Tudalen 1 o 4

Llyfyr ar Heddychiaeth

PostioPostiwyd: Sad 23 Awst 2003 9:47 am
gan Rhys Llwyd
Ma dy fi stock pile o'r llyfyr 'Rhyfel yr Oen' gan Arfon Jones. Mae'n dadlau Heddychiaeth or safbwynt beiblaidd.

Os chishe copi nai bostio un i chi.

Dywedwch!

PostioPostiwyd: Sad 23 Awst 2003 6:37 pm
gan Osian Rhys
faint mae'n gostio?

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 4:24 pm
gan Rhys Llwyd
dim

Nath yr awdur eu hun roi peil ohonyn nhw i fi er mwyn ein gwneud ni bobl ifanc fwy effro.

Gei di gopi pan ddai i Banty.

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 8:12 pm
gan Osian Rhys
o, diolch :lol:

ers amser tgau, dwi wedi darllen y nesa peth i ddim (dim hyd yn oed y 'llyfrau hanfodol' ar gyfer gwaith ysgol/coleg..)
ond dwi wedi ailddechre darllen yr haf yma -- a dwi'n mwynhau hefyd!
hen bryd...

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 8:17 pm
gan Hogyn o Rachub
Faint o fawr ydi o Rhys?

Dw i'm yn heddychwr o bellffordd, ond fe hoffwn i gael copi os mae'n bosib. Fysat ti'n fodlon ei yrru fo fyny i Rachub i mi?

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 8:40 pm
gan Osian Rhys
ddim yn heddychwr o bellffordd hogyn?
be ti'n feddwl? wyt ti'n hoffi'r syniad o ryfel?

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 8:56 pm
gan Hogyn o Rachub
Wwwwwwww nadw. Ella gor-ddweud oedd 'o bellffordd'. Dydw i'm yn cefnogi y math o 'ryfel' sy'n cael ei bracdisio gan pobl fel yr IRA, ETA neu Al-Qaeda (hyd yn os ydw i'n sympatheisio'n arw รข'r achos, fel un yr IRA ac ETA), ond dw i'n mynegi cefnogaeth gadarn i mudiadau fel Meibion Glyndwr yn llosgi taf haf. Nid heddychwr mohonof.

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 9:13 pm
gan Osian Rhys
oce, sori am hynna, o'n i jyst yn intrigued

PostioPostiwyd: Sul 24 Awst 2003 10:08 pm
gan Macsen
Be am losgi'r tai bach? :D

Ar ol tri diwrnod o gachu'n y goedwig mi fydd yr holl saeson yn marw eisiau mynd nol i'w gwlad ei hunain.


Llyfr ar heddychiaeth gan Arfon Jones?! Mae'r dyn yna wedi achosi mwy na tipyn o ddifrod seicolegol i fi. Dwi dal angen therapi hyd heddiw.

Y ticlo, y ticlo... y ticlo diddiwedd... :ofn:

PostioPostiwyd: Llun 25 Awst 2003 9:55 am
gan Rhys Llwyd
Wrth gwrs Iason, diom yn fawr iawn OND mae'r syniadaeth yn hynod o ddwfn a beiblaidd