Cymedrolwr: Cwlcymro
Llyfr ar heddychiaeth gan Arfon Jones?! Mae'r dyn yna wedi achosi mwy na tipyn o ddifrod seicolegol i fi. Dwi dal angen therapi hyd heddiw.
Osian Rhys a ddywedodd:o, diolch
ers amser tgau, dwi wedi darllen y nesa peth i ddim (dim hyd yn oed y 'llyfrau hanfodol' ar gyfer gwaith ysgol/coleg..)
ond dwi wedi ailddechre darllen yr haf yma -- a dwi'n mwynhau hefyd!
hen bryd...
Osian Rhys a ddywedodd:jyst random thought hefyd: gofies i neithiwr (ar ôl guinness arall neu ddau) bo ti di dysgu fi yn y flwyddyn gynta -- o'n i ddim yn cofio!! er gwaetha'r dylanwad mawr gest ti arnai, yn amlwg
Gwen a ddywedodd:Mmm, at hynny on i'n cyfeirio... dwi'n meddwl . Ti isio i fi ddeud wrth bawb ar y maes mor dda oeddet ti'n neud?
Gwen a ddywedodd:Dwi rhwng dau feddwl ar hyn o bryd p'un ai i gymryd seminarau neu beidio y flwyddyn nesa - beryg sa well imi beidio. Eto, dwi'm i weld yn gadael creithiau emosiynol ar y myfyrwyr. Sydd yn beth da (yndi?).
Ella sa'n well i mi jyst canolbwyntio ar fy ymchwil.
Rhys Llwyd a ddywedodd: Pwy wyt ti prun bynnag, sut ti'n nabod Arfon? Mab i bwy wyt ti?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai