Palesteina

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Palesteina

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 21 Awst 2003 9:22 pm

Ma Israel di dechra dial ar Balesteina, yn Gaza y tro hwn, newydd glwad ar y newyddion. Dwi wir ddim cweit yn deall meddylfryd unrhywun fasa isho gneud y fath lanast ar y cama' odd bron a chal eu cymryd ddeuddydd yn ol, a pha Balesteinian fasa isho gneud y fath beth.

Sori, jysd meddwl yn ychal am wn i. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Huw T » Llun 25 Awst 2003 11:29 pm

Ar y foment fi'n darllen The seven pillars of wisdom gan TE Lawrence (Lawrence of Arabia), sy'n croniclo hanes y dwyrain canol yn WW1, ynghyd a rhoi insight Lawrence ar feddylfryd a sefyllfa'r Arabiaid.
Mae'n rhaid fi ddweud fod da fi lot fawr o gydymdeimlad tuag ati nhw bellach, oherwydd y ffordd ma nhw wedi cael ei manipulato gan Brydain, Ffrainc, UDA a'r Iddewon. Mewn gwirionedd, ni ddyle gwledydd fel Saudi, Iraq, Syria a Lebannon fodoli, jyst un wlad Arabaidd fawr, ac efallai, petai hynny'n dod i fodolaeth byddai'n haws i'r Israeliaid gydfyw gyda'i brodyr Arabaidd (brodyr ymhob dim ond crefydd).
Sori. Off topic braidd, but hey!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 28 Awst 2003 9:03 am

Ia de? Dwi'm yn gwbod lot am hanas y lle a bod yn hollol onasd, ond mae o wir yn pisho fi off bod Iddewon, o bawb, yn ymddwyn yn y fath ffor' dreisgar, ar ol iddyn nhw gal amsar mor hunllefus yn yr ail ryfal byd. Ma gin i ffrind sy' allan yn Jeriwsalem rwan, ac mi ddudodd bod o di picio draw i weld arddangosfa ar yr holocost, ac mi oedd o'n cal 'i ddefnyddio fatha propaganda medda fo, yr iddewon i gyd yn cal mynd yno am ddim, a phawb arall yn talu, a wedyn odd o fatha bo nhw'n defnyddio'r erchyllder yna fath rwbath i danio pobl dros weld y dyla nhw gal rwbath 'u hunan rwan, tir yn bennaf, ar ol gymaint ma nhw di bod drwyddo fo. Wel blydi hel, siawns y dyla nhw ddysgu o hynny fod pobl yn bwysicach na thir a meddiant.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Cardi Bach » Llun 01 Medi 2003 9:36 am

Huw T a ddywedodd:Ar y foment fi'n darllen The seven pillars of wisdom gan TE Lawrence (Lawrence of Arabia), sy'n croniclo hanes y dwyrain canol yn WW1, ynghyd a rhoi insight Lawrence ar feddylfryd a sefyllfa'r Arabiaid.
Mae'n rhaid fi ddweud fod da fi lot fawr o gydymdeimlad tuag ati nhw bellach, oherwydd y ffordd ma nhw wedi cael ei manipulato gan Brydain, Ffrainc, UDA a'r Iddewon. Mewn gwirionedd, ni ddyle gwledydd fel Saudi, Iraq, Syria a Lebannon fodoli, jyst un wlad Arabaidd fawr, ac efallai, petai hynny'n dod i fodolaeth byddai'n haws i'r Israeliaid gydfyw gyda'i brodyr Arabaidd (brodyr ymhob dim ond crefydd).
Sori. Off topic braidd, but hey!


Mae nifer o drafferthion y byd yn tarddu o gyfnodau ymerodraethol Prydain, Sbaen, Portiwgal, Belg, Ffrainc ac eraill.

Edrych ar Irac. Yn y newyddion mae nhw wastad yn cyfeirio at 'Ogledd Irac' lle mewn gwirionedd 'De Cwrdistan' yw e. Mae yna dair gwlad, oleia, gwahanol o fewn ffiniau Irac, yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Mae trafferthion dychryn Rwanda a'r Congo oll yn deillio o gyfnod ymerodraeth Ffrainc a Belg yno ayb. Pe edrych rhywun ar fap o Affrica a'r dwyrain canol fe welwch fod llu o'r gwledydd gyda ffiniau hollol syth - biwrocratiaid Fictoria ac eraill yn defynddio rwler a thynnu llinell ar fap i rannu ardaloedd rhwng ymerodraethau hen ystyried dim am genhedloedd yr ardaloedd hynny.

Mae trafferthion Palesteina ac Israel, er yn rhannol fai ar ymerodraeth Prydain, hefyd yn mynd nol i gyfnod yr Hen Destament (un enghraifft syml - y Samariad Trigarog)!!! ('Na beth yw 'grudge hir :o ).
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 01 Medi 2003 3:50 pm

be sy mlan da grwp heddwch aber dyddie ma Cardi?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan ceribethlem » Sul 14 Medi 2003 9:21 pm

be sy mlan da grwp heddwch aber dyddie ma Mabs?


Neis gweld bod y ddawn o gadw at y pwnc dal yn un wyt ti'n ymarfer yn gyson Rhys :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Huw T » Sul 14 Medi 2003 10:29 pm

Gan gadw ar y pwnc, wrth gwrs, mae newydd yn nharo i fod Ceri yn defnyddio negeseuon subliminal i hybu twristiaeth ym Methlehem -

Ceri Bethlem = Cer i Bethlem :ofn:

Wedi bod, a chael stamp!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 14 Medi 2003 10:32 pm

ceri a ddywedodd:Neis gweld bod y ddawn o gadw at y pwnc dal yn un wyt ti'n ymarfer yn gyson Rhys


Ma fe y twpsyn. tro dwetha i fi glywed roedd y grwp heddwch yn neud lot efor ymgych dros y Palestiniaid!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan ceribethlem » Llun 15 Medi 2003 8:24 pm

ceri :
Neis gweld bod y ddawn o gadw at y pwnc dal yn un wyt ti'n ymarfer yn gyson Rhys


Ma fe y twpsyn. tro dwetha i fi glywed roedd y grwp heddwch yn neud lot efor ymgych dros y Palestiniaid!

Yn gysylltiedig yn sicr, ond na fyddai edefyn am fudiad ychydig mwy perthnasol dan yr amgylchiadau. Oherwydd yn y pen draw mae'r sgwrs yma wedi mynd oddi ar y pwnc bellach :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cardi Bach » Iau 16 Hyd 2003 11:11 am

Wel y blydi hel, ma rhai Palesteiniad wedi dechre ymosod ar ddiplomyddion America nawr! (http://www.guardian.co.uk/israel/Story/0,2763,1063942,00.html)

Na'r peth dwetha o'n nhw ishe neud! Hwn yw'r esgus sydd angen ar America i gefnogi Sharon a'i regime gant y cant yn ei ymdrech i ddinistrio Palesteina, ac arfogi Israel hyd yn oed ymhellach!

Damo Damo Damo Damo Damo Damo Damo

Bols! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron