Cwlcymro a ddywedodd:Felly ti'n trio deud du fod di'n hapus ac yn falch o fomiau Palestine ar bobl ddiniwed yn Israel?
Dwi'n flin ar Bush am gefnogi israel 100% hefyd. A dwi'n 'disgusted' gan betha mae ei byddin nhw yn ei wneud pob dydd. Dwi'n meddwl fod y wal 'rownd' y Gaza Strip yn afiach, yn anghyfreithlon ac yn anfaddeuadwy.
Ond mi fedrai ddweud yr un peth am fomiau hunanladdiad Palestine hefyd.
Swn i'n licio ochri gyda Palestine, gan fod geni atgasedd llwyr at lywodraeth a byddin Israel. Ond pan ma nhw'n gwneud petha felma o hyd, allai ddim madda na'u cefnogi nhw chwaith.
Clywch, clywch. Mae'n dda gen i bo fi'n medru cyntuno efo chdi, tro yma.
Dwi wedi cael llond bol ar bobl sy'n mynnu eu bod nhw'n cefnogi heddwch, ond yn gwrthod condemnio'r Palesteiniaid sy'n lladd pobl ddiniwed. Mi ydw i wedi rhoi'r gorau i fynd i gyfarfodydd fy grwp heddwch lleol i oherwydd hyn. Mi fues i weld academydd o America yn siarad ar y pwnc, ac phan wrthododd o gondemnio'r
suicide bombers, mi wnaeth na nifer fawr o'r gynulleidfa glapio.
Wrth gwrs fod Israel yn ymddwyn mewn ffordd cwbwl anghyfiawn, ond nid dyma'r ffordd i ymateb. Mae lladd pobl ddiniwed yn atgas, beth bynnag fo'r resymeg tu ol i wneud hynnu.