Llyfyr ar Heddychiaeth

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Huw T » Llun 25 Awst 2003 11:22 pm

Sain credu fod na drafodaeth ar heddychiaeth/ gwrthwynebwyr cydwybodol wedi bod ar y Maes eto. Beth amdani? Rhywun am greu Pwnc newydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Cardi Bach » Maw 26 Awst 2003 8:59 am

Ti'n meddwl alle ti ddod a chopi draw ata i Rhys?
Jiolch yn dalpe :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 26 Awst 2003 9:10 am

Wrth gwrs Cardi, fyddi di yn Roc y Castell ddydd Sadwrn? Os na nai drefnu cwrdda ti rywbryd cyn bo hir.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 26 Awst 2003 9:11 am

Llyfr ar heddychiaeth gan Arfon Jones?! Mae'r dyn yna wedi achosi mwy na tipyn o ddifrod seicolegol i fi. Dwi dal angen therapi hyd heddiw.


Yn eironig ddigon ma fy modryb (sy'n priodi fory) newydd fy ffonio a gofyn i fi fod wrth y drws i atal Arfon Jones rhag dod i fewn!!!!!!!!!

M<ae'n debyg fod e'n infymys am neud prancs mewn priodase!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 26 Awst 2003 9:12 am

Ifan Morgan Jones:

Pwy wyt ti prun bynnag, sut ti'n nabod Arfon? Mab i bwy wyt ti?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Maw 26 Awst 2003 11:06 am

Osian Rhys a ddywedodd:o, diolch :lol:

ers amser tgau, dwi wedi darllen y nesa peth i ddim (dim hyd yn oed y 'llyfrau hanfodol' ar gyfer gwaith ysgol/coleg..)
ond dwi wedi ailddechre darllen yr haf yma -- a dwi'n mwynhau hefyd!
hen bryd...


On i'n ama... :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Osian Rhys » Maw 26 Awst 2003 5:44 pm

:drwg: be ti'n insinyrêtio? :D

gyda llaw gwen, gai ymddiheuro am dy fwydro di a lefi noson o'r blaen -- guinness neu ddau yn ormod dwi'n ame (mae gen i restr o bobl i ymddiheuro iddyn nhw ar ôl y noson yna).

jyst random thought hefyd: gofies i neithiwr (ar ôl guinness arall neu ddau) bo ti di dysgu fi yn y flwyddyn gynta -- o'n i ddim yn cofio!! er gwaetha'r dylanwad mawr gest ti arnai, yn amlwg :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Postiogan Gwen » Mer 27 Awst 2003 10:40 am

Osian Rhys a ddywedodd:jyst random thought hefyd: gofies i neithiwr (ar ôl guinness arall neu ddau) bo ti di dysgu fi yn y flwyddyn gynta -- o'n i ddim yn cofio!! er gwaetha'r dylanwad mawr gest ti arnai, yn amlwg :winc:


Mmm, at hynny on i'n cyfeirio... dwi'n meddwl :? . Ti isio i fi ddeud wrth bawb ar y maes mor dda oeddet ti'n neud?

Dwi rhwng dau feddwl ar hyn o bryd p'un ai i gymryd seminarau neu beidio y flwyddyn nesa - beryg sa well imi beidio. Eto, dwi'm i weld yn gadael creithiau emosiynol ar y myfyrwyr. Sydd yn beth da (yndi?).

Ella sa'n well i mi jyst canolbwyntio ar fy ymchwil.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Osian Rhys » Mer 27 Awst 2003 1:10 pm

Gwen a ddywedodd:Mmm, at hynny on i'n cyfeirio... dwi'n meddwl :? . Ti isio i fi ddeud wrth bawb ar y maes mor dda oeddet ti'n neud?

o'n i yn meddwl. pa mor dda? :ofn: na, peidio deud dim byd fydde ore..

Gwen a ddywedodd:Dwi rhwng dau feddwl ar hyn o bryd p'un ai i gymryd seminarau neu beidio y flwyddyn nesa - beryg sa well imi beidio. Eto, dwi'm i weld yn gadael creithiau emosiynol ar y myfyrwyr. Sydd yn beth da (yndi?).

Ella sa'n well i mi jyst canolbwyntio ar fy ymchwil.

na, gna seminarau eto os ti'n cal dy dalu! mae'n eitha hawdd swn i'n feddwl ( :? ), a falle nei di gwrdd rhywun arall mor ddiddorol a fi blwyddyn nesa!

dwi di bod yn lwcus efo nhiwtoriaid seminare -- mari elin, ti, john rowlands a gruffydd aled. neb arswydus! siarad am fyfyrwyr nerfus mewn seminars o'n i noson o'r blaen pan gofies i amdanat ti -- efo ifor ap dafydd. mae pawb ei ofan o!

dwi o hyd yn cofio y peth cynta ddedest ti am ryw reswm: yn eitha tawel "gwen di'n enw i, a (wedyn yn fwy strict) sim isho chi alw fi'n ddim byd arall." o'n i'n meddwl bod hynna'n ffyni, a nes i licio ti o'r amser hynny mlaen... :D

sori, dwi'n gwastraffu lle ar maes e efo rwdl di-bwrpas..
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Postiogan Macsen » Mer 27 Awst 2003 7:36 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd: Pwy wyt ti prun bynnag, sut ti'n nabod Arfon? Mab i bwy wyt ti?


Dwi'n credu fy mod i wedi datgelu gormod drwy ddefnyddio fy enw go iawn i ar y rhyngrwyd, ond dim otch. Os wyt ti'n troi allan i fod yn laddwr cornfleks, o leia mi fydd yr heddlu yn medru dy ddala di drwy ddarllen y pwnc hon.

Ifan M. Jones ydw i, mab i Rhodri Prys Jones a oedd yn arfer bod yn producer rhagleni cristnogol cymraeg i'r Beeb, tan i Dduw ei alw'n gynnar tuag ato (mewn geiriau eraill, mi giciodd o'r bwced). Dwi'n mynychu capel y Garth ym Mangor (pan ydw i adref o'r coleg). Dwi yn nabod Arfon fel un o'r llawer wncwls yma, sydd ddim wir yn wncwl i mi (A wnaeth o ddim fy nabod i yn y Gorlan, felly dwi wedi pwdu ag ef).

Ac yn son am Arfon Jones yn chwarae tricia mewn priodasau, gwna'n siwr bod o'm yn mynd ar gyfyl car y groom...

A dwi'n siwr fy mod i'n dy nabod di, oherwydd dwi yn nabod bob un cristion yng Nghymru. Heblaw bod dau Rhys Llwyd ar gael.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron