Palesteina

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Owain Llwyd » Iau 16 Hyd 2003 11:50 am

Cardi Bach a ddywedodd:Wel y blydi hel, ma rhai Palesteiniad wedi dechre ymosod ar ddiplomyddion America nawr! (http://www.guardian.co.uk/israel/Story/0,2763,1063942,00.html)

Na'r peth dwetha o'n nhw ishe neud! Hwn yw'r esgus sydd angen ar America i gefnogi Sharon a'i regime gant y cant yn ei ymdrech i ddinistrio Palesteina, ac arfogi Israel hyd yn oed ymhellach!

Damo Damo Damo Damo Damo Damo Damo

Bols! :drwg:


Neu Mossad. :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Dylan » Iau 16 Hyd 2003 12:58 pm

Mae'r naill ochor cyn weithed â'r llall. 'Dw i'n colli mynedd yn llwyr efo'r ffyliaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Sad 18 Hyd 2003 4:06 pm

son am 'escelating the situation'!!

Fel oedd America yn dechra mynd yn sdyc am ffyrdd i amddiffyn Israel, ma'r twrrorists sdiwpid yn rhoi dadl iddy nhw!!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Mer 12 Tach 2003 12:07 pm

Dylan a ddywedodd:Mae'r naill ochor cyn weithed â'r llall. 'Dw i'n colli mynedd yn llwyr efo'r ffyliaid.



NA NA NA NA NA!

Y rhai sy'n creu'r gormes sydd wastad ar fai. Mae'r gormes yn bodoli waeth beth yw lefel yr ymateb.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Mer 12 Tach 2003 12:16 pm

Sioni, ma na lot o ormes gan Israel oes, ond allai ddim rhoi'r bai i gyd arny nhw.
Ma'r ddwy ochr mor bengalad ma nhw'n gwrthod rhoi modfadd.

Ma na ddigon o hanas lle ma Israel wedi gwthio gymaint ar Balestine fel y bysa unrhywun yn mynnu dial. A fel arfar ar ochr Palestinia y disgyna i.
Ond ma na hefyd ddigon o hanas lle ma Palestinia wedi torri heddwch, wedi ymosod ar dargedau gwirion, a wedi defnyddio tacticts erchryllus.

Alla i ddim cefnogi yr un ochr, ma'r ddwy mor wirion, a mor afiach a'i gilydd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Maw 18 Tach 2003 2:40 pm

Hmm. Y ddwy ochr yn gwrthod rhoi modfadd? Be sydd gan y Palestiniaid i'w roi felly, pan mae Israel yn dwyn eu tir, dwyn eu dwr, lladd eu coed a'u caeau sy'n eu cadw'n fyw ac yn rhoi bywoliaeth iddyn nhw, a saethu nhw fel mae nhw'n teimlo.
Dydi hon ddim yn berthynas gyfartal. Does na ond un ochr fedr roi yn fama.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cwlcymro » Gwe 21 Tach 2003 2:44 pm

Felly ti'n trio deud du fod di'n hapus ac yn falch o fomiau Palestine ar bobl ddiniwed yn Israel?
Dwi'n flin ar Bush am gefnogi israel 100% hefyd. A dwi'n 'disgusted' gan betha mae ei byddin nhw yn ei wneud pob dydd. Dwi'n meddwl fod y wal 'rownd' y Gaza Strip yn afiach, yn anghyfreithlon ac yn anfaddeuadwy.
Ond mi fedrai ddweud yr un peth am fomiau hunanladdiad Palestine hefyd.

Swn i'n licio ochri gyda Palestine, gan fod geni atgasedd llwyr at lywodraeth a byddin Israel. Ond pan ma nhw'n gwneud petha felma o hyd, allai ddim madda na'u cefnogi nhw chwaith.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Tach 2003 2:55 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Felly ti'n trio deud du fod di'n hapus ac yn falch o fomiau Palestine ar bobl ddiniwed yn Israel?
Dwi'n flin ar Bush am gefnogi israel 100% hefyd. A dwi'n 'disgusted' gan betha mae ei byddin nhw yn ei wneud pob dydd. Dwi'n meddwl fod y wal 'rownd' y Gaza Strip yn afiach, yn anghyfreithlon ac yn anfaddeuadwy.
Ond mi fedrai ddweud yr un peth am fomiau hunanladdiad Palestine hefyd.

Swn i'n licio ochri gyda Palestine, gan fod geni atgasedd llwyr at lywodraeth a byddin Israel. Ond pan ma nhw'n gwneud petha felma o hyd, allai ddim madda na'u cefnogi nhw chwaith.


Clywch, clywch. Mae'n dda gen i bo fi'n medru cyntuno efo chdi, tro yma. :winc:

Dwi wedi cael llond bol ar bobl sy'n mynnu eu bod nhw'n cefnogi heddwch, ond yn gwrthod condemnio'r Palesteiniaid sy'n lladd pobl ddiniwed. Mi ydw i wedi rhoi'r gorau i fynd i gyfarfodydd fy grwp heddwch lleol i oherwydd hyn. Mi fues i weld academydd o America yn siarad ar y pwnc, ac phan wrthododd o gondemnio'r suicide bombers, mi wnaeth na nifer fawr o'r gynulleidfa glapio.

Wrth gwrs fod Israel yn ymddwyn mewn ffordd cwbwl anghyfiawn, ond nid dyma'r ffordd i ymateb. Mae lladd pobl ddiniwed yn atgas, beth bynnag fo'r resymeg tu ol i wneud hynnu.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 21 Tach 2003 3:06 pm

Fel ddywedes i mewn llythyr at y Western Mail (na chafodd ei argraffu), mewn ymateb i rywun oedd yn dweud bod 800 o Israeliaid wedi'u lladd gan fomiau hunan-laddiad yn y tair blynedd diwethaf, cafodd 2,680 o Balesteiniaid eu lladd gan luoedd arfog Israel yn yr un cyfnod (os nad ydych chi'n fy nghredu i, ewch i http://www.palestinemonitor.org i edrych ar y ffeithiau). Mae'r bomio hunan-laddiad yn anfaddeuol, ond mae casineb yn magu casineb. Sut allwch chi gondemnio trais Palesteina yn y fath ffordd, heb drin trais Israel yn yr union un ffordd?

Ac mae Lebanon hefyd, wrth gwrs...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 21 Tach 2003 3:08 pm

I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai