Ffrwydiad yn HQ yr UN, Baghdad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffrwydiad yn HQ yr UN, Baghdad

Postiogan Macsen » Maw 19 Awst 2003 8:18 pm

Guardian a ddywedodd:The UN secretary general, Kofi Annan, said he was shocked by the bombing and hoped those responsible for the attack would quickly be brought to justice.


Mae Kofi Annan yn swnio'n oeraidd o debyg i Mr. Bush yn fan 'ma. A fydd marwolaeth ei ffrind da Sergio Vieira de Mello yn sbardun iddo lywio'r UN tuag at helpu yr US yn Baghdad, ta'n arwain at yr UN yn beio'r US am greu casineb o fewn Iraq?

Mi fydd Kofi Annan cadw'i ben, beth bynnag. BOOM BOOM! :wps:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Maw 19 Awst 2003 9:04 pm

Targedu'r CU ychydig yn od, achos wedi'r cyfan, mi wnaethon nhw drio rhwystro'r rhyfel rhag digwydd. Efallai mai protest nad ydyn nhw wedi gwneud digon ydi o.

yn fwy tebygol, mae'r terfysgwyr jyst yn ymdrechu i greu effaith gwleidyddol, dim ots pwy sy'n dioddef fel canlyniad.

Datganiad Annan ddim yn golygu lot yn y bon. Dyna'r cyfan buasai wedi gallu'i ddweud.

ond cyn belled bod gobaith y terfysgwyr o leihau yr anghyfiawnder mae Mwslemiaid yn ei ddioddef wrth law'r gorllewin yn y cwestiwn, mae hwn braidd yn "counter-productive", ys dywed y Sais.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 19 Awst 2003 9:53 pm

Nac yw. Mae'r UN (fel y mae wedi ei chyfansoddi), hyd yn oed gyda Ffrainc yn ceisio atal y rhyfel yn declyn i gadw'r status quo. Mae yno, fel y World Bank i sicrhau fod y gwledydd cyfoethog grymys yn aros yn gyfoethog a grymus a fod gwledydd eraill y byd yn cydfynd unai a fersiwn America a Phrydain o ddemocratiaeth - hy cyfalafiaeth neu (a lot llai aml nawr) Fersiwn China neu'r hen rwsia o economi wedi ei gynllunio.

Mae pobl y gwledydd tlotaf a mwyaf gormesedig yn gweld hwn yn fwy amlwg na ni yn y Gorllewin gan fod ein newyddion yn skewed a fod nhw yn cael mwy o'u gwybodaeth o fywyd go iawn nac o'r cyfryngau.

Yr CU oedd yn gyfrifol am y sancsiynnau a laddodd miliynau o blant Irac. Fydd yn darged teilwng yn llygaid llawer o bobl Irac yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Dylan » Maw 19 Awst 2003 10:17 pm

Hmm, pwynt teg dros ben.

Cytuno yn llawn ynglyn a'r sancsiynnau.

Wedi dweud hynny fyddwn i ddim yn cytuno mai unig bwrpas y CU ydi i fodloni anghenion gwledydd fel America. Mae'r ffaith bod yr UDA wedi bod mor oeraidd tuag ato yn ddiweddar ac eu bod wedi ei fychanu yn gyhoeddus yn awgrymu nad ydynt yn cydfynd bellach. Buasai'r UDA lot hapusach petai'r CU yn dod i ben yfory. I ddweud y gwir 'dw i'n credu bod hynny'n reswm ddigon dros ei gefnogi.

Mae llawer o le i wella, yn amlwg. Yn wir, buaswn i'n tybio bod yr anghyfiawnder a phroblemau y trydydd byd yn mynd yn waeth, nid gwell, ar y funud.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Mer 20 Awst 2003 3:06 pm

Rydym ni'n rhyfedd o barod i gredu bod yr UN yn dda, gyda halo bach yn frisbio rownd pen Kofi Annan. Dwi'n credu fod rhyfel Iraq wedi llunio darlun da iawn ohonynt, fel grwp na gymain crap America. Ond dwi'n siwr fod digon o sgerbydau yn y cwpwrdd. :gwyrdd:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Mer 20 Awst 2003 4:05 pm

Diwedd y gan yw'r geiniog.

Roedd Ffrainc, China a Rwsia yn erbyn y rhyfel yn Iraq nid gan eu bod nhw yn wledydd caredig a heddychlon (sbia y ffordd mae y Rwsians a'r Chinese yn trin pobl Chechnya a Tibet) ond gan fod ganddynt gontracts mawr mewn oel ac arfau hefo Saddam Hussein.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Mer 20 Awst 2003 9:09 pm

Hmmm, RET79, mae'n swnio fel bod dy wybodaeth ar gontracts Ffrainc a Rwsia wedi dol o'n ffrindiau gwladgarol yn FOX news.

Ond fallai mai FOX oedd yn dweud y gwir yr holl amser?! :ofn: Mi fysai hynny'n fwy o twist na'r Sixth Sense.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Iau 21 Awst 2003 1:33 am

Na, ar y cyfan 'dw i'n cytuno ag o. 'Dw i'n meddwl bod rhesymau Rwsia a Ffrainc am wrthwynebu'r rhyfel yn eitha doji. Wel, ella ddim dyna ydi'r gair. Ond be' bynnag, mae bron yn sicr bod ganddyn nhw gytundebau fyddai'n well ganddyn nhw fod wedi'u cadw. 'Roedd hefyd yn ffordd eitha' handi o ennill cefnogaeth eu pobol (Ffrainc yn enwedig - Chiraq yn arwr bron erbyn hyn er ei fod o'n un o'r gwleidyddion mwya' corpyt yn Ewrop)

Ond ta waeth am hynny. Be' bynnag eu rhesymau, 'dw i'n falch iawn eu bod nhw wedi gwneud be wnaethon nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Maw 28 Hyd 2003 9:18 pm

Ymosodiad ar adeiladau'r Red Cross rwan, o bob man. Gwbl gwbl wallgof.

Mae'r idiots yma jyst isio'r 'estronwyr' yma allan o'u gwlad, a maent yn amlwg yn fodlon gwneud unrhywbeth i sicrhau hynny. Hyd yn oed lladd aelodau o fudiadau cymorth. Hmm.

Mae'n gwneud synnwyr cyn belled bod eu 'strategaeth' nhw (os gellid ei alw'n hynny) yn y cwestiwn, ond yr oll mae yn ei wneud yn y pen draw ydi gwneud pethau'n waeth. Rhwystredig iawn. Ffyliaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron