Palesteina

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Tach 2003 3:18 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Mae'r bomio hunan-laddiad yn anfaddeuol, ond mae casineb yn magu casineb. Sut allwch chi gondemnio trais Palesteina yn y fath ffordd, heb drin trais Israel yn yr union un ffordd?

Ac mae Lebanon hefyd, wrth gwrs...


Ti wedi cam-ddeallt. Toes gen i ddim mymryn o gyd-ymdeimlad gyda llywodraeth Israel, a mi ydw i yn condemnio y trais mae nhw'n ei ddefnyddio yn erbyn trigolion Palesteina. Mi ydw i hefyd yn hollol gefnogol i greu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynol, sydd a'i ffiniau yn dilyn yr hen ffiniau a oedd yn bodoli ym 1967.

Ond

Mi ydw i hefyd yn condemnio'r terfysgwyr Palesteinaidd, sydd yn chwarae eu rhan yn y frwydr. Mi ydw i'n gweld hyn mewn termau hollol syml - toes yna ddim un sefyllfa lle mae posib cyfiawnhau llofruddio pobl ddiniwed.

Mae'r Awdurdod Palesteinaidd o dan Arafat, yn ogystal a Hamas ac Islamic Jihad, yn gwneud eu gorau i danseilio unrhyw ymgyrch heddwch. Toes ganddyn nhw ddim diddordeb mewn datrys y sefyllfa mewn modd cymhedrol, cytbwys. Os ydym ni o ddifrif ynglyn a dod a heddwch i'r Dwyrain Canol, yna mae'n rhaid i ni fod yn barod i gondemnio'r ffyliaid Palesteinaidd yn ogystal a'r ffyliaid Iddewig.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 21 Tach 2003 3:44 pm

Ia, ond mae condemnio trais y Palestiniaid yn ddibwrpas, gan mai'r broblem 100% yw triniaeth Israel o'u pobl. Maent wedi mynd i gymaint o anobaith fel mae'r unig ffordd medr nifer weld i ymateb yw drwy wneud i Israel geisio dioddef yr un peth a mae nhw. Wedyn efallai wnaiff Israel stopio.
Does dim pwynt eu condemnio, gan nad oes na ffordd arall ganddynt i ymateb. Maent wedi trio popeth arall.
Maent yn lladd eu hunain - siawns fod hynna yn awgrymu lefel yr emosiwn, lefel yr anobaith mae'r rhain wedi ei gyrraedd.
Mae popeth yn nwylo Israel. Pan wnaiff Israel adael llonydd i'r Palesteinaid, fe gaiff Israel lonydd hefyd. Y broblem yw fod Sharon yn gweld marwolaeth yr Israeliaid yn bris gwerth i'w dalu er mwyn rheolaeth dros y wlad gyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Tach 2003 4:01 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ia, ond mae condemnio trais y Palestiniaid yn ddibwrpas, gan mai'r broblem 100% yw triniaeth Israel o'u pobl.


Hollol anghywir. Mae Israel yn wlad fach yn y rhan anghywir o'r byd. Mae'r Palisteiniaid wedi cael eu defnyddio dros y blynyddoedd fel ffordd o weithredu ymosodiadau hiliol yn erbyn Iddewon. Wrth gwrs fod ymateb yr Israeliaid wedi bod yn fyrbwyll a llawdrwm, ond nid angylion ydi'r Palisteiniaid, chwaith. Prin iawn ydi'r problemau gwleidyddol lle mae posib rhoi'r bai i gyd ar un ochr.

Sioni Size a ddywedodd:Maent wedi mynd i gymaint o anobaith fel mae'r unig ffordd medr nifer weld i ymateb yw drwy wneud i Israel geisio dioddef yr un peth a mae nhw. Wedyn efallai wnaiff Israel stopio.
Does dim pwynt eu condemnio, gan nad oes na ffordd arall ganddynt i ymateb. Maent wedi trio popeth arall.


Bolycs llwyr. Mae 'na wastad ddewis arall. Mae hanes wedi dangos i ni fod gan bobl gyffredin, heddychlon, beth wmbreth o arfau wrth law, ac eu bod nhw'n gweithio'n lot gwell na bomiau a gynnau.

Sioni Size a ddywedodd:Pan wnaiff Israel adael llonydd i'r Palesteinaid, fe gaiff Israel lonydd hefyd.


Ond sawl gwaith yn y blynyddoedd dwytha 'ma 'da ni wedi gweld cadoediad yn cael ei dori gan fom mewn bws yn Jeriwsalem, neu gaffi yn Tel Aviv?


Tydi'r gwrthdaro yn Israel ddim fater o dda a drwg, du a gwyn. Ond mae fy egwyddorion personol i yn dweud fod ymosodiadau yn erbyn pobl ddiniwed yn anfoesol, beth bynnag fo'r amgylchiadau. Tasa'r Palesteinwyr yn dechrau ymgyrch arfog yn erbyn sefydliadau, neu yn erbyn y wal, mi fyswn i'n medru cydymdeimlo. Tasa nhw'n ymosod ar filwyr, mi fyswn i'n medru deallt rhywfaint, efallai. Ond tra bo'r bobl yma yn ymosod ar bobl ddiniwed, dwi'n meddwl fod rhaid i bob person gwar eu condemnio.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 21 Tach 2003 4:57 pm

Tydi'r gwrthdaro yn Israel ddim fater o dda a drwg, du a gwyn. Ond mae fy egwyddorion personol i yn dweud fod ymosodiadau yn erbyn pobl ddiniwed yn anfoesol, beth bynnag fo'r amgylchiadau. Tasa'r Palesteinwyr yn dechrau ymgyrch arfog yn erbyn sefydliadau, neu yn erbyn y wal, mi fyswn i'n medru cydymdeimlo. Tasa nhw'n ymosod ar filwyr, mi fyswn i'n medru deallt rhywfaint, efallai. Ond tra bo'r bobl yma yn ymosod ar bobl ddiniwed, dwi'n meddwl fod rhaid i bob person gwar eu condemnio.


Cytuno! Trueni nad yw Bush yn ddi-duedd ac yn gwneud mwy i helpu'r sefyllfa anobeithoiol yma!

Dull-di-drais yw'r unig ffordd! Ac yn wir y ffordd mwyaf effeithiol yn y pen draw!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 21 Tach 2003 5:06 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Trueni nad yw Bush yn ddi-duedd ac yn gwneud mwy i helpu'r sefyllfa anobeithoiol yma!


Wyddost ti be, dwi ddim yn meddwl mai ar Bush yn bersonol mae'r bai. Ar yr yn pwnc yma, mae cael Bush yn y Ty Gwyn o fantais. Y rheswm am hyn ydi fod Iddewon yn America yn pleidleisio, ac yn cyfrannu pres mawr, i'r Democratiaid. A mae nhw'n ymateb yn ffyrnig iawn os ydi unrhyw wleidydd yn beirniadu Israel. Gan eu bod nhw ofn colli'r pres a'r pleidleisiau, mae Democratiaid yn gyndyn o fynd i'r afael a Sharon, ond gan fod gan George bres yn llifio i mewn o bob cyfeiriad beth bynnag, tydi o ddim yn goro poeni.

