Sloganau ar gyfer "Peiriant Heddwch"

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sloganau ar gyfer "Peiriant Heddwch"

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Awst 2003 2:49 pm

Mae fy mhartner wedi gofyn i mi i ofyn i chwi, maeswyr annwyl a heddychlon, am syniadau ynglyn â sloganau Cymraeg eu hiaith i fynd ar y <a href="http://morfablog.com/lluniau/0308/peiriant_heddwch.jpg">Peiriant Heddwch hwn</a>. Dyw'r llun ddim yn dda iawn (mae'n bwrw glaw, felly oedd rhaid tynnu'r llun yn y gegin) ond gobeithio eich bod chi'n gallu gweld y syniad. Wedi wneud ar gyfer protestiadau heddwch mae e, gyda lle am 36 slogan, sy'n symud wrth i'r ordd ar yr ochr cael ei throi. Gâth y fersiwn wreiddiol ei wneud gan tad fy nghariad, ac yn ôl y sôn oedd yn eiffeithiol iawn am denu sylw'r cyhoedd yn ystod raliau ac ati.

Beth sy angen, felly, yw 18 o sloganau cofiadwy, naill ai dyfyniadau byrion, neu ymadroddion gwreiddiol. Cofiwch bydd y peiriant yn cael ei ddefnyddio yn raliau wrth-ryfel, felly dyn ni ddim angen "Nid yw Cymru ar werth" y tro 'ma, diolch ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aran » Gwe 29 Awst 2003 2:59 pm

Mae gormod 'di marw yn barod.

Dw i ddim isio byw mewn Byd Blêr.

Lle mae teulu Tony? Adre'n ddiogel.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Ifan Saer » Gwe 29 Awst 2003 3:51 pm

Rhyfel! HY! I be mae o'n da? Diawl o'm byd!

-Apolyjis i Edwin Starr

Cadw dy blydi rhyfal

-Apolyjis i T. Rowland Hughes

Neu short and sweet - Gwrth-Ryfel
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Di-Angen » Gwe 29 Awst 2003 4:36 pm

"Dim yn fy enw i"?
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Macsen » Gwe 29 Awst 2003 7:08 pm

"Rhag eich cywilydd!"

"Lawr a'r math yma o beth!"

"Mae protest y dydd yn cadw'r Doctor Kelly's hunan-laddiad style incidents i ffwrdd!"

"Tony bler!"

"Dwi'n teimlo mor gryf am hyn fy mod i'n gwsigo bocs cardbord!"

"Daliad-22, myn iau!"
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Huw T » Gwe 29 Awst 2003 10:56 pm

Cyfiawnder nid Celwyddau
Trennau nid tanciau
Doctoriaid nid drylliau (etc. ad naseum)

Ma da fi alergedd i pwdls (neu bwdls!)
Mae'r gwaed ar eich dwylo chi!

Gweithwyr pob gwlad, unwch yn heddychlon (c'mon, odd raid fi roi honna mewn :lol: )
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan sbwriel » Sad 30 Awst 2003 4:20 pm

Peiriant sydd ddim yn lladd ?
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Aelod Llipa » Gwe 19 Medi 2003 10:12 am

Mai'n tywallt y Gwaed
Heddwch Nid Blerwch
Dim Coesau Plastig
Dim Breichiau Plastig
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron