfel byd cyntaf

PostioPostiwyd: Iau 06 Ebr 2006 2:17 pm
gan Huw Psych
Falla fod hwn wedi ei drafod o'r blaen, yn sicr mae'r rhyfel yn Irac wedi ei drafod, ond dyna fo! :rolio:

Mi welis i raglen ar David Lloyd George ar S4C nos Sul (dwi'n meddwl), ac yn y rhaglen fe ddaeth chydig o hanes y rhyfel byd cyntaf yn Irac. Doeddwn i ddim tan hynny wedi sylweddoli fod Prydain wedi bod yng ngofal o'r wlad honno, a'u bod nhw (yn eu doethineb), wedi penodi arweinydd Suhni ar y wlad. O be yr ydw i wedi ei ddallt o'r rhyfel diweddara, mae anghydfod wedi bod rhwng y Suhni a'r grwp arall ( :wps: dwim yn cofio p'run!). Pan benodwyd yr arweinydd Suhni gan Prydain, ar y pryd, roedd y garfan Suhni mewn lleafrif mawr iawn a fod y grwp arall wedi bod o dan orthrwm y Suhni ers hynny, h.y. hyd nes rwan ar ol i Saddam gael ei dynnu oddi yno.

Oes bai ar lywodraeth Prydain ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf am y trafferthion yn Irac dros y ganrif, neu a'u eu problema nhw eu hunain ydy hyn? Neu mewn ffordd arall...aeth Prydiain i Irac y tro yma i sortio'r llanast ar ol tro dywtha?! :winc:

Be ma hyn yn ddagnos i fi ydi fod rhyfel yn gallu arwain at ryfel. Dyna pam ei od yn bwysig sefyldu democratiaeth yna y tro yma, fel na fydd rhaid mynd i ryfel eto mewn canrif!

Re: Rhyfel yn Irac...rhyfel byd cyntaf

PostioPostiwyd: Iau 06 Ebr 2006 2:22 pm
gan Reufeistr
Huw Psych a ddywedodd:Be ma hyn yn ddagnos i fi ydi fod rhyfel yn gallu arwain at ryfel. Dyna pam ei bod yn bwysig sefyldu democratiaeth yna y tro yma, fel na fydd rhaid mynd i ryfel eto mewn canrif!


Paid a fod mor na

Re: Rhyfel yn Irac...rhyfel byd cyntaf

PostioPostiwyd: Iau 06 Ebr 2006 4:37 pm
gan Dewi Lodge
Huw Psych a ddywedodd:Oes bai ar lywodraeth Prydain ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf am y trafferthion yn Irac dros y ganrif, neu a'u eu problema nhw eu hunain ydy hyn? Neu mewn ffordd arall...aeth Prydiain i Irac y tro yma i sortio'r llanast ar ol tro dywtha?! :winc:


Oes, ia a do! :?

Mae 'na fai i raddau ar Brydain, Ffrainc a'r UDA am y llanast yn y Dwyrain Canol (nid yn unig Irac) yn deillio o'r ffordd y datgymalwyd Ymerodraeth y Twrciaid yn 1920. Dwi di s