Fy ngobaith i ydi y gwneith Blair roi pwysau ar Bush i weithredu. Er nad ydi hi'n ymddangos felly weithiau, mae'r busnes Irac 'ma wedi niweidio Bush, a mae o'n awyddus i enill ffrindiau ar y llwyfan rhyngwladol. Os yr enillith o ail etholiad (sy'n edrych yn debygol iawn), gobeithio y gwneith o wbath am yr holl lanast. Dyn bach vain ydi Bush yn y diwedd, ac mae o'n awyddus i gael ei enw i mewn i'r llyfrau hanes. Mae 9/11 wedi sicrhau hyn iddo fo yn America, ond mae o'n dal i drio gneud ei farc yn rhyngwladol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Tach 2003 12:18 pm

Mae'r bomio hunan-laddiad yn anfaddeuol, ond mae casineb yn magu casineb. Sut allwch chi gondemnio trais Palesteina yn y fath ffordd, heb drin trais Israel yn yr union un ffordd?

Fel ddudodd Garnet, ma'n raid i chdi gamddalld yn dadl ni.
Condemio'r ddwy ochr yda ni, gan ddeud, er o ran ideoleg ein bod ni'n cefnogi palestine (hynny yw, yn credu eu bod nhw'n gywir i drio cael ei gwlad ei hyn), ein bod ni'n condemio eu dullia nhw yn union run faint o ydy ni'n condemio Israel.

Dim ots pa mor gywir yw'r ddadl, dim ots pa mor uffernol yr ydy chi'n cael eich trin, dim lladd pobl ddiniwed ydi'r atab.
Os fysa'r palestiniaid yn targedu ei bomiau at dargedau go-iawn, fel y wal, neu byddin Israel, mi fysa nhw'n cael llawer mwy o gydymdeimlad genai. Ond tra ma nhw yn dal i ladd pobl ddiniwed, fedra nhw ddim disgwyl cefnogaeth pawb.

Ma agwedd un-ochrog America tuag at Israel yn yng ngwneud i yn uffernol o flin. Ond meddylia am fyd lle ma pobl Palestine yn ymladd am ei hawl heb drais. Anodd iawn fysa i UNRHYWUN, hyd yn oed rhen George, i beidio condemio Israel am ddefnyddio dulliau treisgar wedyn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 24 Tach 2003 1:39 pm

Datganiad cyffredinol oedd e, nid wedi'i gyfeirio'n benodol atoch chi.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Cwlcymro » Llun 24 Tach 2003 1:42 pm

Digon teg! Ni odd yn ben mawr yn cymryd bo pawb isho sharad efo ni!! :lol:
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 24 Tach 2003 1:52 pm

Wedi dweud hynny, wrth gwrs, dyw trais gan Israel yn cael fawr o sylw yn y cyfryngau, tra'u bod nhw'n mynd drwy drais Palesteina a chrib fan bob tro. Felly dyw'r ddwy och ddim yn cael eu trin yn gytbwys o bell ffordd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Tach 2003 2:34 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Wedi dweud hynny, wrth gwrs, dyw trais gan Israel yn cael fawr o sylw yn y cyfryngau, tra'u bod nhw'n mynd drwy drais Palesteina a chrib fan bob tro. Felly dyw'r ddwy och ddim yn cael eu trin yn gytbwys o bell ffordd.


Ydi hyn yn wir bellach? Mae hi'n dibynnu ar lle wyt ti'n cael dy newyddion. Cym heddiw, er engraifft. Mae erthygl tair tudalen yng nghylchgrawn G2 y Guardian yn dilyn taith awdures o'r Aifft drwy Balesteina, erthygl sy'n gefnogol iawn i'r Palistenwyr. A mae hyn yn beth cymharol gyffredin yn y Guardian, yn ogystal a'r Independent, ac i raddau llai y Mirror.

Efallai nad ydi Israel yn cael rhyw lawer o sylw ar y newyddion teledu, ond fel 'da ni wedi trafod mewn edefyn arall, mae 'na ddiffyg newyddion rhyngwladol yn gyffredinol ar y newyddion. Beth sy'n ddiddorol am y drafodaeth yma ydi fod cefnogwyr Israel yn gwneud union yr un cyhuddiad- fod y cyfryngau ym Mhrydain yn un-ochrog, ond o blaid y
Palisteinwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron