9/11- Eich Barn!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

9/11/01

Trosedd anfaddeuol- mae gan America bob hawl i wylltio!
5
15%
Ofnadwy, ond efallai fod yr Americanwyr yn gwneud gormod o ffws.
7
21%
3,000 o bobl wnaeth farw! Faint sy'n saethu ei gilydd bob mis yn America? Exciws i ymyrrid ym musnes gwledydd eraill yw.
22
65%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Macsen » Gwe 12 Medi 2003 10:06 pm

Mr. Aaron a ddywedodd:Gai fod y cynta i chwerthin?!


Mi eiliaf y chwerthin hwnnw.

Yr Annwyl Syr Pogon a ddywedodd:Ffrancwyr, ffanatigs Islamaidd a stiwdent-wancars anwybyddus sy yn eu casau.


Dw i ddim yn casau pobl America. Mae hyna fel vegetarian yn casau y cyllell torri cig. Dwi'n casau y blydi pobl sy'n rhedeg yr UDA. Os dani misho byw mewn gwlad lle mae posib cael eich rhoi i farwolaeth, lle does dim rheolaeth dros gyniau ond does dim hawl i yfed tan ydach chi'n 21, a lle mae rhaid i mi dalu os dwi eisiau disgyn yn sal, ddylsen ni gael yr hawl i wneud hynny heb bobl o America yn mynd ymlaen am sut da ni'n colli allan ac yn ein bygwth ni, a pobl 'annwybyddus' tu allan i America sudd wedi llyncu hyn i gyd yn cwyno ru'n fath.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Owain Llwyd » Sad 13 Medi 2003 2:14 pm

Gan fod pogon_szczecin yn gymaint o foi garw am ei ffeithiau, dyma ychydig o ffeithiau iddo fo mewn darlith gan:

John Stockwell, former CIA Station Chief in Angola in 1976, working for then Director of the CIA, George Bush. He spent 13 years in the agency. He gives a short history of CIA covert operations. He is a very compelling speaker and the highest level CIA officer to testify to the Congress about his actions. He estimates that over 6 million people have died in CIA covert actions, and this was in the late 1980's.


Mae darllediad a thrawsgrifiad o ddarlith Stockwell yma.

Mi fysai'n ddiddorol cael ymateb pogon_szczecin i hyn, os bydd o'n ymdrafferthu i ddarllen y darn (mae'n eitha hir).

Hynny ydi, mae'n bosibl bysai'n ddiddorol darllen ei ymateb, os ydi o'n gallu ymwroli i wneud hynny heb alw enwau cas ar bobl a dweud bod nhw'n dwp achos bod nhw'n ddim yn cytuno efo fo.

Oi, pogon_szczecin. Bydd yn neis. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Macsen » Sad 13 Medi 2003 4:40 pm

The Godfather:

Micheal: My father is no different than any powerful man, any man with power, like a president or a senator.

Kay: Do you know how naive you sound Micheal? Presidents and senators don't have men killed!

Micheal: Oh, who's being naive, Kay?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan pogon_szczec » Sad 13 Medi 2003 6:57 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Os dani misho byw mewn gwlad lle mae rhaid i mi dalu os dwi eisiau disgyn yn sal


Pam fyddet ti ishe talu i ddisgyn yn sal?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 13 Medi 2003 7:01 pm

Marciau llawn am methu'n pwynt yn LLWYR, pogon :rolio:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan pogon_szczec » Sad 13 Medi 2003 7:03 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Hynny ydi, mae'n bosibl bysai'n ddiddorol darllen ei ymateb, os ydi o'n gallu ymwroli i wneud hynny heb alw enwau cas ar bobl a dweud bod nhw'n dwp achos bod nhw'n ddim yn cytuno efo fo.

Oi, pogon_szczecin. Bydd yn neis. :)


Byddaf yn peidio a gwylltio trigolion eraill y maes os nag yn nhw yn fy ngwylltio.

Efallai Cymry Cymraeg ydi pobl mwyaf croen denau'r byd.

Tair mil o bobl wedi'u lladd ar 9/11 a mae'r hawl gyda chi sgwenu:

"Os oedd un wlad yn ei haeddu hi yr UDA oedd hwnnw"

Ond os yw rhyw fenyw dwp yn dweud rhywbeth dwp amdanoch chi rhaid mynd yr holl ffordd i Gaer Edin i brotestio.

Sut fuasech chi'n ymateb petai rhywun yn hedfan awyren yn bwrpasol i fewn i bawilion yr Eisteddfod Genedlaethol gan ladd tair mil ohonoch, a wedyn rhyw Sais yn sgwenu ............

