Huw T a ddywedodd:Ar y foment fi'n darllen The seven pillars of wisdom gan TE Lawrence (Lawrence of Arabia), sy'n croniclo hanes y dwyrain canol yn WW1, ynghyd a rhoi insight Lawrence ar feddylfryd a sefyllfa'r Arabiaid.
Mae'n rhaid fi ddweud fod da fi lot fawr o gydymdeimlad tuag ati nhw bellach, oherwydd y ffordd ma nhw wedi cael ei manipulato gan Brydain, Ffrainc, UDA a'r Iddewon. Mewn gwirionedd, ni ddyle gwledydd fel Saudi, Iraq, Syria a Lebannon fodoli, jyst un wlad Arabaidd fawr, ac efallai, petai hynny'n dod i fodolaeth byddai'n haws i'r Israeliaid gydfyw gyda'i brodyr Arabaidd (brodyr ymhob dim ond crefydd).
Sori. Off topic braidd, but hey!
Mae nifer o drafferthion y byd yn tarddu o gyfnodau ymerodraethol Prydain, Sbaen, Portiwgal, Belg, Ffrainc ac eraill.
Edrych ar Irac. Yn y newyddion mae nhw wastad yn cyfeirio at 'Ogledd Irac' lle mewn gwirionedd 'De Cwrdistan' yw e. Mae yna dair gwlad, oleia, gwahanol o fewn ffiniau Irac, yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Mae trafferthion dychryn Rwanda a'r Congo oll yn deillio o gyfnod ymerodraeth Ffrainc a Belg yno ayb. Pe edrych rhywun ar fap o Affrica a'r dwyrain canol fe welwch fod llu o'r gwledydd gyda ffiniau hollol syth - biwrocratiaid Fictoria ac eraill yn defynddio rwler a thynnu llinell ar fap i rannu ardaloedd rhwng ymerodraethau hen ystyried dim am genhedloedd yr ardaloedd hynny.
Mae trafferthion Palesteina ac Israel, er yn rhannol fai ar ymerodraeth Prydain, hefyd yn mynd nol i gyfnod yr Hen Destament (un enghraifft syml - y Samariad Trigarog)!!! ('Na beth yw 'grudge hir
).