Mae fy mhartner wedi gofyn i mi i ofyn i chwi, maeswyr annwyl a heddychlon, am syniadau ynglyn â sloganau Cymraeg eu hiaith i fynd ar y <a href="http://morfablog.com/lluniau/0308/peiriant_heddwch.jpg">Peiriant Heddwch hwn</a>. Dyw'r llun ddim yn dda iawn (mae'n bwrw glaw, felly oedd rhaid tynnu'r llun yn y gegin) ond gobeithio eich bod chi'n gallu gweld y syniad. Wedi wneud ar gyfer protestiadau heddwch mae e, gyda lle am 36 slogan, sy'n symud wrth i'r ordd ar yr ochr cael ei throi. Gâth y fersiwn wreiddiol ei wneud gan tad fy nghariad, ac yn ôl y sôn oedd yn eiffeithiol iawn am denu sylw'r cyhoedd yn ystod raliau ac ati.
Beth sy angen, felly, yw 18 o sloganau cofiadwy, naill ai dyfyniadau byrion, neu ymadroddion gwreiddiol. Cofiwch bydd y peiriant yn cael ei ddefnyddio yn raliau wrth-ryfel, felly dyn ni ddim angen "Nid yw Cymru ar werth" y tro 'ma, diolch