"Os oedd un wlad yn ei haeddu hi Cymru oedd hwnna"..... ?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Sad 13 Medi 2003 11:00 pm

Pogs a ddywedodd:Sut fuasech chi'n ymateb petai rhywun yn hedfan awyren yn bwrpasol i fewn i bawilion yr Eisteddfod Genedlaethol gan ladd tair mil ohonoch, a wedyn rhyw Sais yn sgwenu ............

"Os oedd un wlad yn ei haeddu hi Cymru oedd hwnna"..... ?


Mae gen ti hanner pwynt da fan yma Pogon, ond…

Os fysai Cymru yn haeddu'r fath beth, mi fyswn i'n barod i gytuno. Os fysai Cymru yn mynd ati i ymyrrid mewn gwledydd eraill a lladd ei pobl or eu mwyn ei hun, mi fyswn i'n cytuno. Os fysai Cymru yn meddwl bod ei diwylliant yn well nag pob un arall, ac yn mynd ati i wthio'r diwylliant yma ar bob gwlad arall, mi fywsn i'n cytuno. Os fysai Cymru'n chwarae rhan mawr mewn globalisation, ac yn gwneud i bobl weithio ac bygyr all mewn ryw ffatri mewn gwlad arall fel ei bod nhw'n cael dreifio sport utilitiy vehichles rown y dre, mi fyswn i'n cytuno. Os fysai Cymru'n mynd ati i pissio gweddil y byd i ffwrdd drwy'r amser a smalio ei bod nhw'n ei hoffi fo, mi fyswn i'n cuddiad o dan fy ngwely a ddim yn dod allan.

A does dim tair mil o bobl ar faes yr eisteddfod, dwi'm yn meddwl. Mae o bach yn spraed out, felly wn i ddim os fysan nhw'n lladd pawb... hmmm...

Ac dweud bod boi or Enw Pogon o wlad pwyl yn crashio plen mewn i'r Eisteddfod, fyswn i ddim yn flin a'r wlad pwyl (mae'n hwyl) ond gyda Mr. Pogon. Fyswn i yn enwedig ddim am fynd ar rampage gan ladd pawb yn wlad pwyl, ac yna symud ymlaen i wlad lle mae'r pobl yn edrych yn debyg i Mr. Pogon, ac yn y blaen, ac yn y blaen...

OND, Mr. Pogon. Dwi'n cytuno a ti, dim bod y wlad heb heuddu 11/9, ond bod y BOBL a oedd yn y tyrrau heb ei haeddu. Wrth gwrs, dyw neb yn haeddu marwolaeth. Neb. Ond fel arfer yn y pethau yma mae pobl yn cael ei dal yn y cross-fire, sy'n bechod.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Sul 14 Medi 2003 3:23 pm

aaargh

pogon, 'does NEB yn haeddu marwolaeth. Yn ddi-eithriad. 'Roedd be' ddigwyddodd ar Fedi'r 11fed 2001 yn gwbwl gwbwl anfaddeuol a 'does dim ei gyfiawnhau o'r gwbwl. (oes rhaid rhoi y ffycing disclaimers 'ma eto?)

OND mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng "haeddiant" a "deall" pam ddigwyddodd o. Mae nifer o resymau am be' ddigwyddodd. 'Dydi'r un ohonynt yn cyfiawnhau gyrru awyrennau mewn i adeiladau anferth a lladd 3000, ond mae'n dal yn bwysig i ni geisio deall be ddiawl ddoth dros eu meddwl. Wedi'r cyfan, mae'n raid ei fod o'n eitha' pwysig i waranty y fath weithred giaidd.

'Dydi America ddim yn ddi-fai. Mae'n rhaid iddynt sylweddoli PAM mae cymaint o bobol yn ei casau nhw (a paid a meiddio jyst ei roi i gyd i lawr i "genfigen" neu fyddai'n rhoi fy nwrn trwy'r monitor 'ma mewn rhwystredigaeth) a cheisio cywiro'r broblem. Yr unig beth maent yn ei wneud ar y funud ydi gwneud pethau'n waeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Huw T » Sul 14 Medi 2003 3:57 pm

Cwestiwn o natur gyfreitihol - Mae Mr Bin Laden wedi dweud ei fod e mewn rhyfel yn erbyn America. Os felly (a chan gymryd taw ef oedd yn gyfrifol am 11/9) oni ellir dadlau taw 'act of war' nid 'act of terrorism' oedd 11/9, ac y dylai aelodau Al qaeda gael ei trin fel PoWs, nid terfysgwyr?

Budding lawyers, answers on a postcard
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Dylan » Sul 14 Medi 2003 4:05 pm

"The War Against Terror" (TWAT) ydi'r ffars mwya' ers, ym, y "War on Drugs"
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai