Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 3:10 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Yn fy marn i, mae'r ddelwedd o Israel/Palesteina yn weddol unochrog yn y cyfryngau, yn enwedig os nad ydych chi'n talu llawer o sylw i'r materion hyn. Pan o'n i'n iau, a ddim yn cymryd llawer o sylw o'r pethau hyn, ro'n i o'r farn fod y Palesteiniaid yn lofruddwyr di-drugaredd, oedd yn ceisio erydu Gwladwriaeth Israel, ac fe gymerodd hi nifer o flynyddoedd i sylweddoli nad dyma oedd y darlun cyflawn. Mae'n wir bod y llanw yn troi, ond mae'n dal rhaid i ti ymbalfalu ymhlith y papurau a'r sianelau newyddion i ganfod y gwir stori.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 3:22 pm
gan Garnet Bowen
Fe gyhoeddwyd canlyniadau arolwg Ewropeaidd wythnos dwytha, lle roedd trigolion ym mhob gwlad yn yr UE wedi cael eu holi ynglyn a materion rhyngwladol. Ac eithrio'r Eidal, fe wnaeth bob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd fynegi barn mai Israel ydi'r bygythiad mwyaf i heddwch y byd. Os ydi'r cyfryngau mor un-ochrog, o lle mae'r holl bobl yma wedi cael y wybodaeth sydd wedi eu harwain nhw i gredu hyn?

A dwi ddim yn meddwl fod ymwybyddiaeth o broblemau'r Palisteiniaid yn rhywbeth diweddar. Efallai dy fod ti yn bersonol ddim yn ymwybodol ohonyn nhw, ond mae'r Palisteiniaid wedi bod yn cause celebre ar y chwith ers y saithdegau - lle roedd cymeriadau fel Leila Khaled a Abu Nidal yn enwau byd-enwog.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 2:37 pm
gan Cwlcymro
Ac eithrio'r Eidal, fe wnaeth bob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd fynegi barn mai Israel ydi'r bygythiad mwyaf i heddwch y byd


Ond be sy YN fy ngwylltio i ydi fod Israel yn dod allan wedyn a deud ma anti-semitism gan Ewrop ydi hyn. Yn wir mi oddna erthygl yn y Guardian ddoe yn dweud fod llawer o Iddewon yn credu fod Ewrop yn hiliol yn ei herbyn nhw gan fod Ewrop yn cefnogi Palestinia.
A dyna un o broblema arall y ddadl, os ti'n ochri yn erbyn Israel, ti'n rhedeg y risg o gael dy alw'n hiliol yn erbyn Iddewon.