9/11- Eich Barn!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

9/11/01

Trosedd anfaddeuol- mae gan America bob hawl i wylltio!
5
15%
Ofnadwy, ond efallai fod yr Americanwyr yn gwneud gormod o ffws.
7
21%
3,000 o bobl wnaeth farw! Faint sy'n saethu ei gilydd bob mis yn America? Exciws i ymyrrid ym musnes gwledydd eraill yw.
22
65%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Dylan » Gwe 31 Hyd 2003 2:40 pm

Boris a ddywedodd:Mae hefyd yn FFAITH fod lefelau trais yn uwch yn y taliaethau hynny lle mae yr hawl i gadw arfau wedi cael ei rwystro i ryw raddau


Mae hynny'n dibynnu ar ble 'rwyt ti'n cael dy ystadegau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Boris » Gwe 31 Hyd 2003 5:30 pm

hohohohoho :lol:

Fedri di wneud yn well na hynna :winc:

Beth am y Swisdir; yno mae cadw gwn yn y ty yn ddisgwyliad cyfreithiol. Mae ganddynt hefyd rhai o'r lefelau isaf o drais a thor cyfraith yn Ewrop.

Nid fy mod yn bersonnol dymuno cael gwn, ond mae'n taro fi mai dim ond crooks sydd ag arfau yn y DU tra fod aelodau diniwed o'r cyhoedd mewn llys oherwydd fod hen shotgun taid yn hongian ar wal y stafell ffrynt a bod nhw di anghofio cael trwydded. Serch hynny, dipyn o tangent yw hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dylan » Gwe 31 Hyd 2003 7:37 pm

wel elli di enwi dy ffynhonell felly?

petai pawb yn cadw gwn yn eu tai er mwyn 'amddiffyn eu hun' - ac, er enghraifft, yr heddlu yn cario rhai ar eu bît - yna byddai mwy o ladron yn cael rhai hefyd. Sydd yn helpu neb.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Boris » Maw 04 Tach 2003 11:05 am

Dylan a ddywedodd:wel elli di enwi dy ffynhonell felly?

petai pawb yn cadw gwn yn eu tai er mwyn 'amddiffyn eu hun' - ac, er enghraifft, yr heddlu yn cario rhai ar eu bît - yna byddai mwy o ladron yn cael rhai hefyd. Sydd yn helpu neb.


Dylan, a pawb arall o ran hynny. Dwi'n credu fod hwn yn Tangent, felly dwi am gychwyn edefyn newydd efo ychydig o ffeithiau.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Chris Castle » Gwe 07 Tach 2003 3:43 pm

Erchyll oedd digwyddiad medi'r unfed ar ddeg.

Dwi'n cofio Americanwres yn gofyn "Why do they hate us so much"

Dwi'n cofio hefyd roedd cymaint o Americanwyr yn gwrthod gwrando i'r ymateb i'r gwestiwn hon.

Dwi'n cofio hefyd pa mor "Ddoniol" roedd gweld adeiladau Iraq (rhyfel Bush y cyntaf) yn cael eu dinistrio gan arfau America.
"Wow",
"Luckiest man in Baghdad",
"Straight down the air conditioning vent"
BANG
HA
HA
HA
HA

ffycking HA HA! :drwg:

A wedyn y syndod at ymateb torfau y canol dwyrain wedi 9/11

Weithiau mae trais yn anghenrheidiol i'ch amddiffyn eich hun. Ond rhaid i'r trais yna bod yn gymhedrol i'r trosedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cwlcymro » Llun 10 Tach 2003 8:55 pm

Nadw Boris, dydwi ddim yn gyfreithiwr. Ond disgwl dwy flynadd a mi fyddai, digon da?

San Steffan yw prif awdurdod Prydain. Mi basio nhw yr European Communities Act yn '72 oedd yn ffordd, dan gyfraith Prydain, i basio pwerau i Ewrop (fel y Welsh a'r Scotish Acts arweiodd at ddatganoli, ond ar lefel lot mwy)

Yn y statute yna ma San Steffan yn dweud fod gan Ewrop yr hawl i ddweud wrth San Steffan fod rhaid iddy nhw basio deddfau. Erbyn hyn, 30 mlynedd lawr y lon, ma petha di newid ychydig.
Ma'r rhan fwya o gyfreithiau Ewrop yn dod fel 'directive' i.e. neges i bob gwlad yn dweud wrthynt wneud cyfraith am rhywbeth yn y ddwy flynedd nesa. Mai i fynnu i'r senedd benderfynnu sut i wneud hynnu.
Ma na rai cyfreithiau, 'regulations', sydd yn gyfraith yn y wlad yma yn syth, heb help San Steffan.

