Tudalen 1 o 1

Amddiffynfa yn erbyn yr Americanwyr .

PostioPostiwyd: Mer 21 Meh 2006 10:30 am
gan caws_llyffant
Dyma fi unwaith eto ..... yn amsicr unwaith eto .....

Dwi wedi clywed bod na amddiffynfa yn erbyn yr Americanwyr ar lan y môr rwla yn y gogledd Cymru . Dyn yn poeni am oresgyniad o America ar ôl y American War of Independence .

( roedd o'n iawn wrth gwrs )

Pwy sy'n gwybod mwy am hwn , os gwelwch chi'n dda ?

Re: Amddiffynfa yn erbyn yr Americanwyr .

PostioPostiwyd: Mer 26 Gor 2006 11:08 am
gan Dewi Lodge
caws_llyffant a ddywedodd:Dwi wedi clywed bod na amddiffynfa yn erbyn yr Americanwyr ar lan y môr rwla yn y gogledd Cymru . Dyn yn poeni am oresgyniad o America ar ôl y American War of Independence . Pwy sy'n gwybod mwy am hwn , os gwelwch chi'n dda ?


Dwi'n credu dy fod yn cyfeirio at Fort Belan, Dinas Dinlle ger Caernarfon. Adeiladwyd y lle yn 1775-76 gan Thomas Wynn, Arglwydd Newborough, Glynllifon. Mae'r amddifynfa'n eistedd wrth geg orllewinol y Fenai.

Gwelerhttp://www.fortbelan.co.uk

Gwefan uniaith Saesneg hyd y gwela i!! :(

PostioPostiwyd: Mer 26 Gor 2006 11:32 am
gan Geraint
Diddorol, erioed di clwyed am y lle yma. Dwi di cerdded ar hyd twyni Dinas Dinlle, ond heb gerdded reit i'r pen, gan feddwl nad fyddai llawer i weld yno!