Tudalen 1 o 1

Gwlad Pwyl yn Nghymru .

PostioPostiwyd: Maw 20 Meh 2006 5:58 pm
gan caws_llyffant
Fel arfer , dwi'n amsicr iawn , ond dwi wedi clywed bod na hen gymdeithas Polish yn y gogledd Cymru . Ddaru nhw aros ar ôl y rhyfel , a mae nhw'n byw gyda'i gilydd mewn ryw pentref air-hut .

Pwy sy'n gwybod am hwn ?

PostioPostiwyd: Maw 20 Meh 2006 6:10 pm
gan Ari Brenin Cymru
Ma na Polish Camp yn Penrhos ger Pwllheli os mai dyma wyt yn cyfeirio ato?

PostioPostiwyd: Maw 20 Meh 2006 6:15 pm
gan Dewi Lodge
Dwi'n credu mai cyfeirio at Gartref y Pwyliaid ym Mhenrhos ger Pwllheli rwyt ti.

Croeso i rywun fy nghywiro ond dwi'n meddwl fe'i sefydlwyd ar ddiwedd yr ail ryfel byd fel cartref i ffoaduriaid o'r rhyfel ag i'r milwyr Pwylaidd a gwffiodd efo lluoedd Prydain. Safle'r cartre yw hen gamp yr RAF (sef y cytiau wti'n cyfeirio atynt). Y camp yma, Penyberth, oedd lleoliad yr ysgol fomio lle weithredodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a D J Williams yn 1936.

Gwelerhttp://www.phsltd.org

PostioPostiwyd: Mer 21 Meh 2006 10:16 am
gan caws_llyffant
Diddorol DROS BEN . Diolch yn fawr iawn , Dewi Lodge .

PostioPostiwyd: Mer 21 Meh 2006 3:20 pm
gan S.W.
Mae na ysbyty Pwyleg sy'n cael ei ariannu gan yr NHS yn Llannerch Bana (Penli) tu allan i Wrecsam. Cafodd o'i agor ar ol yr Ail Ryfel Byd gan Winston Churchill fel diolch i'r milwyr Pwyleg wnaeth ymladd gyda'r Cynghreiriaid yn erbyn Natsiaieth. Mae cyn filwyr a'u plant yn gallu derbyn triniaeth yno. Unwaith bydd y cenhedlaeth yno yn mynd bydd yr ysbyty yn dod yn ysbyty cymunedol.

Mae 'na boblogaeth sefydlog Pwyleg wedi bod yn Wrecsam ers canrif a mwy. Nhw oedd yn rannol gyfrifol am ddatblygu'r diwydiant bragu lager oedd yn ran allweddol o'r dre tan yn ddiweddar iawn. Mae na siopau Pwyleg yn Wrecsam sydd a arwyddion dwyieithog - Cymraeg a Pwyleg!

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 2:25 pm
gan Dili Minllyn
Ymsefydlodd nifer o Bwyliaid yn ardal Llanbedr Pont Steffan ar ddiwedd y Rhyfel, ac mae eglwys Gatholig yno s'n cynnal yr offeren unwaith y mis yn Bwyleg. Roedd achos llofruddiaeth nodedig iawn yn y gymuned yn yn 1950au.

Mae gyda ni Polski Skelp (siop Bwylaidd) yng Nghaerdydd erbyn hyn hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 4:10 pm
gan Geraint
Dili Minllyn a ddywedodd:Roedd achos llofruddiaeth nodedig iawn yn y gymuned yn yn 1950au.



Ti'n son am yr un lle oedd dau ffarmwr Pwyleg yn byw ar ffarm, ac llofruddiodd un o nhw y llall? O nhw erioed di ffindio'r corff, ac yn amau ei fod wedi bwydo fo i'r moch. Ffarm ar yr arfordir dwi'n credu. Fy hoff stori o Dihirod Dyfed.

Dipyn o Bwyliad wedi symud i'r Gogledd Orllewin yn ddiweddar. Gweithio yn lladd-dy Gaerwen - ie?

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 4:16 pm
gan Lletwad Manaw
Mewn fferm ger Cwmdu - Sir Gar odd y llofriddiaeth

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 4:18 pm
gan Macsen
Geraint a ddywedodd:Ti'n son am yr un lle oedd dau ffarmwr Pwyleg yn byw ar ffarm, ac llofruddiodd un o nhw y llall? O nhw erioed di ffindio'r corff, ac yn amau ei fod wedi bwydo fo i'r moch. Ffarm ar yr arfordir dwi'n credu. Fy hoff stori o Dihirod Dyfed.

Mae ei hen wyr wedi dod draw i Gymru i geisio datrys y pos. Roedd y stori yn Golwg ychydig wythnosau yn ol, wedi ei sgwennu gan ryw newyddiadurwr golygus?