Ond ma hynnu yn swnio fel ma Ewrop sydd bia'r pwer. Os ydy nhw yn gallu dweud wrthom ni pa gyfreithiau i'w gwneud, a'n cosbi os na ydym ni yn ei gwneud nhw, yna onid nhw sydd yn rheoli Prydain?

NA.

Y rheswm am hyn ydi hen ddoctrin o gyfraith Lloegr a Chymru 'Parliamentary Sovreign', hynnu yw mae popeth ma San Steffan yn ei basio yn gyfraith, dim ots pa mor anghywir ydyw.
Wneith YR UN cwrt yn y wlad ddileu cyfraith San Steffan. Os oesna gyfraith Prydain a Ewrop yn clasho dyma be wnaw nhw wneud.

Os yw cyfraith Prydain yn dod cyn 1972, yna mae'r act European Communities wedi ei dileu (mae unrhyw statute sy'n gwrthddweud un arall yn dileu'r hen un)

os yw'r gyfraith Brydeinig yn un newydd ma'r barnwyr yn defnyddio "presumption of law". Hynny yw yn meddwl 'Os fysa San Steffan yn trio mynd yn erbyn cyfraith Ewrop, mi fasant wedi dweud hynnu wrth wneud y ddeddf, felly ma'n rhaid NAD ydynt yn trio, felly mi wnawn ni interpretio'r act gan gofio fod San Steffan yn trio dilyn cyfraith Ewrop'

Os fysa San Steffan yn pasio deddf gan gyfadda ei bod nhw'n TRIO mynd yn erbyn cyfraith Ewrop (fel natha nhw yn Factortame), all yr un cwrt wrthod y gyfraith Brydeinig.
Mi all yr ECJ (European Court of Justice) gosbi Prydain am wneud hyn, ond alla nhw ddim fforsho ni i newid y gyfraith.

Ar ffaith bennaf sy'n sicrhau fod Prydain dal yn wlad sofren yw fod gan San Steffan o hyd y gallu i basio deddf sy'n ein tynnu ni allan o Ewrop.

Boris, os tisho fy nhraethawd cyfan ar y pwnc (dan y teitl 'Does our membership of the European Union endanger the doctrine of Parliamentary Sovreignty?) yna jusd gyra negas breifat i fi a mi e-bostiai o i chdi.

Felly plis, cyn deutha fi bo fi'n anghywir ac ddim yn dilyn ffeithiau, cymera lwc bach ar y gyfraith!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Llun 10 Tach 2003 9:07 pm

Cwlcymro :

Dosnam byd sbesial am constitution America, heblaw'r ffaith eu bod nhw'n mynnu sticio ato yn llythrennol, dim ots pa mor dwp a henffasiwn yw'r bregeth.

Dwi'n amheus os wyt ti'n gyfreithiwr.


Eto, fel ddudid i Boris, dwi'n trio'n ngora i fod :winc:

Am y constitution DOES na ddim byd arbennig ynddo. Ma Canda a Seland Newydd efo un ysgrifenedig yn union fel America. Ma Iwerddon efo un tebyg, heblaw fod o'n cymeryd ei bwer o fan gwahanol (America 'From the Power invested in us by the people: Iwerddon 'invested in us by God)

Ma gan sawl gwlad arall un ysgrifynedig hefyd, i gyd yn cymeryd ei pwer o rwla neu ei gilydd.

Ma gan Brydain constitution. Y gwhaniaeth ydi mae un di-ysgrifenedig ydi hi. Ma hi'n dod o sawl lle 'European Communities Act 1972, Parliament Act 1901 a 1911, doctrines (petha fel, San Steffan di'r bos, ma'r frenhines yn actio ar be ma'r Prif Weinidog yn dweud etc), rheolau'r gyfraith (inncoent until proven guilty, right to a fair trial), European Convention on Human Rights a, fel ddudis i gynt, llythr gan y Frenhines i'r Times!!

Felly does na ddim byd arbennig am un America heblaw am y ffaith fod na dal gymaint o bwyslais arno fo. Ma'r cwestiwn o pa mor dda ydy pwyslais fela yn fater o farn, i rai ma'n hanfodol mewn democratiaeth, i eraill ma'n dal gwlad yn ol. Doesnam ateb cywir na anghywir am hynnu, mater o farn ydio.

Boris, ma na lot o lefydd lle dwi'n deud y marn, ac yn trio deud be dwi'n feddwl sy'n wir, ac yn glanio allan yn HOLLOL anghywir. (Fel yn atab i i Korea, embarasing iawn, sori :wps: !!)
Ond pam dwi'n siarad am gyfraith, fel arfar mi ydwi'n gwbo be dwi'n siarad am. So plis, dydi quotes sdiwpid fel
'a little knowledge is a dangerous thing'
yn gneud dim lles!!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai